28 Mawrth 2023

Ofcom yn cyhoeddi ei Chynllun Gwaith ar gyfer 2023/24

Heddiw mae Ofcom wedi cyhoeddi ei Chynllun Gwaith arfaethedig ar gyfer 2023/24, gan amlinellu ei meysydd gwaith ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Bydd hi’n ugain mlynedd ers sefydlu Ofcom eleni, ac mae ein cenhadaeth i sicrhau bod cyfathrebiadau’n gweithio i bawb - ar draws gwasanaethau telathrebu, darlledu, post, sbectrwm ac ar-lein - yn bwysicach nag erioed.

Mae’r sectorau o dan ofal Ofcom yn cysylltu, yn hysbysu ac yn diddanu pobl ar hyd a lled y wlad bob dydd. Maen nhw hefyd yn cyfrannu dros £70 biliwn i economi’r Deyrnas Unedig bob blwyddyn.

Felly, mae angen i ni sicrhau bod y marchnadoedd hyn yn gweithio fel y dylent, yn enwedig ar adeg pan fydd pobl yn cael trafferth talu eu biliau ac angen bargeinion da a fforddiadwy. Mae hynny hefyd yn golygu ymateb i newidiadau yn y farchnad – costau newidiol, technolegau newydd, newid mewn ymddygiad defnyddwyr a risgiau sy’n esblygu.

Rydym eisoes wedi ymgymryd â dyletswyddau newydd ar gyfer llwyfannau rhannu fideos a diogelwch telegyfathrebiadau, a byddwn yn cael adnoddau a thasg newydd bwysig i greu bywyd mwy diogel ar-lein diolch i’r Mesur Diogelwch Ar-lein sydd ar y gweill.

Wrth i ni ymgymryd â’r dyletswyddau newydd hyn, mae Cynllun Gwaith heddiw yn nodi ein blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod, ac yn egluro sut byddwn yn cyflawni’r gwaith hwn yn ystod 2023-24. Dyma nhw:

  • Rhyngrwyd y gallwn ddibynnu arno – sicrhau cysylltiadau a gwasanaethau cyflym a dibynadwy i bawb, ym mhob man, am bris fforddiadwy;
  • Cyfryngau rydym yn ymddiried ynddynt ac yn eu gwerthfawrogi – cefnogi cyfryngau gwasanaethau cyhoeddus i ddarparu cynnwys o ansawdd uchel a gynhyrchir yn y DU a newyddion dibynadwy, gan sicrhau bod cynulleidfaoedd yn cael eu diogelu a bod rhyddid mynegiant yn cael ei ddiogelu;
  • Rydym yn byw bywyd mwy diogel ar-lein – dechrau rhoi’r drefn diogelwch ar-lein newydd ar waith ar ôl i’r Bil ddod yn gyfraith, a pharhau i reoleiddio llwyfannau rhannu fideos; a
  • Galluogi gwasanaethau diwifr yn yr economi eang - sicrhau defnydd effeithlon o sbectrwm a chefnogi twf ar draws yr economi.

Ar ben hynny, byddwn hefyd yn parhau â’n gwaith yn cynnal marchnad bost sy’n gweithio’n dda – gan gynnwys drwy fonitro perfformiad y Post Brenhinol yn well ac adolygu’r cap diogelu ar stampiau ail ddosbarth.

Related content