4 Mawrth 2024

Sylwadau misogynistaidd ar Dan Wootton Tonight yn torri rheolau ar dramgwydd

Daeth ymchwiliad gan Ofcom heddiw i'r casgliad bod pennod o Dan Wootton Tonight ar GB News wedi torri rheolau darlledu sydd wedi'u dylunio i amddiffyn gwylwyr rhag cynnwys tramgwyddus.

Ysgogodd sylwadau a wnaed yn ystod y rhaglen gan Laurence Fox wrth dargedu'r newyddiadurwr gwleidyddol benywaidd, Ava Evans, 8,867 o gwynion i Ofcom. Mynegodd gwylwyr bryderon fod ei sylwadau'n rhywiaethol, yn fisogynistaidd ac yn dramgwyddus.

Yn unol â'r hawl gyfreithiol i  ryddid mynegiant, mae darlledwyr yn rhydd i gynnwys deunydd a allai fod yn dramgwyddus yn eu rhaglenni o dan ein rheolau. Ond, wrth wneud hynny, rhaid cyfiawnhau cynnwys o'r fath a'i roi mewn cyd-destun digonol i sicrhau bod cynulleidfaoedd yn cael eu hamddiffyn.

Fe wnaethom lansio ymchwiliad i benderfynu a oedd y rhaglen, a ddarlledwyd ar 26 Medi 2023, yn cydymffurfio â Rheol 2.3 y Cod Darlledu.

Ein canfyddiadau

Bu i'n harbenigwyr safonau darlledu ddadansoddi’r cynnwys yn ofalus ynghyd â'r ymatebion ffurfiol gan GB News a Dan Wootton, yn unol â’n gweithdrefnau ymchwilio.

Gwnaethom ganfod bod sylwadau Mr Fox yn gyfystyr ag ymosodiad hynod bersonol ar Ms Evans ac y gallent fod yn hynod dramgwyddus i wylwyr. Fe wnaeth y sylwadau isafu ei chyfraniad at drafodaeth a ddarlledwyd ar iechyd meddwl - yn rhinwedd ei swydd broffesiynol fel newyddiadurwr gwleidyddol - i ddyfarnu a oedd hi, neu fenywod tebyg iddi sy'n mynegi eu barn wleidyddol yn gyhoeddus, yn rhywiol ddymunol i ddynion.

O'r herwydd, roeddem o'r farn bod sylwadau Mr Fox yn diraddio ac yn bychanu Ms Evans a menywod yn gyffredinol a'u bod yn amlwg ac yn ddiamwys o fisogynistaidd.

Yn ein barn ni, ni wnaeth ymateb a her gyfyngedig Mr Wootton liniaru'r posibilrwydd o dramgwydd. Yn hytrach, fe wnaeth ei waethygu trwy gyfrannu at y naratif lle barnwyd gwerth menyw yn ôl ei hymddangosiad corfforol.

Datgelodd ein hymchwiliad fod disgrifiad Mr Wootton a GB News ynghylch pam na chafodd ymddiheuriad ei ddarllen yn uchel yn wahanol. Fodd bynnag, nid oeddem o'r farn bod angen archwilio'r cyfrifon gwahanol hyn. Beth bynnag, ni wnaethpwyd unrhyw ymddiheuriad ar ôl y cyfweliad gyda Mr Fox yng ngweddill y rhaglen ddwy awr - ac ni ddefnyddiwyd unrhyw dechnegau golygyddol eraill i fynd i'r afael â'r posibilrwydd o drosedd. Roeddem o’r farn bod hyn yn awgrymu bod rheolaeth olygyddol GB News o’r rhaglen fyw hon wedi bod yn annigonol.

Ein penderfyniad

Wrth gyrraedd ein penderfyniad, rydym wedi rhoi sylw gofalus i hawl darlledwyr a chynulleidfaoedd i ryddid mynegiant, ac wedi ystyried ystod o ffactorau cyd-destunol perthnasol.

Gan roi ystyriaeth benodol i'r ffaith y cyfeiriwyd sylwadau misogynistaidd Mr Fox at unigolyn, heb eu herio i raddau helaeth gan y cyflwynydd, ac absenoldeb unrhyw ymddiheuriad yn y rhaglen ei hun, nid ydym o'r farn bod y potensial sylweddol am dramgwydd wedi'i gyfiawnhau gan y cyd-destun yn yr achos hwn. Rydym felly wedi canfod bod y rhaglen yn groes i Reol 2.3.

Yng ngoleuni amgylchiadau'r achos hwn, mae gennym bryderon sylweddol am reolaeth olygyddol GB News ar ei allbwn byw. Rydym yn mynnu bod GB News yn darparu rhagor o wybodaeth fanwl am ei arferion cydymffurfio yn y maes hwn i ni eu hystyried, ac yn gofyn iddynt ddod i gyfarfod yn ein swyddfeydd i'w trafod.

Related content