17 Mawrth 2021

Arwerthiant sbectrwm Ofcom: cyhoeddi canlyniadau'r prif gam

  • Mae prif gam bidio'r arwerthiant sbectrwm wedi dod i ben
  • Mae pedwar rhwydwaith symudol y DU wedi talu cyfanswm cyfunedig o £1,356,400,000 i sicrhau mwy o donnau awyr
  • Bydd y tonnau awyr hyn yn rhoi hwb i wasanaethau symudol presennol ac yn cefnogi rhwydweithiau 5G newydd

Mae Ofcom wedi cyhoeddi canlyniad prif gam ei arwerthiant i ryddhau mwy o donnau awyr i wella gwasanaethau symudol a chefnogi 5G.

At ei gilydd roedd 200 MHz o sbectrwm ar gael i fidio amdano yn yr arwerthiant, wedi'i rannu ar draws dau fand:

  • 80 MHz o sbectrwm yn y band 700 MHz. Mae'r tonnau awyr hyn yn cynnwys 2x30 MHz o sbectrwm parau amledd a 20 MHz o sbectrwm lawrlwytho ategol. Mae'r tonnau awyr hyn yn ddelfrydol i ddarparu signal dros ardal eang - gan gynnwys yn y cefn gwlad.
  • 120 MHz o sbectrwm yn y band 3.6-3.8 GHz. Mae'r tonnau awyr pwysig hyn yn rhan o'r band craidd ar gyfer 5G ac yn gallu rhoi hwb i gapasiti data symudol, gan gludo llawer o gysylltiadau sy'n llyncu data.

Cymerodd pedwar cwmni – EE Limited, Hutchison 3G UK Limited, Telefónica UK Limited a Vodafone Limited – ran ym mhrif gam yr arwerthiant, a fu'n ymwneud â hwy'n bidio am donnau awyr mewn 34 o ‘lotiau’ i bennu faint o'r sbectrwm y byddai pob un yn ei sicrhau. Mae'r prif gam bidio wedi dod i ben bellach ac mae Ofcom wedi cyhoeddi'r canlyniadau.

Canlyniadau'r prif gam

  • Mae EE Limited wedi ennill 2x10 MHz o sbectrwm parau amledd yn y band 700 MHz am gost o £280,000,000; 20 MHz o sbectrwm lawrlwytho ategol yn y band 700 MHz am cost o £4,000,000; a 40 MHz yn y band 3.6-3.8 GHz am gost o £168,000,000.
  • Mae Hutchison 3G UK Limited wedi ennill 2x10 MHz o sbectrwm parau amledd yn y band 700 MHz am gost o £280,000,000.
  • Mae Telefonica UK Limited wedi ennill 2x10 MHz o sbectrwm parau amledd yn y band 700 MHz am gost o £280,000,000; a 40 MHz yn y band 3.6-3.8 GHz am gost o £168,000,000.
  • Mae Vodafone Limited wedi ennill 40 MHz o sbectrwm yn y band 3.6-3.8 GHz am gost o £176,400,000.

Cyfanswm gwerth y prif gam yw £1,356,400,000 gyda'r holl arian a godir yn cael ei dalu i Drysorlys EM.

Camau nesaf

Bydd yr arwerthiant yn awr yn symud i'r cam 'aseinio'. Mae'r broses hon yn ymwneud â rownd fidio unigol sy'n gweld y cwmnïau'n bidio am y safleoedd amledd sydd orau ganddynt ar gyfer y tonnau awyr y maent wedi'u sicrhau yn y prif gam.

Ar ôl cyflwyno eu cynigion cam aseinio yn y band 3.6-3.8 GHz, bydd bidwyr wedyn yn cael y cyfle wedyn i gyd-drafod y safleoedd amledd ymhlith eu hunain - os ydynt am uno'r tonnau awyr y maent wedi'u sicrhau gyda sbectrwm y maent eisoes yn ei ddal o fewn y band 3.4-3.8 GHz ehangach. Bydd hyn yn amodol ar ddymuniad cwmnïau i ymuno â'r cam cyd-drafod. Os dymunant wneud hynny, byddwn yn cyhoeddi dyddiadau ar gyfer y cam cyd-drafod.

Bydd canlyniadau terfynol yr arwerthiant - gan gynnwys y cyfansymiau a delir, yr amleddau penodol a sicrheir ar gyfer pob bidiwr, a chanlyniad unrhyw gytundebau a gyrhaeddir yn y cyfnod cyd-drafod - yn cael eu cyhoeddi ar ôl i'r holl gamau gael eu cwblhau.

Philip Marnick, Cyfarwyddwr Grŵp Sbectrwm Ofcom: “Gyda'r bidio drosodd erbyn hyn yn y prif gam, rydym yn awr yn symud at gam nesaf yr arwerthiant sy'n gweld y gweithredwyr yn cael cyfle i gyd-drafod safle eu daliannau sbectrwm o fewn y band ehangach. Dyma gam pwysig ymlaen wrth ddod â gwasanaethau symudol gwell i bobl - ble bynnag y maent yn byw, gweithio ac yn teithio. Bydd y tonnau awyr hyn yn helpu gwella'r signal ar gyfer y gwasanaethau symudol y mae pobl yn eu defnyddio heddiw, yn ogystal â chefnogi statws y DU fel arweinydd y byd mewn 5G."

NODIADAU I OLYGYDDION

  1. Mae'n ddyletswydd ar Ofcom i hyrwyddo cystadleuaeth a rheoli'r defnydd o sbectrwm yn effeithlon, ac mae'r arwerthiant wedi'i ddylunio i gyflawni hyn

Related content