8 Mehefin 2022

Mesurau cryfach i ddiogelu miloedd o flychau ffôn hanfodol

  • O heddiw, diogelir ffonau talu mewn ardaloedd sydd â signal symudol gwael neu gyfraddau uchel o ddamweiniau
  • Mae’r rheolau’n cael eu diweddaru hefyd i gefnogi 'hybiau' ar y stryd sy'n cynnig galwadau am ddim, Wi-Fi a gwefru wrth fynd

Daw mesurau diogelu cryfach i rym heddiw ar gyfer blychau ffôn cyhoeddus, o dan reolau newydd a gyhoeddwyd gan Ofcom.

Mae'r newidiadau'n golygu, o heddiw ymlaen, y bydd blychau ffôn yn cael eu diogelu rhag cael eu tynnu ymaith os oes eu hangen o hyd gan gymuned leol.

Er y bu gostyngiad sylweddol yn nifer y galwadau a wnaed o flychau ffôn, o tua 800m munud yn 2002 i 4m yn 2021/22, maent yn parhau i ddarparu gwasanaeth hanfodol mewn rhai ardaloedd, fel lleoliadau heb signal symudol llawn.

A gwnaed bron 150,000 o alwadau i'r gwasanaethau brys o flychau ffôn yn y flwyddyn hyd at fis Mai 2020. Roedd tua 25,000 o alwadau i Childline a 20,000 i'r Samariaid.

Diogelu blychau ffôn sydd eu hangen o hyd gan gymunedau

O dan feini prawf newydd Ofcom, bydd blychau ffôn bellach yn cael eu diogelu lle:

  • y maent mewn ardal nad oes ganddi ddarpariaeth gan bob un o'r pedwar darparwr rhwydwaith symudol; neu
  • maent wedi'u lleoli mewn ardal sydd â nifer uchel o ddamweiniau neu achosion o hunanladdiad; neu
  • y gwnaed 52 neu fwy o alwadau ohonynt dros y 12 mis diwethaf; neu
  • y ceir tystiolaeth arall bod angen rhesymol am flwch ffôn ar safle – er enghraifft, lle mae'n cael ei ddefnyddio i wneud galwadau i linellau cymorth fel Childline

Mae'r rheolau'n disodli'r broses flaenorol ar gyfer tynnu ffonau talu ymaith, a achosodd risg o'u tynnu ymaith mewn lleoliadau lle'r oedd angen amdanynt o hyd.

Bu i ni amcangyfrif yn flaenorol y byddai tua 5,000 o flychau ffôn yn dod o dan y mesurau diogelu hyn. O ystyried y dirywiad parhaus yn nifer y galwadau a gwelliannau i ddarpariaeth symudol rydym yn disgwyl na fydd angen diogelu rhai o’r rhain bellach, ond mae ein data darpariaeth symudol diweddaraf yn nodi bod yna o leiaf 1,400 o flychau nad oes ganddynt ddarpariaeth symudol dda o hyd.

Mae'n rhaid i BT (a KCOM, y gweithredwr yn Hull) ymgynghori o hyd ag awdurdodau lleol ar dynnu'r blychau olaf mewn ardal ymaith.

Addasu i ffyrdd newydd o gyfathrebu

Mae'r mesurau diogelu wedi'u diweddaru i adlewyrchu newidiadau i'r ffordd y mae pobl yn gwneud galwadau. Mae 96% o oedolion y DU bellach yn berchen ar ffôn symudol, ac mae'r signal ffôn symudol wedi gwella'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, bydd darpariaeth symudol yn parhau i ddatblygu o ganlyniad i'r Cynllun Rhwydwaith Gwledig a Rennir, menter ar y cyd rhwng llywodraeth y DU a'r diwydiant i wella darpariaeth 4G ar draws y DU. Bydd symud i linellau ffôn digidol hefyd yn gofyn am fuddsoddiad i uwchraddio blychau ffôn, gan gynnwys gosod batris, fel y gellir eu defnyddio o hyd yn ystod toriad trydan.

O ganlyniad, mae Ofcom yn rhoi mwy o hyblygrwydd i gael gwared ar flychau ffôn nad oes eu hangen mwyach, wrth i BT gyflwyno cenhedlaeth newydd o hybiau stryd sy'n cynnig gwasanaethau fel Wi-Fi am ddim a gwefru am ddim.

Efallai y byddwch chi'n gweld blwch ffôn fel tirnod lleol, neu fel symbol nodedig o hiraeth am oes a fu. Ond gallant barhau i fod yn llinell fywyd hanfodol – efallai i ffonio llinell gymorth neu'r gwasanaethau brys – pan nad oes unrhyw opsiynau eraill ar gael.

Bydd ein rheolau newydd yn sicrhau y bydd miloedd lawer o flychau ffôn yn cael eu diogelu cyn hired ag y bydd eu hangen, a byddant hefyd yn cefnogi'r gwaith o gyflwyno hybiau stryd newydd, gyda Wi-Fi a gwefru am ddim i bobl wrth iddynt fynd o gwmpas.

Selina Chadha, Cyfarwyddwr Cysylltedd Ofcom

Esblygiad y blwch ffôn cyhoeddus

BT and KCOM provide around 21000 public call boxes across the U K.  5 million calls were made from them last year, 150000 were emergencies, 25000 were to childline and 20k to samaritans. Calls have decreased from 800m minutes in 2002 to 7 million in 2020. Since BT launched its adopt a kiosk scheme over 6000 kiosks have been converted into defibrillators and libraries.

Nodiadau i olygyddion

  1. Tystiolaeth arall o angen rhesymol gan ddefnyddwyr: Gallai'r categori hwn gynnwys y mathau o alwadau a wneir o'r ffôn, megis i rifau llinell gymorth, neu sefyllfaoedd pan ddibynnwyd ar flwch ffôn yn ystod argyfwng lleol, megis llifogydd.
  2. Ers nifer o flynyddoedd mae BT wedi bod yn datgomisiynu ffonau talu y mae wedi asesu nad oes eu hangen mwyach. Er hynny, gall awdurdodau lleol sydd am gadw'r ciosgau coch eiconig ddefnyddio cynllun 'Mabwysiadu Ciosg' BT. O dan y cynllun, gall cyrff lleol brynu ciosg coch am £1 a'i ddefnyddio at ddiben arall. Ers i BT lansio'r cynllun, mae dros 6,000 o ciosgau wedi cael eu trawsnewid i ystod o wahanol ddefnyddiau, megis llyfrgelloedd cymunedol neu fel cartref i beiriannau diffibrilio a all achub bywydau.

See also...