Yr wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i ddiwygio Openreach

  • Dechrau: 26 Gorffennaf 2016
  • Statws: Datganiad a gyhoeddwyd
  • Diwedd: 04 Hydref 2016

Cyhoeddodd Ofcom heddiw ei fod yn bwrw ymlaen â hysbysiad ffurfiol i fynnu bod Openreach yn cael ei wahanu’n gyfreithiol oddi wrth BT, ar ôl i BT fethu â chynnig cynigion o’i wirfodd sy’n mynd i’r afael â’n pryderon ynghylch cystadleuaeth.

Openreach ydy’r adran o BT Group sy’n datblygu ac yn cynnal prif rwydwaith telegyfathrebu’r DU sy’n cael ei ddefnyddio gan ddarparwyr fel Sky, TalkTalk, Vodafone a busnes adwerthu BT.

Mae Ofcom yn bwrw ymlaen â’i gynlluniau i wella gwasanaethau band eang a ffôn ar gyfer pobl ar hyd a lled y wlad, gan fynd ar drywydd ansawdd gwasanaeth gwell a hybu rhagor o fuddsoddi mewn rhwydweithiau. Mae creu Openreach sy’n fwy annibynnol – sy’n gweithio er budd pob darparwr, nid dim ond BT – yn rhan bwysig o gyflawni hyn.

Rydyn ni’n siomedig nad ydy BT wedi dod ymlaen eto gyda chynigion sy’n mynd i’r afael â’n pryderon o ran cystadleuaeth. Mae rhai camau wedi cael eu cymryd, ond ni fu hyn yn ddigon, ac mae angen gweithredu nawr er mwyn sicrhau canlyniadau gwell i ddefnyddwyr ffonau a band eang.

Cynlluniau i ddiwygio Openreach

Ym mis Gorffennaf roedden ni wedi datgan ein pryder o ran cystadleuaeth fod gan BT y cymhelliant a’r gallu i ffafrio ei fusnes adwerthu ei hun wrth wneud penderfyniadau strategol am fuddsoddiadau newydd mewn rhwydwaith gan Openreach. Mae’r pryder hwn yn codi oherwydd bod BT yn rhedeg y rhwydwaith cenedlaethol, Openreach, yn ogystal â’i fusnes adwerthu ei hun.

Roedden ni wedi cynnig diwygiadau i fynd i'r afael â’r mater strwythurol hwn, er mwyn darparu eglurder rheoleiddio a hyder i’r diwydiant ac, yn y pen draw, canlyniadau gwell i bobl ac i fusnesau. Byddai Openreach a fyddai’n fwy annibynnol mewn gwell safle i fuddsoddi mewn band eang ‘ffibr llawn’ i bawb.

Mae ein cynnig yn gofyn i Openreach fod yn gwmni ar wahân gyda’i Fwrdd ei hun. Byddai hwn yn cynnwys cyfarwyddwyr anweithredol gan fwyaf, gan gynnwys y Cadeirydd, na fyddai ganddynt gysylltiad â BT. Byddai Openreach yn siŵr o gael rhagor o annibyniaeth i wneud penderfyniadau ar fuddsoddiadau strategol, gyda dyletswydd i drin ei holl gwsmeriaid yn gyfartal.

Rydyn ni nawr yn paratoi i roi gwybod i’r Comisiwn Ewropeaidd ynghylch ein bwriad i weithredu’r cynlluniau hyn, gan fynnu bod Openreach yn cael ei wahanu’n gyfreithiol i’w wneud yn fwy annibynnol [dolen i lythyr y CE]. Drwy gydol y broses hon, rydyn ni’n dal yn agored i weld BT yn cau’r bwlch rhwng ei gynnig a’r hyn sydd angen ei wneud i fynd i’r afael â’n pryderon cryf ynghylch cystadleuaeth.

Ymatebion i’n hymgynghoriad ym mis Gorffennaf 

Heddiw mae Ofcom wedi cyhoeddi’r ymatebion nad oeddent yn rhai cyfrinachol i’n hymgynghoriad ym mis Gorffennaf ynghylch Openreach. Mae’r ymatebion hyn yn adlewyrchu ystod eang o safbwyntiau.

Roedd tua 94,000 o bobl wedi ymateb i’n hymgynghoriad drwy ymgyrch ar-lein. Roedd tua 90,000 o’r rhain yn ymatebion union yr un fath a oedd wedi cael eu hysgrifennu gan yr ymgyrch, yn galw am gamau i wella seilwaith telegyfathrebiadau’r DU; gan gynnwys gwahanu BT yn llawn yn strwythurol. Roedd ychydig o ymatebion yn rhannu profiadau cadarnhaol o BT ac yn pwyso am ddim camau pellach.

Roedd nifer fawr o’r 4,000 o ymatebion nad oedden nhw’n rhai safonol wedi codi pryderon ynghylch band eang araf, argaeledd band eang ffibr ac ansawdd y gwasanaeth gan ddarparwyr gwasanaeth mawr. Roedd y rhan fwyaf o bryderon yn ymwneud â BT, gyda nifer llai o gwynion am ddarparwyr eraill gan gynnwys Sky, TalkTalk a Virgin Media.

Mae’r safbwyntiau hyn yn tanlinellu’r rhan hollbwysig sy’n cael ei chwarae gan gyfathrebiadau digidol ym mywydau pobl, a phwysigrwydd y camau mae Ofcom yn eu cymryd i sicrhau gwasanaethau telegyfathrebiadau gwell i bobl ac i fusnesau. Byddwn ni’n ystyried yr holl safbwyntiau wrth i ni lunio fersiwn terfynol ein cynigion.

