28 Ebrill 2021

Penderfyniad Pwyllgor Etholiadau Ofcom ar gŵyn gan Blaid Alba

Mae Pwyllgor Etholiadau Ofcom wedi ystyried cwyn gan Blaid Alba am ymdriniaeth y BBC o Etholiad Seneddol Yr Alban.

Mae gan ddarlledwyr ryddid golygyddol wrth bennu fformat yr ymdriniaeth o etholiadau a chyd-drafodaethau arweinwyr pleidiau. O dan ein Cod Darlledu, mae'n rhaid i raglenni etholiadau gydymffurfio â gofynion didueddrwydd arbennig. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid iddynt gynnal didueddrwydd dyladwy a chynnwys a rhoi pwysau i amrywiaeth briodol o eang o farn a safbwyntiau arwyddocaol. Mae'n rhaid hefyd i ddarlledwyr roi pwys dyladwy ar yr ymdriniaeth o bleidiau yn ystod cyfnod yr etholiad, gan gymryd tystiolaeth o gefnogaeth etholiadol yn y gorffennol a/neu gefnogaeth bresennol i ystyriaeth.

Yn yr achos hwn - yn sgil ystyried cynrychiolaethau gan Blaid Alba a'r BBC - daeth Pwyllgor Etholiadau Ofcom i'r casgliad nad yw ymagwedd y BBC at fformat Leaders' Debate (30 Mawrth 2021, 7.50pm) a'i ymdriniaeth o gyfnod yr etholiad yn fwy cyffredinol, yn codi pryderon o dan Adrannau Pump a Chwech ein Cod Darlledu.

Wrth gyrraedd ei benderfyniad, ystyriodd y Pwyllgor, ymysg pethau eraill:

  • Fod ymagwedd y BBC at ystyried lefel gefnogaeth bresennol Plaid Alba - gan gynnwys y pwys y mae wedi'i osod ar gyfartaledd o dystiolaeth o bolau piniwn - yn rhesymol yn ystod cyfnod yr etholiad hyd yma. Bod ymdriniaeth y BBC hyd yma hefyd wedi rhoi pwys dyladwy ar y barn a safbwyntiau arwyddocaol a ddelir gan Blaid Alba;
  • ar adeg Leaders' Debate, bod Plaid Alba, a hithau ond wedi lansio pedwar diwrnod yn gynharach, yn blaid newydd sbon;
  • y trafodwyd Plaid Alba yn rhaglenni cysylltiedig y BBC a ddarlledwyd yn syth cyn ac ar ôl Leaders' Debate;
  • bod Plaid Alba wedi derbyn sylw cynhwysfawr gan y BBC ar ddyddiad lansio ei maniffesto, gan gynnwys ynglŷn â'i huchelgais i sicrhau gorfwyafrif dros annibyniaeth Yr Alban trwy seddau'r rhestri rhanbarthol; a
  • o ystyriaeth bod lefel y gefnogaeth bresennol dros bleidiau gwleidyddol wrth ei natur yn ddeinamig, y byddai angen i'r BBC asesu'r materion o'r newydd i bennu pa lefel o ymdriniaeth, os o gwbl, y dylid ei rhoi i Blaid Alba yn yr ail gyd-drafodaeth y mae wedi'i chynllunio, neu mewn unrhyw raglenni sy'n gysylltiedig â hi.

Mae penderfyniad y Pwyllgor (CSV, 117.0 KB) ar gael yn llawn.

Related content