8 Ebrill 2024

Rhaid i TalkTV sicrhau cyfiawnhad dros sylwadau a allai fod yn dramgwyddus, yn ôl rhybudd gan Ofcom

Heddiw rydyn ni wedi dweud wrth TalkTV am fod yn arbennig o ofalus i sicrhau bod sylwadau sydd â risg uchel o achosi tramgwydd difrifol yn cael eu cyfiawnhau a'u rhoi mewn cyd-destun priodol.

Daw hyn yn sgil asesiad o sylwadau gan Julia Hartley-Brewer yn ystod cyfweliad â Dr Mustafa Barghouti, ysgrifennydd cyffredinol Menter Genedlaethol Palestina, a ysgogodd nifer sylweddol o gwynion i Ofcom.

Penderfyniad a gafodd ei bwyso a'i fesur yn ofalus iawn oedd hwn. Rydym o'r farn yr oedd gan sylwadau Ms Hartley-Brewer tuag at Dr Barghouti y potensial i fod yn hynod dramgwyddus i wylwyr. Ond o ystyried nifer o ffactorau cyd-destunol – gan gynnwys byrder y sylwadau a disgwyliadau’r gynulleidfa o’r cyflwynydd a’r rhaglen hon, sydd yn aml yn cynnwys safbwyntiau tra heriol – rydym wedi penderfynu peidio â chynnal ymchwiliad ffurfiol.

Er mai safbwynt TalkTV yw nad oedd sylwadau Ms Hartley-Brewer wedi'u hysgogi gan grefydd nag ethnigrwydd Dr Barghouti, rydym yn cydnabod i lawer o achwynwyr dybio mai dyna oedd y bwriad. O ystyried hyn, roedd gan y sylwadau y potensial i fod yn hynod dramgwyddus i wylwyr, beth bynnag oedd bwriad y cyflwynydd.

Rydym felly’n rhoi arweiniad cryf i TalkTV ar yr angen am fod yn fwy gofalus i sicrhau bod sylwadau a allai fod yn dramgwyddus iawn wedi'u cyfiawnhau gan y cyd-destun er mwyn cydymffurfio â’r Cod Darlledu. Disgwyliwn i'r darlledwr gymryd yr arweiniad hwn i ystyriaeth mewn rhaglenni yn y dyfodol.

Related content