24 Mai 2023

Penderfyniad Ofcom ar gynnig prisio 'Equinox 2' Openreach

Heddiw mae Ofcom wedi cyhoeddi ei benderfyniad i beidio ag atal Openreach rhag cyflwyno ei gynnig prisio newydd ar gyfer band eang ffeibr llawn, a elwir yn 'Equinox 2’.

O dan ein rheolau, mae'n rhaid i Openreach ein hysbysu ni am gynigion penodol cyn iddynt ddod i rym. Mae hyn er mwyn i ni eu hasesu cyn iddynt gael eu cyflwyno, a lle bo angen, i ni ymyrryd i'w hatal rhag cael eu cyflwyno.

Ar 14 Rhagfyr 2022, fe'n hysbyswyd gan Openreach am gynnig prisio newydd ar gyfer ei wasanaethau ffeibr llawn (Equinox 2). Mae'r cynnig hwn yn rhoi prisiau is i ddarparwyr manwerthu - megis BT, Sky, TalkTalk a Vodafone – os byddant yn cytuno i ddefnyddio cynnyrch ffeibr llawn Openreach yn bennaf ar gyfer archebion newydd yn hytrach na'i gynhyrchion copr etifeddol.

A ninnau wedi asesu'n ofalus yr ystod o dystiolaeth sydd ar gael i ni - gan gynnwys ymatebion i'n hymgynghoriad cyhoeddus - rydym wedi penderfynu peidio ag atal Equinox 2 rhag cael ei gyflwyno.

Wrth gyrraedd ein dyfarniad, rydym wedi ystyried yr effaith ar:

  • Ddinasyddion a defnyddwyr: Ein casgliad yw bod Equinox 2 yn gydnaws â hyrwyddo buddsoddiad Openreach a gweithredwyr eraill mewn rhwydweithiau cyfradd gigabit a hyrwyddo cystadleuaeth sy'n seiliedig ar rwydweithiau, gan gyflwyno canlyniadau gwell i ddefnyddwyr yn y pen draw.
  • Rhwydweithiau amgen: O ganlyniad i Equinox 2, mae rhwydweithiau amgen ('altnets') yn debygol o wynebu cystadleuaeth gryfach gan Openreach. Fodd bynnag, rydym yn dod i'r casgliad nad yw'r telerau amodol yn y cynnig yn creu rhwystr posib i ddefnyddio rhwydweithiau amgen. Ein casgliad felly yw bod Equinox 2 yn gydnaws â chystadleuaeth sy'n seiliedig ar rwydweithiau.
  • Darparwyr gwasanaeth rhyngrwyd (ISPs): Rydym o'r farn bod ISPs yn debygol o elwa o gystadleuaeth sy'n seiliedig ar rwydweithiau. Fel yr esboniwyd uchod, ein casgliad ni yw y bydd ISPs yn parhau i fod yn rhydd i ddefnyddio rhwydweithiau amgen ble bynnag y mynnant.
  • Openreach: Rydym o'r farn bod peidio ag atal Openreach rhag cyflwyno Equinox 2 yn caniatáu iddo ymwneud â chystadleuaeth sy'n seiliedig ar rwydweithiau, heb gyfaddawdu ar ein nod o hyrwyddo buddsoddiad mewn rhwydweithiau cyfradd gigabit.

Ein hamcan trosgynnol yw dod â band eang gwell i bobl ar draws y DU, drwy hyrwyddo buddsoddiad cystadleuol mewn rhwydweithiau cyflym a sicrhau chwarae teg i bob cwmni.

Gan gadw hyn mewn cof, ac ar sail y dystiolaeth sydd ar gael i ni, nid ydym yn ystyried bod gostyngiadau prisio newydd Openreach yn wrth-gystadleuol.

Llefarydd ar ran Ofcom

Rydym hefyd wedi ystyried lefel y prisiau o dan Equinox 2, a'r pryderon sydd gan rai cyfranogwyr yn y farchnad am arfer Openreach o drafod a datblygu gostyngiadau gyda darparwyr manwerthu. A ninnau wedi asesu gwybodaeth gan ddarparwyr a rhwydweithiau amgen yn ofalus, nid oes gennym bryderon sy'n gofyn am ymchwiliad pellach ar hyn o bryd.

Mae Openreach wedi ein hysbysu - wrth ymateb i bryderon a godwyd - ei fod yn bwriadu gwneud ymrwymiadau penodol ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol, gan gynnwys y ffaith nad oes ganddo unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i newid ei brisiau rhent Equinox 2 ac nad yw'n bwriadu cyflwyno unrhyw newidiadau pellach tan o leiaf 31 Mawrth 2026. O bosib bydd hyn yn darparu eglurder pellach i rwydweithiau amgen a'u buddsoddwyr. Fodd bynnag, nid ydym wedi dibynnu ar yr ymrwymiadau hyn wrth ddod i'n casgliadau.

Related content