13 Mawrth 2023

Ofcom yn dangos y ffordd i wella gwasanaethau 5G a di-wifr newydd ac arloesol

Mae Ofcom wedi cadarnhau heddiw y bydd yn sicrhau bod sbectrwm tonnau milimedr (mmWave) ar gael ar draws y bandiau 26 GHz a 40 GHz ar gael ar gyfer technoleg symudol newydd, gan gynnwys gwasanaethau 5G.

Gallai hyn arwain at fanteision sylweddol drwy alluogi data di-wifr â chapasiti a chyflymder mawr. Gellir ei ddefnyddio i wella gwasanaethau symudol a darparu gwasanaethau newydd arloesol ledled y DU.

Bydd yn arbennig o fuddiol mewn lleoliadau lle mae llawer o ddefnyddwyr symudol, fel gorsafoedd trenau, stadia pêl-droed a chyngherddau, lle mae’r galw ar rwydweithiau presennol yn golygu bod cyflymder data symudol yn gallu bod yn araf.

Yn ogystal â gwasanaethau symudol, gallai sbectrwm mmWave, yn y dyfodol, hefyd gefnogi rhaglenni di-wifr arloesol sy’n gofyn am lawer iawn o ddata ar gyflymder uchel iawn. Mae’r arwyddion cynnar yn awgrymu y gallai hyn gynnwys rhaglenni fel realiti rhithwir, awtomeiddio ffatrïoedd, a systemau trafnidiaeth deallus fel ceir heb yrrwr.

Rydym yn disgwyl y bydd defnyddiau newydd o sbectrwm mmWave yn cael eu canoli’n bennaf mewn ardaloedd sydd â lefelau uchel o draffig data, fel trefi a dinasoedd. Bydd Ofcom yn dyfarnu trwyddedau ledled y ddinas i ddefnyddio sbectrwm mmWave drwy arwerthiant ac yn neilltuo trwyddedau ar gyfer trwyddedau mwy lleol ar sail y cyntaf i’r felin, gan ddefnyddio ein fframwaith trwyddedu Mynediad a Rennir.

Rydym nawr yn ymgynghori ar gynigion ar gyfer dylunio’r arwerthiant i drwyddedau ledled y ddinas, amodau’r drwydded ar gyfer trwyddedau mmWave lleol a ledled y ddinas, a sut byddwn yn cydlynu defnyddwyr y sbectrwm hwn.

Rydym yn gwahodd ymatebion i’r ymgynghoriad hwn erbyn 22 Mai 2023.

I gael gwybod mwy am sbectrwm mmWave a'r manteision y gallai eu creu, bwrw golwg ar ein canllaw.

Related content