Adolygiadau Ofcom o Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus
Mae gan ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus (PSB yn Saesneg) draddodiad hir a balch yn y DU yn cyflwyno newyddion sy’n ddiduedd ac y gellid ymddiried ynddo, rhaglenni sydd wedi’u cynhyrchu yn y DU a chynnwys unigryw.
Y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yw’r rhai hynny sy’n darparu gwasanaethau Channel 3, Channel 4, Channel 5, S4C a’r BBC. Er bod holl sianelau teledu gwasanaeth cyhoeddus y BBC yn sianelau darlledu gwasanaeth cyhoeddus, dim ond y prif sianelau o bob un o’r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus eraill sydd â’r statws hwn.
Mae’r adolygiadau a’r adroddiadau isod yn darparu gwybodaeth ynglŷn â sut mae’r darlledwyr teledu gwasanaeth cyhoeddus yn perfformio o ran darparu darlledu gwasanaeth cyhoeddus (DGC).
Fe wnaethon ni gomisiynu ymchwil i ofyn i wylwyr a gwrandawyr ar draws y DU i roi eu barn i ni am gynnwys darlledu gwasanaeth cyhoeddus (DGC), ei rol a'i berthnasedd i'w bywydau, a sut gallai hynny newid yn y dyfodol. Mae'r adroddiad llawn a'r fideos yn dangos rhai o'n canfyddiadau yn ystod y cyfweliadau a'r grwpiau ffocws ar gael isod.
Rydyn ni hefyd wedi cyhoeddi adroddiad meintiol a thablau data yn canolbwyntio ar fuddion personol a chymdeithasol DGC. Mae hwn yn rhan o'n hymchwil parhaus a chafodd ei gynnal cyn cyfnod clo Covid-19 y DU.
Mae'r cynnwys isod ar gael yn Saesneg yn unig.
Public Service Broadcasting: omnibus survey findings (PDF, 782.1 KB)
Public Service Broadcasting: omnibus survey findings – data tables (PDF, 2.6 MB)
Public Service Broadcasting: omnibus survey findings – data (CSV, 3.0 MB)
Pa gyfryngau rydych chi'n gwylio neu'n gwrando iddynt?
Beth yw gwerth Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus?
Beth yw rol Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yn y dyfodol?
A4 27 Chwefror, cyhoeddodd Ofcom adolygiad o sut mae darlledu gwasanaeth cyhoeddus wedi darparu cynnwys ar gyfer cynulleidfaoedd y DU dros gyfnod o 5 mlynedd (2014-2018) ac adolygiad pum mlynedd o berfformiad Channel 4 yn cyflawni ei ddyletswyddau cynnwys y cyfryngau
Mae cyhoeddiadau a data ategol wedi'u cynllunio i helpu i lywio ein rhaglen waith ehangach ar ddyfodol PSB – Sgrîn Fach: Trafodaeth Fawr. Dyma ymagwedd wahanol o'n harolygon PSB blaenorol. Ei bwrpas yw ysgogi sgwrs genedlaethol eang a deinamig sy'n cynnwys gwylwyr, y diwydiant darlledu, y Senedd, a rheoleiddwyr ynghylch y ffordd orau o sicrhau sut gall buddion PSB gael eu diogelu ar gyfer y dyfodol.
Lansiwyd gwefan newydd i gefnogi'r ddadl hon – ofcom.in/sgrinfach. Mae'r wefan yn eich galluogi i gael gafael yn holl ymchwil Ofcom a thrydydd parti, a deunyddiau eraill sy'n berthnasol i'n sgwrs genedlaethol am ddyfodol PSB. Mae'r safle yn gyfle i bobl ymuno â'r sgwrs a rhannu eu safbwyntiau personol er mwyn helpu i lywio ein hymgynghoriad yn yr haf.
Ar y 4 Gorffennaf 2019, fe wnaethon ni gyhoeddi dogfen yn nodi ein dull gweithredu ar gyfer y dyfodol o ran rheoleiddio’r darlledwyr gwasanaethau cyhoeddus yn yr oes ddigidol. Mae hyn yn ystyried sut gallai gwasanaethau darlledwyr cyhoeddus gael eu diffinio, eu cyflawni a’u darganfod yn y dyfodol ac yn blaenoriaethu safbwynt y gynulleidfa. Gweler Dyfodol Cyfryngau Gwasanaethau Cyhoeddus (PDF, 186.7 KB).
Ar 8 Mawrth 2018, fe wnaethon ni gyhoeddi dogfen sy'n esbonio'r heriau sy'n wynebu'r system PSB yng nghyd-destun y cynnydd mewn defnydd o gyfryngau ar-lein a chystadleuaeth wrth chwareuwyr byd-eang newydd. Wele Darlledu Gwasanaethau Cyhoeddus yn yr Oes Ddigidol.
Ar yr un diwrnod, gwnaeth Prif Weithredwr Ofcom, Sharon White, gyflwyno araith ar y pwnc yn Llundain, sydd ar gael i'w darllen yn Saesneg.
Adroddiad Ymchwil Blynyddol am Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus 2017
Mae'r adroddiadau isod ar gael yn Saesneg yn unig.
- Public Service Broadcasting Annual Report 2016
- Public Service Broadcasting Annual Report 2015
- Public Service Broadcasting Annual Report 2014
- Public Service Broadcasting Annual Report 2013
- Public Service Broadcasting Annual Report 2012
- Public Service Broadcasting Annual Report 2011
- Public Service Broadcasting Annual Report 2010
- Public Service Broadcasting Annual Report 2009
- Public Service Broadcasting Annual Report 2008
- Public Service Broadcasting Annual Report 2007