Ar draws yr amrywiaeth o ymatebion i’r ymgynghoriad, daeth dau fater i’r amlwg yn glir: galwadau i wahanu Openreach yn strwythurol; a chostau posibl unrhyw gamau, sef sut gallai hyn effeithio ar y diffyg ym mhensiynau BT.

Rydyn ni heddiw wedi cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf am ein safle ar hyn o bryd ynghylch y naill fater a’r llall, gan ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad.

Modelau gwahanu

Rydyn ni wedi ystyried y galwadau i wahanu Openreach yn strwythurol yn ofalus. Byddai hyn yn golygu hollti BT ac Openreach yn ddau gwmni ar wahân, o dan berchnogaeth wahanol. Mae rhanddeiliaid hefyd wedi darparu amrywiaeth o safbwyntiau ynghylch sut gellid gwella ein cynnig ym mis Gorffennaf ar gyfer gwahanu cyfreithiol er mwyn mynd i'r afael â’r pryderon a nodwyd ynghylch cystadleuaeth.

Mae’r ymatebion i’n hymgynghoriad hefyd yn ei gwneud hi’n amlwg y gallai gwahanu strwythurol arwain at gostau uwch o lawer a risgiau wrth gymharu â modelau ar sail gwahanu cyfreithiol. Mae hyn yn cynnwys costau gwahanu’r ddau fusnes yn ffisegol, a'r effeithiau ar gynllun pensiwn BT. Gwahanu strwythurol ydy’r math mwyaf ymwthiol o ymyriad rheoleiddiol sydd ar gael.

Cynllun pensiwn BT

Mewn ymateb i’n ymgynghoriad, dywedodd BT wrthym byddai ein model arfaethedig yn sbarduno costau sylweddol, gan danlinellu effaith ein cynigion ar Ymddiriedolwyr cynllun pensiwn BT. Roedd yr Ymddiriedolwyr yn rhannu’r un consyrn yn ogystal â’r undebau sy’n cynrychioli mwyafrif cyflogai BT. Fodd bynnag, roedd mwyafrif yr ymatebwyr i’r ymgynghoriad o’r farn bod y pryderon a fynegwyd gan BT, yr undebau ac Ymddiriedolwyr mewn perthynas â Chynllun Pensiwn BT wedi eu gorbwysleisio. 

Heddiw, rydym wedi cyhoeddi nodyn yn gosod allan y cefndir i Gynllun Pensiwn BT, a’n safbwynt cychwynnol ar sut y gallwn fwrw ati gyda’r cwestiynau a godwyd mewn ymateb i’r ymgynghoriad.

Safbwynt Ofcom ar hyn o bryd 

Rydyn ni’n dal o'r farn ei bod yn debygol y bydd ffurf effeithiol a chadarn o wahanu cyfreithiol, gydag Openreach yn is-gwmni dan berchnogaeth lwyr i BT, yn sicrhau’r gwelliannau gorau i bawb yn y cyfnod byrraf. Felly, dyma’r dull rydyn ni’n bwriadu ei ddilyn.

Bydd ein model yn cynnwys cynigion i graffu a monitro ei effeithiolrwydd yn gyhoeddus yn erbyn nifer o fesurau llwyddiant. Yr un mwyaf uniongyrchol fydd a fydd penderfyniadau Bwrdd Openreach yn cael eu gwneud yn annibynnol, heb ormod o ddylanwad gan BT Group. Os bydd monitro Ofcom yn awgrymu nad yw gwahanu cyfreithiol yn sicrhau digon o fanteision i’r diwydiant telegyfathrebiadau ehangach a’i gwsmeriaid, byddwn yn dychwelyd at y cwestiwn ynghylch gwahanu strwythurol – hollti’r cwmnïau oddi wrth ei gilydd yn llwyr.

Cynnig gwirfoddol BT

Ym mis Gorffennaf, ochr yn ochr â’n cynigion ni, roedden ni wedi cyhoeddi cynllun gwirfoddol BT, yr oedd y cwmni yn dadlau a ddylai fynd i’r afael â’n pryderon. Roedden ni’n glir nad oedd cynlluniau BT yn mynd yn ddigon pell.

Rydyn ni wedi parhau i drafod newidiadau posibl i gynnig gwirfoddol BT ag ef. Er ein bod wedi symud ymlaen rhywfaint, hyd yma mae BT wedi methu â chynnig cynigion a fyddai’n mynd i’r afael â’n pryderon yn ddigonol. Nid yw cynigion BT yn ddigonol mewn meysydd pwysig. Mae’r rhain yn cynnwys trosglwyddo pobl ac asedau, a lefel y dylanwad y gallai swyddogion gweithredol BT Group ei ddal dros reolaeth Openreach.

Paratoi hysbysiad i’r Comisiwn Ewropeaidd

Rydyn ni’n dal yn agored i ragor o gynigion gwirfoddol gan BT sy’n mynd i’r afael â’r pryderon y mae dal angen rhoi sylw iddynt. Serch hynny, rydyn ni nawr yn paratoi hysbysiad i’r Comisiwn Ewropeaidd i fynnu’r newidiadau er mwyn cynyddu annibyniaeth Openreach.

Rydyn ni eisoes wedi trafod hyn â’r Comisiwn Ewropeaidd ac rydyn ni’n disgwyl ymgynghori’n gyhoeddus ynghylch cyflwyniad i’r Comisiwn yn gynnar y flwyddyn nesaf.

Rydyn ni wedyn yn bwriadu symud ymlaen yn gyflym i gyflwyno cynllun manwl i’r Comisiwn ac, yn amodol ar ei benderfyniad, gweithredu diwygiadau Openreach er mwyn i’r DU allu elw cyn gynted ag sy’n bosibl.


Prif ddogfennau

Dogfennau cysylltiedig


Ymatebion

Dim ymatebion i’w dangos.