4 Mai 2021

Penderfyniad Pwyllgor Etholiadau Ofcom ar gŵyn Plaid Alba

Mae Pwyllgor Etholiadau Ofcom wedi ystyried cwyn, dyddiedig 3 Mai 2021, a gyflwynwyd ar ran Plaid Alba.

Mae'n ymwneud ag ymagwedd y BBC tuag at ei raglennu Etholiad Seneddol yn yr Alban, a'r sylw a roddwyd i Blaid Alba – yn arbennig, yr ail ‘Leaders’ Debate’, sydd i'w darlledu ar BBC One Scotland am 7:50pm heno. Holodd Plaid Alba hefyd am benderfyniad cyhoeddiedig y Pwyllgor Etholiadau, yn dilyn ei gŵyn flaenorol.

Mae Pwyllgor Etholiadau Ofcom wedi penderfynu peidio â chynnal cwyn Plaid Alba ar 3 Mai 2021. Mae penderfyniad llawn y Pwyllgor ar gael yn ei lythyr at Blaid Alba dyddiedig 4 Mai 2021.

Related content