Datganiad: Sut mae Ofcom yn rheoleiddio effaith y BBC ar gystadleuaeth – Newidiadau i ganllawiau a gofynion

  • Dechrau: 30 Tachwedd 2022
  • Statws: Datganiad a gyhoeddwyd
  • Diwedd: 06 Chwefror 2022

Datganiad wedi'i gyhoeddi 18 Ebrill 2023

Ym mis Tachwedd, fe wnaethom ni gyhoeddi ymgynghoriad ar sut mae Ofcom yn rheoleiddio effaith y BBC ar gystadleuaeth. Roedd hwn yn nodi cynigion i newid ein canllawiau ynghylch sut mae effaith y BBC ar gystadleuaeth yn cael ei hasesu, ac i osod gofyniad ar y BBC i roi cyhoeddusrwydd i newidiadau arfaethedig i’w wasanaethau cyhoeddus. Roedd yr ymgynghoriad hwn yn dilyn ein hadolygiad o Sut mae Ofcom yn rheoleiddio’r BBC, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2022.

Rydym yn gosod gofyniad newydd i’r BBC roi cyhoeddusrwydd i’r newidiadau i’w wasanaethau cyhoeddus sy’n debygol o fod yn destun asesiad perthnasedd. Bwriad hyn yw annog y BBC i fod yn fwy tryloyw gyda rhanddeiliaid am ei gynlluniau, ac i fod yn fwy cyson ynghylch sut mae’n gwneud y rhain yn gyhoeddus.


Prif ddogfennau

Dogfennau cysylltiedig

loading icon

Ymatebion

Enw'r ymatebwr Math
AudioUK (PDF File, 177.2 KB) Sefydliad
BBC (PDF File, 308.9 KB) Sefydliad
Directors UK (PDF File, 167.1 KB) Sefydliad
News Broadcasting (PDF File, 359.5 KB) Sefydliad
News Media Association (PDF File, 329.0 KB) Sefydliad