25 Mawrth 2024

Gweithredu’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein: Dyletswyddau ychwanegol ar gyfer gwasanaethau ar-lein wedi'i 'categoreiddio'

Mae Ofcom yn gofyn am dystiolaeth heddiw i lywio ein codau ymarfer a'n canllawiau ar y dyletswyddau ychwanegol a fydd yn berthnasol i rai o’r gwefannau ac apiau ar-lein a ddefnyddir fwyaf – a ddynodir yn wasanaethau ‘wedi'u categoreiddio’ – o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein.

O dan y deddfau newydd, rhaid i bob cwmni technoleg sydd o fewn cwmpas roi mesurau diogelwch priodol ar waith i amddiffyn defnyddwyr rhag niwed ar-lein. At hynny, bydd yn rhaid i rai gwasanaethau ar-lein gydymffurfio â gofynion ychwanegol os ydynt yn perthyn i un o dri chategori, a elwir yn Gategori 1, 2A neu 2B.

Mae'r dyletswyddau ychwanegol hyn yn cynnwys rhoi mwy o offer i ddefnyddwyr reoli pa gynnwys y maent yn ei weld, sicrhau diogelwch ar gyfer cynnwys cyhoeddwyr newyddion a newyddiadurol, atal hysbysebu twyllodrus a chynhyrchu adroddiadau tryloywder. Mae dyletswyddau gwahanol yn berthnasol, gan ddibynnu i ba gategori gwasanaeth y mae gwasanaeth yn perthyn.

Dyletswyddau ychwanegol ar gyfer gwasanaethau ar-lein wedi'i 'categoreiddio

Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i ni gynhyrchu codau ymarfer a chanllawiau sy'n amlinellu'r camau y gall cwmnïau eu cymryd i gydymffurfio â'r dyletswyddau ychwanegol hyn. Rydym yn gwahodd tystiolaeth gan ddiwydiant, grwpiau arbenigol a sefydliadau eraill i helpu llywio a siapio ein hymagwedd. Bydd ymgynghoriad ffurfiol ar y codau a’r canllawiau drafft yn dilyn yn 2025,a fydd yn cymryd yr ymatebion i gais am dystiolaeth heddiw i ystyriaeth.

Cyngor i'r Llywodraeth ar drothwyon categoreiddio

Ochr yn ochr â hyn, rydym hefyd wedi cyhoeddi ein cyngor i Lywodraeth y DU heddiw ynglŷn â'r trothwyon a fyddai'n pennu a yw gwasanaeth yn perthyn i Gategori 1, 2A neu 2B. Rydym yn cynghori y dylai:

Categori 1: fod yn berthnasol i wasanaethau sy’n bodloni’r naill neu’r llall o’r amodau canlynol:

  • Amod 1 – yn defnyddio system argymell cynnwys; ac mae ganddo fwy na 34 miliwn o ddefnyddwyr yn y DU ar y rhan defnyddiwr-i-ddefnyddiwr o'i wasanaeth, sy'n cynrychioli tua 50% o boblogaeth y DU;
  • Amod 2 - yn caniatáu i ddefnyddwyr anfon ymlaen neu ailrannu cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr; ac yn defnyddio system argymell cynnwys; ac mae ganddo fwy na 7 miliwn o ddefnyddwyr y DU ar y rhan defnyddiwr-i-ddefnyddiwr o'i wasanaeth, sef tua 10% o boblogaeth y DU.

Categori 2A: fod yn berthnasol i wasanaethau sy’n bodloni’r ddau faen prawf canlynol:

  • yn wasanaeth chwilio, ond ddim yn wasanaeth chwilio 'fertigol'
  • mae ganddo fwy na 7 miliwn o ddefnyddwyr yn y DU ar y rhan o'i wasanaeth sy'n beiriant chwilio, sef tua 10% o boblogaeth y DU.

Categori 2B: fod yn berthnasol i wasanaethau sy’n bodloni’r ddau faen prawf canlynol:

  • yn galluogi defnyddwyr i anfon negeseuon uniongyrchol; ac
  • mae ganddo fwy na 3 miliwn o ddefnyddwyr yn y DU ar y rhan defnyddiwr-i-ddefnyddiwr o'r gwasanaeth, sy'n cynrychioli tua 5% o boblogaeth y DU.

Wrth gymryd ein cyngor i ystyriaeth, rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol osod yr amodau trothwy mewn is-ddeddfwriaeth. Unwaith y caiff ei phasio, byddwn wedyn yn cywain gwybodaeth, fel y bo angen, gan wasanaethau sydd wedi'u rheoleiddio ac yn cynhyrchu cofrestr gyhoeddedig o wasanaethau wedi'u categoreiddio.

Related content