18 Mawrth 2024

Gwleidyddion yn gweithredu fel cyflwynwyr newyddion ar GB News wedi torri rheolau darlledu

Daeth cyfres o ymchwiliadau gan Ofcom i’r casgliad heddiw bod pum rhaglen ar GB News fu'n cynnwys gwleidyddion fel cyflwynwyr newyddion wedi torri rheolau darlledu ar ddidueddrwydd dyladwy.

O dan y Cod Darlledu, rhaid i newyddion, ym mha bynnag ffurf, gael ei gyflwyno gyda didueddrwydd dyladwy. At hynny, ni all gwleidydd fod yn ddarllenwr newyddion, yn gyfwelydd newyddion nac yn ohebydd newyddion oni bai, fel eithriad, fod cyfiawnhad golygyddol dros hynny.

Yn unol â’r hawl i ryddid mynegiant, mae gan ddarlledwyr ryddid golygyddol i gynnig amrywiaeth eang o fformatau rhaglenni i gynulleidfaoedd, gan gynnwys defnyddio gwleidyddion i gyflwyno rhaglenni materion cyfoes neu raglenni eraill nad ydynt yn newyddion. Gall gwleidyddion hefyd ymddangos mewn cynnwys newyddion a ddarlledir fel cyfwelai neu unrhyw fath arall o westai.

Gall rhaglenni unigol hefyd gynnwys cymysgedd o gynnwys sy'n newyddion a heb fod yn newyddion a symud rhwng y ddau genre. Fodd bynnag, os bydd deiliad trwydded yn dewis defnyddio gwleidydd fel cyflwynydd mewn rhaglen sydd â chynnwys newyddion a materion cyfoes, rhaid iddo gymryd camau i sicrhau nad yw’n gweithredu fel darllenydd newyddion, cyfwelydd newyddion na gohebydd newyddion yn y rhaglen honno.

Ein canfyddiadau

A ninnau wedi ystyried y ffeithiau ym mhob achos yn ofalus – gan gynnwys dadansoddiad fforensig o’r cynnwys a chynrychioliadau manwl gan GB News – bu i ni ganfod bod dwy bennod o Jacob Rees-Mogg’s State of the Nation, dwy bennod o Friday Morning with Esther and Phil, ac un bennod o Saturday Morning with Esther and Phil, a ddarlledwyd yn ystod Mai a Mehefin 2023, wedi methu â chydymffurfio â Rheolau 5.1 a 5.3 y Cod Darlledu.

Roedd pob un o'r pum rhaglen dan sylw yn cynnwys cymysgedd o gynnwys newyddion a materion cyfoes. Gwnaethom weld bod gwleidyddion cyflwyno'n gweithredu fel darllenwyr newyddion, cyfwelwyr newyddion neu ohebwyr newyddion mewn dilyniannau a oedd yn amlwg yn gyfystyr â newyddion - gan gynnwys adrodd am ddigwyddiadau newyddion sy'n torri - heb gyfiawnhad eithriadol. Felly, ni chyflwynwyd newyddion gyda didueddrwydd dyladwy.

Mae gan wleidyddion rôl gynhenid rannol mewn cymdeithas ac mae cynnwys newyddion a gyflwynir ganddynt yn debygol o gael ei weld gan gynulleidfaoedd yng ngoleuni’r canfyddiad hwnnw o duedd. Yn ein barn ni, mae’r defnydd o wleidyddion i gyflwyno’r newyddion yn peri risg o danseilio cyfanrwydd a hygrededd newyddion darlledu wedi'i reoleiddio. Roeddem felly o'r farn ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur canfod bod Rheolau 5.1 a 5.3 wedi cael eu torri o dan yr amgylchiadau hyn.

Rydym hefyd yn cyhoeddi ein rhesymau dros benderfynu na fu i chweched rhaglen – pennod ar wahân o Jacob Rees-Mogg’s State of the Nation – godi materion sy'n cyfiawnhau ymchwiliad o dan y rheolau hyn. Mae hyn yn darparu enghraifft i ddarlledwyr o'r hyn sy'n gyfystyr â chyfiawnhad golygyddol eithriadol fel y caniateir gan Reol 5.3. Yn achos y rhaglen fyw hon, defnyddiwyd Jacob Rees-Mogg fel llygad-dyst, gohebydd newyddion yn y fan a'r lle yn ystod digwyddiad diogelwch nas rhagwelwyd ym Mhalas Buckingham.

Dyma'r achosion cyntaf o dorri Rheolau 5.1 a 5.3 sydd wedi'u cofnodi yn erbyn GB News. Ers agor yr ymchwiliadau hyn, dim ond un rhaglen arall a fu a gododd faterion sy'n cyfiawnhau ymchwiliad o dan y rheolau hyn. Rydym yn glir, fodd bynnag, bod rhybudd yn cael ei roi i GB News y gallai unrhyw doriad pellach o Reolau 5.1 a 5.3 arwain at osod sancsiwn statudol.

Related content