21 Hydref 2022

Cyflymder band eang i fyny 20% wrth i naw o bob 10 cartref gymryd pecyn cyflym iawn

Wrth i argaeledd technoleg ffeibr llawn sy'n addas at y dyfodol wella, a bod mwy o bobl yn uwchraddio eu cysylltiadau, mae cyflymder cyfartalog band eang cartref yn codi.

Datgelodd Adroddiad Perfformiad Band Eang Cartref Ofcom, a gyhoeddir heddiw, fod cyflymder cyfartalog canolrifol cysylltiadau band eang cartref wedi cyrraedd 59.4 Mbit yr eiliad. Mae hynny'n gynnydd o 18% o 50.4 Mbit yr eiliad flwyddyn yn ôl, ac yn gynnydd o 60% o'r cyflymder cyfartalog a gofnodwyd yn 2018 (37 Mbit yr eiliad).

Hefyd, mae 91% o gartrefi gyda band eang bellach yn cymryd pecyn cyflym iawn (cyflymder lawrlwytho a hysbysebir o 30 Mbit yr eiliad o leiaf), i fyny o 85% 12 mis yn ôl.

Mae ymchwil flaenorol Ofcom wedi dangos bod dros 7 miliwn o gartrefi band eang allan o gontract ac yn talu mwy na sydd angen. Mae prisiau'n tueddu i godi os nad yw cwsmeriaid yn gwneud dim pan fydd eu cyfnod contract cychwynnol yn dod i ben. Ond mae llawer o fargeinion am ddisgownt mawr ar gael wrth gofrestru ar gyfer contract newydd.

Mae hynny'n golygu y gallai rhai pobl arbed arian ac uwchraddio i becyn cyflymach ar yr un pryd.

I'r rhai sydd ar yr incwm isaf, mae pecynnau disgownt arbennig sy'n cael eu galw'n 'dariffau cymdeithasol' ar gael am tua £10-20. Mae'r rhain hefyd yn cynnig cysylltiadau cyflym iawn, sy'n golygu nad oes angen i aelwydydd cymwys gyfaddawdu ar gyflymder, a byddant hefyd yn arbed £150 y flwyddyn.

See also...