Pecyn cymorth gwerthuso ymyriadau ymwybyddiaeth o'r cyfryngau

10 Tachwedd 2023

Mae ein Pecyn Cymorth Gwerthuso yn ganllaw ‘sut i’ ar gyfer cynllunio a chynnal gwerthusiad o ymyriad ymwybyddiaeth o’r cyfryngau.

Caiff y canllaw ei ategu gan ddwy lyfrgell ar-lein y gellir eu chwilio:

Aethom ati i greu’r pecyn cymorth hwn oherwydd ein bod am rymuso’r rheini sy’n cynnal ymyriadau ymwybyddiaeth o’r cyfryngau i werthuso’u prosiectau eu hunain, a defnyddio a rhannu’r canfyddiadau hynny i gefnogi darparu mentrau mwy effeithiol yn y dyfodol.

Dyma ail fersiwn y pecyn cymorth ers ei gyhoeddi gyntaf ym mis Chwefror 2023. Mae’r fersiwn hwn wedi’i ddiweddaru, sydd wedi’i gyhoeddi ym mis Tachwedd 2023, yn seiliedig ar argymhellion adolygiad a gomisiynwyd gennym ym mis Mawrth 2023. Gallwch weld yr adolygiad hwn isod.

Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch ni yn makingsenseofmedia@ofcom.org.uk

Adnoddau

Templed Fframwaith Gwerthuso (ODT, 13.0 KB)

Templed Damcaniaeth Newid (ODT, 15.6 KB)

Cynghorion call: Cyfweliadau a grwpiau ffocws (PDF, 372.0 KB)

Cynghorion call: Arolygon a chwisiau (PDF, 478.1 KB)