8 Tachwedd 2023

Paratoi ar gyfer 5G gwell a gwasanaethau di-wifr newydd ac arloesol

Heddiw mae Ofcom yn amlinellu dyluniad yr arwerthiant ar gyfer dyfarnu trwyddedau sbectrwm tonnau milimetr (mmWave).

Ym mis Medi, cadarnhaodd Ofcom y bydd yn agor y bandiau sbectrwm 26 GHz a 40 GHz i dechnoleg symudol, gan gynnwys gwasanaethau 5G.

Yn ogystal â gwella gwasanaethau symudol – yn enwedig capasiti a chyflymder mewn dinasoedd a threfi mawr – gallai sbectrwm mmWave hefyd alluogi cymwysiadau di-wifr arloesol sy’n llyncu meintiau mawr o ddata, cyflymder uchel iawn, neu’r ddau.

Dyluniad yr arwerthiant

Bydd tri chategori o lotiau sbectrwm yn cael eu harwerthu:

  • 26 GHz isaf (25.1-26.5 GHz);
  • 26 GHz uchaf (26.5-27.5 GHz); a
  • 40 GHz (40.5-43.5 GHz).

Bydd pob lot yn cynnwys bloc o 200 MHz. Y prisiau cadw fydd £2m am bob lot o 26 GHz isaf a 26 GHz uchaf, ac £1m ar gyfer pob lot o 40 GHz.

Bydd yr arwerthiant yn cael ei gynnal mewn dau gam. Bydd y prif gam – sef arwerthiant cloc – yn penderfynu faint o sbectrwm a gaiff ei ddyrannu i bob cynigydd. Dilynir hyn gan gam aseinio a fydd yn penderfynu'r union amleddau a ddyrennir i bob enillydd.

A ninnau wedi asesu’r dystiolaeth sydd ar gael, nid ydym yn bwriadu cynnwys cyfnod cyd-drafod er mwyn i enillwyr gytuno y bydd eu dyraniadau priodol yn gyfagos â'i gilydd yn y cam aseinio. Fodd bynnag, byddwn yn ystyried unrhyw dystiolaeth bellach – y mae’n rhaid ei chyflwyno i ni erbyn 9 Ionawr 2024 – cyn dod i benderfyniad terfynol ar yr agwedd hon ar ddyluniad yr arwerthiant.

Cynnwys cysylltiedig