Ymgynghoriad: Diogelu plant rhag niwed ar-lein

  • Dechrau: 08 Mai 2024
  • Statws: Ar agor
  • Diwedd: 17 Gorffennaf 2024

Dyma’r ail ymgynghoriad mawr y bydd Ofcom, fel rheoleiddiwr y Ddeddf Diogelwch Ar-lein, yn eu cyhoeddi fel rhan o’n gwaith i sefydlu’r rheoliadau newydd.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn canolbwyntio ar y mesurau rydyn ni’n eu cynnig ar gyfer sut y dylai gwasanaethau rhyngrwyd sy'n galluogi rhannu cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr ('gwasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr') a gwasanaethau chwilio ymdrin â'u dyletswyddau newydd yn ymwneud â chynnwys sy'n niweidiol i blant.

Rydym yn ymdrin â:

  • sut i asesu a yw eich gwasanaeth yn debygol o gael ei ddefnyddio gan blant;
  • achosion ac effeithiau niwed i blant;
  • sut y dylai gwasanaethau asesu a lliniaru'r risgiau o niwed i blant;

Mae’r mesurau rydyn ni’n eu cynnig yn adlewyrchu gwaith ymchwil a gynhaliwyd gennym, yn ogystal â thystiolaeth a gasglwyd trwy ymgysylltu helaeth â diwydiant ac arbenigwyr eraill.

Ymateb i’r ymgynghoriad hwn

Anfonwch eich ymatebion drwy ddefnyddio’r ffurflen ymatebion ymgynghoriadau (ODT, 108.1 KB).


Prif ddogfennau


Ymatebion

Dim ymatebion i’w dangos.