23 Mawrth 2021

Ofcom ac ICO yn cyhoeddi cynllun gweithredu ar cyd ar gyfer taclo galwadau niwsans

Heddiw mae Ofcom a Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) wedi amlinellu cynllun ar y cyd ar gyfer taclo galwadau niwsans a sgam yn 2021/2022.

Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn arwain y gwaith o fynd i'r afael â galwadau marchnata byw ac wedi'u recordio a negeseuon testun ac e-byst niwsans ac mae'n gyfrifol am gymryd camau gorfodi yn erbyn sefydliadau sy'n torri'r rheolau perthnasol. Mae Ofcom yn arwain ar alwadau mud a galwadau sy'n cael eu gadael ac yn cydweithio â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, cwmnïau telathrebu a sefydliadau eraill, gan ddarparu cymorth ymchwil a thechnegol yn ogystal â chyngor i'r cyhoedd.

Gwelodd Ofcom a Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ostyngiad yn nifer y cwynion am alwadau a negeseuon niwsans yn 2020.  Fodd bynnag, nododd y ddau hefyd ymchwydd mewn cwynion o fis Medi/Hydref i fis Rhagfyr 2020 o gymharu â'r un cyfnod yn 2019.

Fe welsom gynnydd o 83% yn nifer y cwynion rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2020 o’i gymharu â’r un misoedd yn 2019. Yn yr un modd, gwelodd Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth gynnydd o 27% mewn cwynion rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2020 o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Ers 2013, mae Ofcom a Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth wedi cyhoeddi cynlluniau gweithredu ar y cyd i daclo'r niwed i ddefnyddwyr a achosir gan alwadau a negeseuon niwsans. Ym mis Mai 2020, gwnaethom bennu ein meysydd ffocws allweddol wrth fynd i'r afael â galwadau niwsans gan gynnwys:

  • cymryd camau a dargedir yn erbyn pobl neu gwmnïau nad ydynt yn dilyn rheolau Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ac Ofcom;
  • codi ymwybyddiaeth a mynd i’r afael â sgamiau sy’n ymwneud â’r Coronafeirws (Covid-19), a pharhau i gefnogi gwaith Stop Scams UK;
  • gweithio gyda chwmnïau telathrebu i wella sut maen nhw’n rhwystro ac yn atal galwadau niwsans, drwy gynnal adolygiad o’r datrysiadau a ddarperir i gwsmeriaid;.
  • gweithio gyda rheoleiddwyr ac asiantaethau gorfodi eraill i nodi cyfleoedd newydd i atal galwadau niwsans a sgamiau; a
  • rhannu gwybodaeth ag eraill, gan gynnwys partneriaid rhyngwladol ac asiantaethau gorfodi.

Mae'r diweddariad hwn yn adrodd ar y cynnydd a wnaed ym mhob un o'r meysydd dros y flwyddyn ddiwethaf.

Yn y flwyddyn i ddod, bydd Ofcom a Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn parhau i weithredu ar y pum maes allweddol hyn ac yn 2022 byddwn yn cyhoeddi diweddariad ar ein cynnydd.

Mae Ofcom hefyd yn cyhoeddi cyngor ar sut i ddiogelu eich hun rhag galwadau a negeseuon niwsans, a phwy i gwyno iddynt os byddwch yn eu derbyn.

See also...