26 Mawrth 2021

Ofcom yn cyhoeddi cynllun gwaith ar gyfer 2021/2022

Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi ei Gynllun Gwaith ar gyfer 2021/22, sy'n amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer y deuddeg mis nesaf.

Roedd gwasanaethau cyfathrebu dibynadwy o ansawdd uchel yn bwysicach nag erioed trwy gydol y flwyddyn ddiwethaf. Bydd y gwasanaethau hyn yn parhau i fod yn rhan hanfodol o fywydau pobl wrth i'r DU ddod allan o bandemig y coronafeirws (Covid-19), ac am flynyddoedd i ddod.

Yn sgil ymgynghori, a fu'n cynnwys cyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus, rydyn ni heddiw wedi amlinellu ein blaenoriaethau strategol ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Blaenoriaethau strategol Ofcom ar gyfer 2021/2022

  • Buddsoddi mewn rhwydweithiau cryf a diogel. Cefnogi buddsoddiad parhaus mewn band eang cyflymach a rhwydweithiau symudol o ansawdd gwell. Mae hyn yn cynnwys cydweithio â diwydiant i sicrhau bod rhwydweithiau cyfathrebu hanfodol y DU yn ddiogel, yn gadarn ac yn wydn.
  • Cael cysylltiad i bawb. Gweithio i sicrhau y gall pobl a busnesau gael mynediad i wasanaethau cyfathrebu allweddol - gan gynnwys yn y lleoliadau anoddaf eu cyrraedd. Mae hyn yn cynnwys monitro darpariaeth y gwasanaeth band eang cyffredinol a'r Rhwydwaith Gwledig a Rennir. Byddwn yn gweithio hefyd i sicrhau bod y gwasanaeth post cyffredinol yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
  • Tegwch i gwsmeriaid. Byddwn yn parhau â'n gwaith i sicrhau y gall cwsmeriaid band eang, ffôn a theledu-drwy-dalu – yn enwedig y rhai sy'n agored i niwed – siopa o gwmpas yn hyderus, newid yn hwylus a chael eu trin yn deg.
  • Cefnogi a datblygu darlledu yn y DU. Byddwn yn cefnogi sector cyfryngau bywiog y DU, gan gynnwys darlledu gwasanaeth cyhoeddus, a'i helpu i ddiwallu anghenion newidiol gwylwyr a gwrandawyr. Byddwn yn parhau i fonitro ac adrodd ar berfformiad y BBC hefyd.
  • Paratoi i reoleiddio niwed ar-lein. Byddwn yn rheoleiddio llwyfannau rhannu fideos a sefydlir yn y DU. Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau iddi fwriadu penodi Ofcom fel rheoleiddiwr niwed ar-lein ac rydym yn paratoi at y rôl gynlluniedig newydd hon.

Byddwn hefyd yn cymryd camau i sicrhau ein bod mewn sefyllfa dda i gyflawni ein dyletswyddau newydd nawr ac yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys:

  • Cryfhau Ofcom at y dyfodol. Gan fod ein sectorau a'n sgiliau wedi'u siapio'n gynyddol gan wasanaethau ar-lein, byddwn yn esblygu ein sgiliau, yn datblygu dulliau gweithio blaengar ac yn adeiladu gweithlu amrywiol sy'n adlewyrchu'r DU gyfan.
  • Datblygu partneriaethau newydd. Byddwn yn datblygu partneriaethau domestig a rhyngwladol newydd - ac yn adeiladu ar y rhai sydd gennym eisoes - gyda rheoleiddwyr, y byd academaidd, llywodraethau, diwydiant a sefydliadau ar draws y sectorau a reoleiddiwn.

Mae'r cynllun gwaith hefyd yn cynnwys ein rhaglen waith ar gyfer y flwyddyn nesaf, sy'n esbonio'r gweithgareddau allweddol y byddwn i gyd yn ymgymryd â nhw dros y deuddeg mis nesaf ar draws ein gwaith i gyd.

See also...