3 Tachwedd 2021

Deall disgwyliadau cynulleidfaoedd lleiafrifoedd ethnig

Ein gwaith yn Ofcom yw cynnal safonau ar deledu a radio ar ran gwylwyr a gwrandawyr o bob cefndir. Er mwyn gwneud hynny'n effeithiol, mae angen i ni ddeall sut mae gwahanol grwpiau a chymunedau yn meddwl ac yn teimlo am y rhaglenni y maent yn eu gwylio ac yn gwrando arnynt yn rheolaidd – a'r hyn y maent yn ei ddisgwyl gan ddarlledwyr, Ofcom a rheoleiddio cynnwys.

Ochr yn ochr â'n hymchwil ehangach i ddisgwyliadau cynulleidfaoedd a'n hadroddiad ar iaith dramgwyddus, yr astudiaeth heddiw  (PDF, 1.3 MB)yw'r cyntaf o'i bath ar gyfer Ofcom. Mae'n ymchwilio'n fanwl i ddisgwyliadau penodol sydd gan gynulleidfaoedd lleiafrifoedd ethnig o'r sianeli teledu a'r gorsafoedd radio sy'n eu gwasanaethu nhw a'u cymunedau diwylliannol neu grefyddol yn uniongyrchol.

Ar sail ein hymchwil flaenorol roeddem yn ymwybodol y gallai disgwyliadau cynulleidfaoedd lleiafrifoedd ethnig o'r gwasanaethau hyn, sydd yn aml yn llai, fod yn wahanol i'w disgwyliadau o orsafoedd a sianeli prif ffrwd eraill. Er mwyn deall hyn ymhellach, bu i ni siarad â mwy na 170 o bobl o gefndiroedd Indiaidd, Bangladeshaidd, Pacistanaidd, Du Affricanaidd1 a'r rhai sy'n siarad Arabeg2, gan ganolbwyntio'n bennaf ar ein rheolau ynghylch niwed, tramgwydd, casineb a chamdriniaeth.

Yn ystod y sesiynau gweithdy, dywedodd y cyfranogwyr wrthym eu bod hwy eu hunain, a phobl yr oeddent yn eu hadnabod, yn ystyried bod y sianeli a gorsafoedd a anelir at eu cymunedau yn bwysig iddynt. Gwnaethant ddweud wrthym fod y gwasanaethau hyn yn rhoi ymdeimlad o berthyn a chysylltiad â'u gwreiddiau diwylliannol, a phrofiad pwysig o wylio a rennir fel teulu. Ond clywsom hefyd eu bod yn teimlo'n anesmwyth am gynnwys penodol, gan gynnwys trais neu raglenni newyddion graffig; delweddau o drais a cham-drin domestig; deunydd rhywiol; a chynnwys sydd â'r potensial i niweidio cydlyniant cymunedol.

Er gwaethaf y pryderon hyn, ychydig iawn o gyfranogwyr a ddywedodd eu bod yn debygol o gwyno wrth Ofcom am unrhyw beth a welsant neu a glywsant ar y teledu neu'r radio. Roedd ganddynt hefyd ymwybyddiaeth gyfyngedig o Ofcom, na'n rôl o reoleiddio'r gwasanaethau hyn. O fewn tîm safonau Ofcom, mae gennym arbenigwyr cynnwys o amrywiaeth o gefndiroedd ethnig sy'n siarad ieithoedd lluosog. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf rydym wedi ehangu ein gallu'n sylweddol i gyfieithu a dadansoddi'r cynnwys a ddarlledir ar sianel a gorsafoedd llai a anelir at gymunedau ethnig penodol.

Tra bod yr ymchwil heddiw yn werthfawr tu hwnt o ran hyrwyddo ein dealltwriaeth o safbwyntiau a disgwyliadau cynulleidfaoedd lleiafrifoedd ethnig, rydym yn cydnabod bod gennym fwy o waith i'w wneud. Dyna pam yr ydym hefyd yn defnyddio cyhoeddi'r adroddiad hwn i symbylu gwell ymwybyddiaeth o Ofcom ymhlith cymunedau lleiafrifoedd ethnig, fel y gall pobl deimlo'n hyderus yn eu gallu i godi pryderon gyda ni yn y lle cyntaf.

Byddwn yn parhau i weithio ar ein hymgysylltiad â gwylwyr a gwrandawyr o leiafrifoedd ethnig yn y flwyddyn i ddod a thu hwnt, yn enwedig o ystyried y gall safbwyntiau a goddefiannau newid dros amser. Byddwn hefyd yn gweithio i hyrwyddo ein hymchwil yn y maes hwn gyda'r gwasanaethau rydym yn eu trwyddedu – a byddwn yn rhoi ystyriaeth lawn iddi yn ein hymdrechion bob dydd i ddiogelu cynulleidfaoedd – yr holl gynulleidfaoedd – rhag cynnwys niweidiol.


1 Roedd cyfranogwyr Du Affricanaidd â'u cefndir yn Nigeria, Ghana, Zimbabwe ac Uganda.
2 Roedd cyfranogwyr Arabeg eu hiaith o gefndiroedd Algeraidd, Eifftaidd a Tiwnisaidd.

Related content