12 Hydref 2022

Ofcom yn disgwyl i gwmnïau technoleg ddysgu o ymosodiad Buffalo

Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi adroddiad yn edrych ar sut gwnaeth llwyfannau ar-lein ymateb i'r ymosodiad yn Buffalo, Efrog Newydd ar 14 Mai 2022.

Cafodd yr ymosodiad ei ffrydio’n fyw ar-lein a chafodd fersiynau o’r fideo a chynnwys cysylltiedig eu dosbarthu ar nifer o wasanaethau ar-lein, gan adael defnyddwyr y DU yn agored i gynnwys yn ymwneud â therfysgaeth.

Fel rheoleiddiwr llwyfannau rhannu fideos a sefydlir yn y DU (VSP) – ac yn ngoleuni’r Mesur Diogelwch Ar-lein – aethom ati i ddysgu o'r digwyddiad trasig hwn drwy adolygu ymatebion cwmnïau technoleg. Roedd hyn yn cynnwys y mesurau yr oedd ganddynt ar waith i ddiogelu eu defnyddwyr rhag gweld cynnwys terfysgol, a sut y buont yn gweithio gyda'i gilydd i helpu i atal y deunyddiau rhag lledaenu yn syth ar ôl yr ymosodiad.

Ein canfyddiadau

Pan ddaeth yn amlwg bod yr ymosodiad wedi cael ei ffrydio'n fyw, fe wnaeth Ofcom ymgysylltu'n syth â VSPs wedi'u rheoleiddio i ddeall y mesurau yr oedd ganddynt ar waith i ddiogelu eu defnyddwyr rhag cynnwys fideo gysylltiedig â'r digwyddiad terfysgaeth.

Er na wnaeth yr ymarfer hwn nodi tystiolaeth sy'n awgrymu methiannau i gydymffurfio â'r rheoliadau presennol, mae ein hadroddiad yn tynnu sylw at oblygiadau pwysig o ran diogelwch ar-lein yr ydym yn disgwyl i'r diwydiant eu hystyried. Bydd llwyfannau'n gallu taclo terfysgaeth yn well ar-lein os ydyn nhw'n canolbwyntio ar:

  • ei gwneud hi'n hawdd i ddefnyddwyr roi gwybod am ymosodiadau wedi'u ffrydio'n fyw, ac ar yr un pryd sicrhau bod gan eu timau cymedroli cynnwys adnoddau priodol i ymdrin yn gyflym â'r fath adroddiadau;
  • taclo lledaeniad cynnwys terfysgaeth ar-lein drwy gydweithio pellach ar draws y diwydiant, gan gynnwys ar wasanaethau llai;
  • darparu telerau gwasanaeth clir, tryloyw a hygyrch sy'n nodi sut maen nhw'n taclo cynnwys terfysgol, treisgar ac atgas; ac
  • asesu'r risgiau y bydd eu llwyfannau'n cael eu hecsbloetio gan ymosodwyr yng ngham dylunio a pheiriannu'r cynnyrch.

"Fel y mae'r ymosodiad trasig yn Buffalo yn ei ddangos, mae terfysgwyr yn drefnus iawn wrth nodi pa lwyfannau a swyddogaethau ar-lein i fanteisio arnynt.

"Mae ein hadroddiad yn datgelu bod yna le i lwyfannau roi mwy o ymdrech ar y cyd i mewn i sicrhau bod eu gwasanaethau'n ddigon cadarn yn erbyn cael eu hecsbloetio gan derfysgwyr, yn enwedig drwy ymwreiddio prosesau i ystyried diogelwch defnyddwyr yn gynnar yn eu prosesau dylunio a pheiriannu'r cynnyrch."

Murtaza Shaikh, Pennaeth Ofcom, Niwed Anghyfreithlon, Casineb a Therfysgaeth

Y camau nesaf

Byddwn yn bwrw ymlaen â'r mewnwelediadau hyn fel y bo'n briodol wrth i ni baratoi i ymgymryd â dyletswyddau diogelwch ar-lein ehangach o dan y Mesur Diogelwch Ar-lein - gan gynnwys datblygu Codau Ymarfer yn ymwneud â chynnwys anghyfreithlon ac arweiniad asesu risg cysylltiedig.

Byddwn yn parhau i weithio gyda VSPs a sefydlir yn y DU i sicrhau effeithiolrwydd eu mesurau i ddiogelu defnyddwyr rhag deunydd terfysgol anghyfreithlon a chynnwys sy'n cymell casineb, ac i asesu unrhyw dystiolaeth y down o hyd iddi o doriadau posib o'r rheoliadau VSP.

Related content