17 Ionawr 2020

Ofcom yn cynnig rheolau newydd i helpu i roi hwb i wifi

Gallai pobl a busnesau elwa o wifi mwy dibynadwy, diolch i gynigion a nodwyd gan Ofcom heddiw.

Ofcom sy'n rheoli tonnau awyr – neu sbectrwm – y DU, sef adnodd y mae pen draw iddo sy'n hanfodol ar gyfer gwasanaethau di-wifr, gan gynnwys wifi.

Mae wifi yn cael ei ddefnyddio fwyfwy ar gyfer gweithgareddau bob dydd y mae pobl a busnesau’n dibynnu arnynt – mae’r cartref cyffredin yn defnyddio hyd at 315GB o ddata band eang y mis, sydd gyfwerth â gwylio hyd at bedair awr o deledu HD bob dydd.

Felly, rydym yn adolygu’r rheolau presennol ynglŷn â sbectrwm er mwyn gwneud yn siŵr bod modd bodloni’r galw yn y dyfodol a helpu i ddatblygu ffyrdd newydd, arloesol o ddefnyddio sbectrwm.

Rydyn ni’n cynnig darparu sbectrwm ychwanegol ar gyfer wifi yn y band amledd 6 GHz, heb fod angen trwydded. Rydyn ni hefyd yn cynnig newidiadau i ofynion technegol mewn mannau eraill yn y sbectrwm, sy’n cael eu defnyddio gan rai llwybryddion wifi.

Nod y mesurau hyn yw helpu pobl i gael cysylltiad wifi mwy dibynadwy. Bydd hyn yn eu helpu i elwa o dechnoleg sy’n fwyfwy poblogaidd fel ffrydio diffiniad uchel iawn, rhith-realiti ac uwch-realiti.

Mae'r ymgynghoriad ar gyfer y cynigion hyn ar agor tan 20 Mawrth.

Heddiw rydym hefyd wedi cynnig agor mynediad i’r hyn a elwir yn sbectrwm Amledd Uchel Iawn.

Er nad yw’n cael ei ddefnyddio’n eang ar hyn o bryd, bydd sbectrwm Amledd Uchel Iawn yn hanfodol er mwyn datblygu gwasanaethau arloesol ar draws amrywiaeth o ddiwydiannau yn y dyfodol. Gallai’r rhain gynnwys rhaglenni sgrinio iechyd fel canfod canser y croen; galluogi rhaglenni ar draws y Rhyngrwyd Pethau; a hologramau trochi.

Mae hyn yn rhan o’n gwaith parhaus i gefnogi arloesi di-wifr, drwy sicrhau bod pobl a sefydliadau’n gallu cael gafael ar y sbectrwm sydd ei angen arnynt.

Mae’r ymgynghoriad ar ein cynigion ar gyfer sbectrwm Amledd Uchel Iawn ar agor tan 20 Mawrth.

Beth yw sbectrwm?

Sbectrwm yw’r seilwaith anweledig sy’n cynnal yr holl ddyfeisiau sydd angen cyfathrebu heb wifrau – fel teledu, ffobs ar allweddi ceir, monitorau babis, meicroffonau di-wifr a lloerennau. Mae ffonau symudol yn defnyddio sbectrwm i gysylltu â mast lleol er mwyn i bobl allu gwneud galwadau ffôn a defnyddio'r rhyngrwyd.

Dim ond hyn a hyn o sbectrwm sydd ar gael, felly mae angen ei reoli’n ofalus. Mae bandiau penodol o sbectrwm yn cael eu defnyddio at ddibenion gwahanol, fel wifi.

See also...