Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
25 Ionawr 2023

Y prif dueddiadau technolegol i gadw llygad amdanynt yn 2023

Mae hi’n flwyddyn newydd, ac yn amser perffaith i bwyso a mesur y technolegau presennol a’r technolegau sydd ar y gweill, er mwyn ystyried sut y gallent effeithio ar ein bywydau a’r gymdeithas yn ehangach dros y blynyddoedd i ddod.

Fe wnaethom ni ofyn i’n Prif Swyddog Technoleg, Sachin Jogia, amlinellu’r datblygiadau technolegol mawr a fydd, yn ei farn ef, yn cael yr effaith fwyaf arnom yn 2023 – dyma beth oedd ganddo i’w ddweud.

Gartref – lleihau costau a’n cadw ni’n ddiddawn

Wrth i gartrefi chwilio am ffyrdd o arbed arian, rydym yn rhagweld twf yn y defnydd o apiau arbed ynni sydd wedi’u hintegreiddio â thechnoleg cartref clyfar. Mae thermostatau clyfar eisoes yn cael eu defnyddio, ond gallai apiau sy'n defnyddio technoleg Dysgu Peirianyddol bennu, er enghraifft, y ffordd orau o wresogi eich cartref ac arbed arian.  Ar ben hyn, bydd batris â chapasiti uchel yn dod yn fwy cyffredin oherwydd maent yn ffordd o storio’r ynni a gynhyrchir yn y cartref (fel paneli solar neu dyrbin gwynt) a’i ailddosbarthu yn ôl yr angen i leihau costau ynni.

O ran y byd adloniant, bydd rhagor o raglenni teledu yn symud ar-lein. Gallai mabwysiadu aml-gast manteisgar ar gyfer teledu protocol rhyngrwyd (IP) olygu bod gwylio ar-lein yn fwy cyfeillgar i’r amgylchedd ac yn ein harwain ymhellach i ffwrdd oddi wrth deledu traddodiadol. Mae cael rhagor o arloesedd wrth ddarparu cynnwys fel ITVX yn cynyddu nifer y ffyrdd y gallwn gael gafael ar gynnwys a dod â mwy o amrywiaeth o ran sut mae cynnwys ar-alw yn cael ei ddarparu.

Yn y cyfamser, gallai cefnogwyr chwaraeon weld cyfryngau sy’n seiliedig ar wrthrychau yn croesi drosodd gyda synwyryddion arnynt ar gyfer digwyddiadau chwaraeon mawr. Mae ambell i athletwr sy’n rhedeg pellteroedd hir eisoes yn cael ei dracio’n gyson yn ystod rasys, a gellir bwydo’r data hwn yn ôl i gynulleidfaoedd drwy droshaenau ar y sgrin. Mae gan chwaraewyr pêl-droed dracwyr a allai gefnogi'r darlledwyr i gael yr onglau camera delfrydol a darparu saethiadau personol er mwyn gwella’r profiad i’r defnyddwyr, gan gynnwys y gallu i ganolbwyntio ar un chwaraewr yn benodol.

Bydd cyfryngau synthetig yn parhau i ddatblygu

Y llynedd gwelsom gynnydd eithriadol yn y gwaith o gynhyrchu offer cyfryngau synthetig fel: ChatGPT, peiriant cynhyrchu testunau; Dall-E, peiriant cynhyrchu lluniau; Lensa, peiriant cynhyrchu portreadau deallusrwydd artiffisial; MidJourney, peiriant cynhyrchu lluniau o destun; a Meta, peiriant cynhyrchu fideos a fideos o destun. Yn 2023, rydym yn rhagweld y bydd cyfryngau synthetig yn dal i ddenu’r penawdau – mae’n bosibl y byddwn hyd yn oed yn gweld llyfr neu ffilm yn cael eu creu’n gyfan gwbl gan ddeallusrwydd artiffisial.  Bydd deallusrwydd artiffisial heb-gôd, sy’n caniatáu i ddefnyddwyr sydd ag ychydig o allu technegol i lusgo a gollwng eu creadigaethau artiffisial, yn help i ysgogi defnydd a gwneud y dechnoleg yn fwy hygyrch i sylfaen ehangach o ddefnyddwyr.

Fodd bynnag – gair o rybudd am gyfryngau synthetig. Mae ei ddatblygiad parhaus yn golygu ei bod yn haws i unrhyw un – hyd yn oed heb sgiliau technegol – greu cynnwys synthetig sy’n edrych fel cynnwys ‘go iawn’.  O ganlyniad, mae’n gofyn i chi gael dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth dda o’r gwahaniaethau sy’n bodoli rhwng cynnwys wedi’i greu gan ddulliau synthetig a chynnwys ‘go iawn’.

Rhwydweithiau di-wifr newydd yn ein cadw ni mewn cysylltiad

Bydd rhagor o ddatblygiadau o ran cysylltedd di-wifr, wrth i Wi-Fi 6 a 6e barhau i ddod yn fwy poblogaidd yn 2023. Bydd y rhain yn darparu rhwydweithiau cyflym i ddefnyddwyr a busnesau ystwyth. Eleni, byddwn hefyd yn dechrau gweld y cynnyrch Wi-Fi 7 cyntaf yn cael eu datgelu i’r cyhoedd. Mae gan Wi-Fi 7 led band llydan iawn a allai helpu i ddatblygu ambell raglen gyffrous i fonitro iechyd yn y cartref.

Gallai gwell rhwydweithiau ffeibr a di-wifr arwain hefyd at ddatblygiadau mewn cerbydau hunan-yrru. Eleni, bydd swyddogaeth SOS lloeren Apple ar gael hefyd i ddefnyddwyr iPhone 14 yn Ewrop.  Mae’r swyddogaeth hon yn caniatáu i ddefnyddwyr wneud galwadau ffôn brys mewn ardaloedd anghysbell – rydym yn rhagweld y bydd llawer mwy o wneuthurwyr dyfeisiau yn mynd ar drywydd y dechnoleg hon yn ystod y flwyddyn nesaf. Newyddion gwych i bobl sy’n chwilio am antur.

Cadwch lygad ar fydoedd ar-lein rhithwir

Bydd llawer mwy o sylw ar y Metafyd eleni, a diddorol fydd gweld beth sydd gan Meta i’w gynnig yn y gofod hwn, wrth i ni aros i weld a yw’n cyrraedd y disgwyliadau ac yn werth yr holl gyllid sydd wedi’i fuddsoddi ynddo ar gyfer ymchwil. A fydd y buddsoddiad yn parhau yn 2023? Ac a fydd y dechnoleg hon yn dod â manteision i fusnesau – a defnyddwyr hefyd?

Cadwch lygad hefyd am dwf mewn personâu digidol a dyblygiadau digidol, sy’n gweithredu fel pont rhwng y byd ffisegol a’r byd ar-lein. Yna, yn y byd ‘go iawn’ gallwn weld cynnydd mewn rhyngweithiadau rhwng pobl a robotiaid, a rhagor o gymhorthion robotig a dynolffurf yn cael eu datblygu.

Bydd 2023 hefyd yn flwyddyn fawr i galedwedd realiti (rhithwir, cymysg ac estynedig), gyda chwmnïau mawr fel Sony, Meta ac Apple i gyd yn debygol o ryddhau eu clustffonau diweddaraf eleni.

Related content