15 Ionawr 2024

Arbed arian ar eich biliau ffôn, band eang a theledu-drwy-dalu yn 2024

Gyda'r Flwyddyn Newydd y tu ôl i ni erbyn hyn, mae llawer o bobl yn meddwl am ffyrdd o arbed arian yn 2024. Mae cyllidebau aelwydydd yn parhau i fod dan bwysau yng nghanol costau byw cynyddol - felly mae'n bwysig torri costau ar eich biliau ffôn, band eang a theledu-drwy-dalu os gallwch chi.

Os ydych chi'n awyddus i roi trefn ar eich arian ar gyfer y flwyddyn i ddod, mae camau y gallwch eu cymryd i osgoi gordalu am y gwasanaethau hyn.

Dyma bum peth y gallwch eu gwirio i sicrhau nad ydych yn colli allan ar arbedion.

1. A ydych i mewn neu allan o gontract?

Mae miliynau o bobl yn y DU allan o gontract am eu gwasanaethau ffôn, band eang neu deledu-drwy-dalu a gallent fod yn colli allan ar fargeinion gwell. Gwiriwch gyda'ch darparwr i wneud yn siŵr nad ydych chi'n un ohonyn nhw.

Os ydych chi allan o gontract, mae’n debygol eich bod yn talu gormod a'i bod hi'n hen bryd i gael gwybod a oes bargeinion gwell ar gael. Mynnwch gip ar y gwefannau cymharu sydd wedi'u hachredu gan Ofcom i weld beth sydd ar gael. Siaradwch â'ch darparwr presennol i weld a fyddant yn cynnig yr un pris â'r fargen orau sydd ar gael, neu hyd yn oed pris llai. Os na fyddant, ystyriwch newid darparwr. I gael gwybod mwy, gweler ein canllaw i newid.

2. A ydych yn gymwys am dariff cymdeithasol?

Os ydych chi'n derbyn Credyd Cynhwysol, Credyd Pensiwn, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, neu fudd-daliadau eraill, mae'n bosib eich bod yn gymwys i gael cytundeb band eang rhatach. Mae pecynnau'n dechrau o ddim ond £10 y mis a gallech chi arbed tua £200 y flwyddyn gyda nhw.

Os yw eich darparwr presennol yn cynnig tariff cymdeithasol a'ch bod yn gymwys, gallwch newid iddo unrhyw bryd, yn rhad ac am ddim.

I gael gwybod mwy am yr amrywiaeth o dariffau cymdeithasol sydd ar gael ac i weld a allech chi fod yn gymwys, gweler ein canllaw.

3. A allech arbed drwy ddefnyddio tariff SIM yn unig?

Os ydych am arbed arian ar eich ffôn symudol, bwrw golwg ar y cynigion sydd ar gael ar dariffau SIM yn unig. Os oes gennych ffôn eisoes a'ch bod eisiau dim ond lwfans misol o alwadau, negeseuon testun a data, efallai mai dyma'r opsiwn gorau i chi. Maent yn aml yn rhatach na chontract gyda ffôn wedi’i gynnwys, ac mae llawer o'r tariffau’n costio llai na £10 y mis.

Os nad oes gennych ffôn eisoes, mae fel arfer yn rhatach o hyd i brynu set llaw ar wahân a'i ddefnyddio gyda chynllun SIM yn unig. Fodd bynnag, gall taliad untro am ffôn fod yn gost sylweddol o hyd ac efallai na fydd yn fforddiadwy i bawb.

4. A allech chi arbed ar fand eang gyda bwndel?

Os oes angen gwasanaeth llinell dir arnoch hefyd, gallwch arbed arian drwy gael eich band eang a’ch ffôn fel rhan o fwndel. Datgelodd ein hymchwil ddiweddar y gallech arbed cymaint â 34% drwy fwndelu'r gwasanaethau hyn gyda'r un darparwr. Gwiriwch gyda'ch darparwr i weld pa becynnau y maent yn eu cynnig ac a yw'r rhain yn addas ar gyfer eich anghenion.

Os nad oes angen llinell sefydlog arnoch a'ch bod yn chwilio am becyn band eang ffeibr llawn yn unig, mae'n werth edrych ar ddarparwyr llai hefyd, gyda phecynnau ar gael rhwng £25 a £50 y mis.

5. A ydych yn defnyddio'ch holl danysgrifiadau teledu-drwy-dalu?

Mae'n hawdd cofrestru ar gyfer amrywiaeth o wasanaethau teledu-drwy-dalu a ffrydio gyda chymaint o gynnwys gwych ar gael - ac mae gan lawer o gartrefi nifer o danysgrifiadau.

Ond os ydych chi'n ceisio arbed arian, mae'n werth meddwl faint rydych chi'n defnyddio'r gwasanaethau hyn ac a fyddech chi'n colli allan pe byddech yn eu canslo.

Gellir canslo - neu oedi - llawer o wasanaethau ffrydio - ar unwaith heb fod angen talu unrhyw fath o dâl cosb, felly gallai fod yn ddefnyddiol hyd yn oed fel mesur dros dro.

Mwy o wybodaeth

Mae gennym fwy o awgrymiadau ar dorri eich costau ffôn, band eang a theledu-drwy-dalu.

Related content