19 Chwefror 2024

Ofcom yn agor ymchwiliad newydd i ddidueddrwydd dyladwy i GB News

Mae Ofcom wedi lansio ymchwiliad i People’s Forum: The Prime Minister ar GB News o dan ein rheolau didueddrwydd dyladwy.

Rydym wedi derbyn tua 500 o gwynion am y rhaglen a ddarlledwyd ar GB News ar 12 Chwefror 2024.

Rydym yn ymchwilio o dan Reolau 5.11 a 5.12 y Cod Darlledu sy’n darparu gofynion didueddrwydd dyladwy ychwanegol ar gyfer rhaglenni sy’n delio â materion sy’n destun dadlau gwleidyddol mawr a materion o bwys sy’n ymwneud â pholisi cyhoeddus cyfredol. Yn benodol, mae Rheolau 5.11 a 5.12 yn mynnu bod yn rhaid cynnwys ystod eang briodol o safbwyntiau arwyddocaol a rhoi pwys dyladwy iddynt mewn rhaglenni o'r fath, neu mewn rhaglenni amserol sydd â chysylltiadau clir.

Related content