17 Ebrill 2024

Datgelu’r cwynion diweddaraf am ddarparwyr telathrebu a theledu-drwy-dalu

Heddiw rydym yn cyhoeddi'r ffigurau diweddaraf ar gyfer y cwynion rydym wedi'u derbyn ynghylch prif ddarparwyr llinell dir, band eang, symudol a theledu-drwy-dalu y DU.

Mae'r ffigurau hyn yn ymdrin â'r cyfnod rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr y llynedd.

Yn ystod y cyfnod hwnnw, arhosodd cwynion ar lefelau tebyg i'r chwarter blaenorol yn 2023. Gostyngodd cwynion am linell sefydlog, band eang sefydlog a theledu-drwy-dalu i gyd ers y chwarter blaenorol ac arhosodd cwynion am symudol talu'n fisol ar lefelau tebyg.

Y prif ganfyddiadau

  • Virgin Media oedd y darparwr band eang, llinell dir a theledu-drwy-dalu y cwynwyd fwyaf amdano o hyd, er y bu ostyngiad sylweddol yn yr holl feysydd hyn o gymharu â’r chwarter blaenorol. Roedd cwynion cwsmeriaid eto wedi'u hysgogi'n bennaf gan y ffordd yr ymdriniwyd â'u cwynion.
  • Sky a gynhyrchodd y nifer isaf o gwynion am wasanaethau band eang a llinell dir o hyd.
  • Sky a TalkTalk oedd y darparwyr teledu-drwy-dalu y cwynwyd leiaf amdanynt y chwarter hwn.
  • O2 oedd y gweithredwr symudol y cwynwyd fwyaf amdano, gyda’r cwynion eto’n cael eu hysgogi’n bennaf gan y ffordd yr ymdriniwyd â chwynion cwsmeriaid. Sky Mobile, Tesco Mobile, EE a Vodafone a gynhyrchodd y lleiaf o gwynion yn y sector symudol.

Mae safle Virgin Media fel y darparwr band eang, llinell dir a theledu-drwy-dalu y cwynwyd fwyaf amdano'n parhau o’r chwarter blaenorol. Rydym wrthi'n ymchwilio i berfformiad Virgin Media o ran ein rheolau ar ymdrin â chwynion a therfynu contractau.

Wrth sôn am y ffigurau cwynion diweddaraf hyn, dywedodd Fergal Farragher, Cyfarwyddwr Polisi Ofcom: “Gallwn weld o’r ffigurau diweddaraf hyn fod anfodlonrwydd cwsmeriaid yn parhau ar lefel debyg i’r chwarter blaenorol. Er y bu gwelliant ym mherfformiad Virgin Media, mae ei safle ar waelod ein tablau'n dangos bod lle i wella ymhellach.

Pam rydym yn cyhoeddi'r ffigurau cwynion hyn

Fel rheoleiddiwr gwasanaethau cyfathrebu'r DU, mae Ofcom yn derbyn cwynion gan gwsmeriaid am eu gwasanaethau telathrebu a theledu-drwy-dalu.

Er na allwn weithredu ar gwynion unigol, maent yn ein helpu i ddeall rhesymau cwsmeriaid dros anfodlonrwydd, ac mae eu cyhoeddi nhw'n helpu pobl i gymharu darparwyr a dewis yr un sy'n iawn ar eu cyfer hwy.

Mae'r siartiau isod yn dangos y cwynion rydym wedi'u derbyn ar gyfer gwasanaethau band eang, llinell dir, symudol talu'n fisol a theledu-drwy-dalu. Gallwch ddefnyddio'r llithrydd i hidlo fesul blwyddyn.

Band eang sefydlog

Llinell dir

Symudol talu'n fisol

Teledu-drwy-dalu

Related content