4 Tachwedd 2022

Help i leihau eich defnydd o ynni a'ch costau gartref

Gyda chostau byw ar gynnydd ar gyfer aelwydydd ar draws y DU, mae llawer o bobl yn gobeithio cadw eu gwariant i lawr. Felly, rydyn ni wedi rhoi rhai awgrymiadau defnyddiol at ei gilydd o ran y pethau y gallwch eu gwneud gartref i arbed ynni, gostwng eich biliau trydan a chwarae rhan wrth daclo newid yn yr hinsawdd.

O setiau teledu i lechi, mae aelwyd gyffredin yn y DU bellach yn defnyddio 18 o ddyfeisiau ar gyfartaledd i gadw'r cysylltiad a diddanu eu hunain.  Rydym yn amcangyfrif bod y trydan sydd ei angen i bweru'r dyfeisiau hyn a'ch band eang yn ffurfio tua 30% o fil trydan cyfartalog y DU, ond mae camau y gallwch eu cymryd i gwtogi ar eich defnydd o ynni ac arbed arian ar yr un pryd.

Gallai dilyn yr awgrymiadau hyn helpu i arbed cannoedd o bunnoedd i chi.

  1. Newidiwch eich ffôn clyfar i SIM-yn-unig: os ydych chi'n hapus o hyd gyda'ch ffôn symudol ar ddiwedd eich cyfnod contract cychwynnol, gallech wneud arbedion mawr trwy newid i gytundeb 'SIM yn unig' rhatach a pharhau i ddefnyddio'ch ffôn presennol – yn hytrach na phrynu un newydd. Gyda bargeinion 'SIM yn unig' yn dechrau o lai na £10 y mis, gallai cadw eich  ffôn am bedair blynedd yn hytrach na dwy arbed cost ffôn newydd i chi, (sef tua £355 erbyn hyn).
  2. Defnyddiwch osodiadau modd parod pŵer isel ar gonsolau gemau a blychau pen set: dengys ein hymchwil fod 60% o oedolion y DU bellach yn chwarae gemau ar-lein neu oddi ar-lein, ond efallai nad ydych yn gwybod bod consolau gemau'n cynnig opsiwn modd parod pŵer isel. Mae'r un peth yn wir am y rhan fwyaf o flychau teledu pen set. Gall defnyddio modd parod pŵer isel arbed hyd at £35 y flwyddyn i chi, fesul dyfais.
  3. Meddyliwch am sut rydych chi'n cysylltu eich dyfeisiau gartref: Gall dyfeisiau estyn neu chwyddo Wi-Fi ymestyn cyrhaeddiad eich signal Wi-Fi i rannau eraill o'ch cartref, ond mae pob dyfais chwyddo ychwanegol yn costio hyd at £20 y flwyddyn i'w rhedeg. Gallai lleoli eich llwybrydd mewn lleoliad agored – heb gael ei guddio y tu ôl i ddrysau cwpwrdd neu wrthrychau cartref – helpu i'ch cadw cysylltiad gwell am gost is. Ac os oes angen i chi gyrraedd ystafell neu ofod gwaith penodol, ystyriwch redeg cebl ethernet i gysylltu dyfeisiau perfformiad uwch nad oes angen eu symud. Mae hyn yn cynnwys offer swyddfa gartref ac offer arall fel setiau teledu, blychau pen set a chonsolau gemau.

Mwy o awgrymiadau i leihau eich defnydd o ynni

Mae yna gamau bach eraill y gallwch eu cymryd a all, gyda'i gilydd, chwarae rhan wrth leihau eich defnydd o ynni'n gyffredinol.

Er enghraifft, mae gan setiau teledu nifer o nodweddion arbed ynni, sy'n werth eu harchwilio yng ngosodiadau eich teledu. Ac os ydych chi'n prynu set deledu newydd, chwiliwch am y sgôr ynni i weld pa mor effeithlon yw'r model.

Gall ailgylchu offer hen a diangen wneud gwahaniaeth hefyd. Os ydych chi'n uwchraddio i ffôn symudol newydd, gwiriwch i weld a allwch chi arbed arian gyda'ch darparwr drwy ailgylchu eich hen un. Neu ystyriwch ei roi i ffrind neu aelod o'r teulu. Mae'r rhan fwyaf o ddarparwyr band eang hefyd yn cynnig gwasanaeth ailgylchu hen lwybryddion - gan eich galluogi i'w dychwelyd am ddim fel y gellir eu hailddefnyddio.

Peidiwch â throi pethau i ffwrdd

Efallai y gwelwch chi gyngor sy'n awgrymu diffodd dyfeisiau electronig yn llwyr yn ystod y nos er mwyn helpu i arbed ynni. Ac er y gallai hynny fod yn ymarferol ac yn werth chweil ar gyfer rhai eitemau trydanol gartref, ni ddylech chi wneud hyn ar gyfer pethau fel llwybryddion band eang neu ddyfeisiau diogelwch clyfar. Gall eu cadw'n gysylltiedig – hyd yn oed yn y modd parod – fod yn bwysig o ran caniatáu diweddariadau meddalwedd a lawrlwytho yn y cefndir.

Mwy o gynghorion arbed arian

Mae yna bethau eraill y gallwch chi eu gwneud i arbed arian ar eich biliau telathrebu a theledu - gan gynnwys sicrhau eich bod ar y pecyn gorau i chi. Edrychwch ar ein cynghorion arbed arian am fwy o wybodaeth.

Related content