31 Hydref 2023

Sut olwg ddylai fod ar ymwybyddiaeth o’r cyfryngau drwy ddylunio?

Mae Ofcom yn ceisio barn ynghylch sut y gall cwmnïau technoleg ddylunio’u llwyfannau mewn ffordd sy’n hyrwyddo ac yn cefnogi ymwybyddiaeth ddigidol eu defnyddwyr.

Yn ogystal â chymryd camau i leihau'r risg y bydd eu defnyddwyr yn dod ar draws deunydd niweidiol, gall llwyfannau hefyd rymuso pobl i wneud penderfyniadau gwybodus am yr hyn maen nhw'n ei wneud ar-lein. Gall datblygu sgiliau cadarn o ran ymwybyddiaeth o’r cyfryngau helpu defnyddwyr y rhyngrwyd i ymgysylltu â gwasanaethau ar-lein yn feirniadol, yn ddiogel ac yn effeithiol.

Gall ymyriadau ar-lwyfan helpu pobl i adeiladu'r sgiliau hyn. Gallai hyn fod yn hysbysiad am ffynhonnell gwybodaeth, neu'n sbardun i feddwl a ydych chi wir am bostio rhywbeth. Mae'r ymyriadau hyn yn aml yn cael eu cychwyn pan fydd materion mawr yn codi, megis pandemig a rhyfeloedd.

Mae gan Ofcom ddyletswydd barhaus i hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r cyfryngau, o dan Ddeddf Cyfathrebiadau 2003. Yn ogystal â'n gwaith sy'n helpu pobl yn uniongyrchol i ddatblygu eu sgiliau ymwybyddiaeth o’r cyfryngau, rydym hefyd wedi bod yn edrych ar y rôl bwysig y gall llwyfannau ei chwarae yn hyn o beth hefyd.

Teclynnau hanfodol ar gyfer pob defnyddiwr

Mae ymchwil newydd Ofcom yn dangos bod gwahaniaeth yn agweddau pobl rhwng y cenedlaethau at ymyriadau ar-lwyfan, a pha mor aml yr oeddent yn adrodd eu gweld.

Roedd pobl iau, sy'n treulio mwy o'u hamser ar-lein, yn llawer mwy tebygol o fod wedi gweld unrhyw fath o ymyriad - labeli, troshaenau, awgrymiadau/ffenestri naid, hysbysiadau neu adnoddau - a YouTube, Instagram a TikTok oedd y llwyfannau lle gwelwyd y mwyafrif o’r rhain. Dywedodd pobl ifanc hefyd eu bod yn fwy ymwybodol o'r teclynnau mae llwyfannau yn eu darparu, ac yn teimlo'n fwy hyderus wrth eu defnyddio.

Roedd oedolion a phobl ifanc yn eu harddegau fel ei gilydd o’r farn bod ymyriadau yn ddefnyddiol – yn bennaf i eraill yn hytrach nag iddyn nhw eu hunain – ar gyfer tynnu sylw at gynnwys sensitif neu ofidus. Roedd oedolion yn arbennig yn credu bod y teclynnau hyn yn hanfodol i blant.

Egwyddorion arferion gorau wrth ddylunio

Er bod pob llwyfan yn wahanol, mae Ofcom wedi awgrymu rhai egwyddorion cyffredin ar gyfer sut y gall gwasanaethau o bob maint fynd ati i wreiddio ymwybyddiaeth o’r cyfryngau yn eu gwaith dylunio.  Mae'r rhain yn darparu canllawiau o dan dair thema, gan ganolbwyntio ar sut y gall gwasanaethau:

  1. Ddod yn atebol am wneud ymwybyddiaeth o’r cyfryngau’n flaenoriaeth, a chynyddu tryloywder o ran datblygu ac effaith ymyriadau ymwybyddiaeth o’r cyfryngau;
  2. Rhoi anghenion defnyddwyr wrth galon y broses ddylunio a sicrhau bod ymyriadau’n amserol;
  3. Monitro a gwerthuso ymyriadau ymwybyddiaeth o’r cyfryngau yn barhaus.

Nid yw'r egwyddorion hyn yn gynhwysfawr nac yn gyfreithiol rwymol, ond yn hytrach eu bwriad yw annog arferion gorau. Rydym yn ceisio barn arnynt erbyn dydd Llun 18 Rhagfyr, a byddwn yn cyhoeddi fersiwn terfynol ar ôl i ni adolygu’r ymatebion.

Related content