19 Hydref 2023

Datgelu’r cwynion diweddaraf am delathrebu a theledu-trwy-dalu

Heddiw, rydym wedi cyhoeddi'r ffigurau diweddaraf ar gyfer cwynion rydym wedi’u derbyn am brif wasanaethau llinell dir, band eang, symudol a theledu-trwy-dalu yn y DU.

Mae'r ffigurau hyn yn cwmpasu'r cyfnod o fis Ebrill i fis Mehefin 2023, ac yn dangos, er bod nifer y cwynion yn parhau'n gyson â'r chwarter blaenorol, bod cynnydd bach wedi bod o'i gymharu â'r un adeg y llynedd.

Rydym wedi amlygu’r prif dueddiadau o ddata'r chwarter hwn:

  • Vodafone oedd y darparwr band eang y cwynwyd fwyaf amdano, gyda chynnydd sylweddol yn nifer y cwynion ers y chwarter blaenorol. Yr hyn a sbardunodd cwynion cwsmeriaid yn bennaf oedd eu profiad o ddiffygion, gwasanaeth a chael gwasanaethau wedi'u cysylltu. Rydym wedi ymgysylltu â Vodafone ynghylch eu perfformiad yn y cylch diweddaraf hwn o ddata cwynion – maent wedi cydnabod achosion y cwynion hyn ac wedi rhoi sicrwydd i ni eu bod wedi mynd i'r afael â nhw, gydag ymrwymiad i wella eu perfformiad.
  • TalkTalk, Shell Energy a Virgin Media oedd y darparwyr llinell dir y cwynwyd fwyaf amdanynt. Gwelodd TalkTalk ostyngiad bach, arhosodd Shell Energy yn sefydlog a gwelodd Virgin Media gynnydd bach yn eu cwynion ers y chwarter blaenorol. Yr hyn a sbardunodd cwynion Shell Energy yn bennaf oedd profiad cwsmeriaid o ddiffygion, gwasanaeth a chael gwasanaethau wedi’u cysylltu, tra mai eu ffordd o ymdrin â chwynion cwsmeriaid oedd sbardunau cwynion TalkTalk a Virgin.
  • Sky a ddenodd y nifer lleiaf o gwynion o hyd mewn perthynas â band eang a llinell dir.
  • BT Mobile oedd y gweithredwr symudol y cwynwyd fwyaf amdano, gyda chwsmeriaid yn cwyno yn bennaf am y ffordd yr ymdriniwyd â’u cwynion ac anawsterau o ran newid darparwr. Sky Mobile, EE a Tesco Mobile oedd y darparwyr symudol a dderbyniodd y lleiaf o gwynion.
  • BT a Virgin Media a ddenodd y nifer mwyaf o gwynion ymhlith darparwyr teledu-trwy-dalu. Yr hyn a sbardunodd cwynion BT yn bennaf oedd profiad cwsmeriaid o ddiffygion, gwasanaeth a chael gwasanaethau wedi’u cysylltu, tra bod cwynion Virgin wedi’u sbarduno’n bennaf gan y ffordd yr ymdriniwyd â chwynion cwsmeriaid. Sky a dderbyniodd y nifer lleiaf o gwynion teledu-trwy-dalu.

Wrth sôn am y data cwynion o'r chwarter hwn, dywedodd Fergal Farragher, Cyfarwyddwr Diogelu Defnyddwyr Ofcom:

"Mae'n gadarnhaol gweld bod nifer y cwynion yn gyffredinol wedi aros yn gyson o'u cymharu â'r chwarter blaenorol. Fodd bynnag, mae cwynion yn dal ychydig yn uwch nag yr oeddent yn 2022, ac mae hyn yn dangos bod gan ddarparwyr waith i'w wneud o hyd i wella profiadau cwsmeriaid.

Rydym yn gweithio ochr yn ochr â darparwyr i helpu i sicrhau eu bod yn gwella’u perfformiad ac yn cydnabod yr ymdrechion a wnaed eisoes gan Vodafone i nodi a mynd i'r afael â’r nifer uwch o gwynion a dderbyniwyd ganddynt yn ystod y cyfnod hwn."

Fel rheoleiddiwr cyfathrebu'r DU, gall cwsmeriaid gwyno i ni am y gwasanaethau telathrebu a theledu-trwy-dalu y maent yn eu defnyddio. Er nad ydym yn ymchwilio i gwynion unigol, mae'r data hwn am gwynion yn ein helpu i nodi problemau ac yn ein galluogi i gymryd camau yn erbyn darparwyr os oes angen.

Mae crynhoi’r data hwn hefyd yn ein helpu i ddeall y rhesymau dros anfodlonrwydd cwsmeriaid ar draws y sectorau rydym yn eu rheoleiddio. Er mwyn cymharu perfformiad darparwyr, bob chwarter rydym yn cyhoeddi nifer y cwynion a dderbyniom am ddarparwyr yn berthynol i faint eu sylfaen cwsmeriaid – fesul 100,000 o gwsmeriaid.

Mae'r siartiau isod yn rhoi mwy o fanylion am y cwynion rydym wedi'u derbyn.

Band Eang Sefydlog

Llinell Dir

Symudol

Teledu-trwy-dalu

Related content