Materion symudol
Mae ffonau clyfar a chysylltedd symudol yn rhan hanfodol o fywyd bob dydd i'r mwyafrif o bobl yn y DU. Er mwyn deall yn well y profiad a gânt, mae Ofcom wedi dadansoddi data torfol a gasglwyd rhwng mis Hydref 2022 a mis Mawrth 2023 o ddyfeisiau symudol ar draws y DU.
Yn yr adroddiad hwn, rydym yn canolbwyntio ar:
- y gyfran o gysylltiadau ar draws technolegau rhwydwaith di-wifr (2G, 3G, 4G, 5G a Wi-Fi);
- cyfradd lwyddiant y cysylltiadau data symudol;
- amserau ymateb gwahanol dechnolegau symudol;
- amserau lawrlwytho ac uwchlwytho ffeiliau o wahanol feintiau; a
- chyflymderau lawrlwytho ac uwchlwytho.
Rydym hefyd yn edrych ar sut mae'r rhain yn amrywio yn ôl gweithredwr a lleoliad y rhwydwaith.
Adroddiad 2023
Adroddiad Materion Symudol 2023 - Trosolwg (PDF, 342.8 KB)
Mae'r dogfennau isod ar gael yn Saesneg:
Mobile Matters 2023: Chart data (CSV, 25.5 KB)
Adroddiadau blaenorol
Materion symudol: ymchwilio i brofiad pobl o ddefnyddio gwasanaethau symudol Android (PDF, 474.8 KB)
Annex 1: Technical methodology (PDF, 158.8 KB) (Saesneg yn unig)
Annex 2: Statistical methodology (PDF, 485.5 KB) (Saesneg yn unig)
Interactive data (Saesneg yn unig)
Mapiau rhyngweithiol
Mae'r mapiau isod yn fersiynau rhyngweithiol o'r mapiau statig yn yr adroddiad ysgrifenedig. Maent yn dangos yr amrywiad yn yr amser ymateb a'r gyfradd lwyddo ar gyfer cysylltiadau symudol 4G ledled y DU, yn ogystal â newidiadau yn y ffordd a ble roedd pobl yn cysylltu â rhwydweithiau di-wifr yn ystod camau cynnar y cyfyngiadau coronafeirws.