Beth sy'n digwydd i'ch cyfeiriad e-bost pan fyddwch yn newid darparwr band eang

14 Tachwedd 2023

Nid yw Ofcom yn rheoleiddio gwasanaethau e-bost yn uniongyrchol, ond rydym am i chi allu newid eich darparwr band eang heb unrhyw drafferth.

Pan fyddwch yn newid darparwr band eang, mae'n bosib y bydd angen i chi dalu os ydych am barhau i ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost a roddwyd gan eich hen ddarparwr.

Bydd rhai cwmnïau'n codi tâl arnoch i gadw eich cyfeiriad e-bost

Os byddwch yn newid i gwmni arall ar gyfer eich gwasanaeth rhyngrwyd, ond rydych eisiau parhau i ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost a roddwyd i chi gan eich hen ddarparwr, maent yn darparu gwasanaeth i chi o hyd. Mae rhai cwmnïau'n codi tâl am hyn.

Mae gan ddarparwyr band eang gwahanol bolisïau gwahanol ynghylch yr hyn sy'n digwydd i'ch cyfeiriad e-bost pan fyddwch chi'n newid i ffwrdd ohonynt. Dyma beth sy'n digwydd gyda rhai o'r prif ddarparwyr:

 BTPlusnetSkyTalkTalkVirgin Media
A fydd modd i chi gyrchu eich e-bost o hyd?ByddByddByddBydd, ond o ran gyntaf 2024, bydd tâl yn cael ei godi arnoch i barhau i ddefnyddio'ch cyfeiriadNa fydd, bydd eich cyfrif e-bost yn cael ei ddileu ar ôl 90 diwrnod
A fydd modd i chi gyrchu eich e-bost yn rhad ac am ddim?Bydd, mae fersiwn sylfaenol ar gael sy'n cael ei gyrchu trwy'r weByddByddBydd, os ydych wedi'i gyrchu o leiaf unwaith yn y 180 diwrnod diwethaf. O ran gyntaf 2024, bydd tâl yn cael ei godi arnoch i barhau i ddefnyddio'ch cyfeiriadDd/B
A fydd angen i chi dalu i gadw'r un nodweddion e-bost i gyd?Mae'r gwasanaeth e-bost BT Premium ar gael am £7.50 y misNa fydd, rydych chi'n cael yr holl nodweddion i gyd am ddimNa fydd, rydych chi'n cael yr holl nodweddion i gyd am ddim Mae TalkTalk Mail Plus ar gael am £5 y mis/£50 y flwyddyn.
O ran gyntaf 2024, bydd tâl yn cael ei godi arnoch i barhau i ddefnyddio'ch cyfeiriad
Dd/B

Efallai na fydd cwsmeriaid yn ymwybodol o'r gwahaniaethau hyn, neu'r opsiynau sydd ar gael iddynt pan fyddant yn canslo eu contract. Mae'n bwysig bod yr opsiynau hyn yn cael eu hesbonio'n glir yn yr wybodaeth y mae pobl yn ei derbyn ynghylch dod â'u contract i ben.

Ystyriwch sefydlu cyfrif gwebost am ddim

Mae'n bosib na fyddwch chi eisiau newid gan nad ydych eisiau colli'r cyfeiriad e-bost sydd gennych gyda'ch darparwr presennol.

Ond mae llawer o wasanaethau e-bost amgen am ddim ar gael, y maent yn aml yn gyflym ac yn hawdd i'w sefydlu, a all eich helpu i drosglwyddo gwybodaeth o'ch cyfrif e-bost presennol – fel eich cysylltiadau a'r negeseuon sydd gennych eisoes. Gallwch hefyd sefydlu'r cyfrifon hyn ar yr ap 'Mail' ar eich ffôn clyfar neu lechen, fel y gallwch gael mynediad i'ch e-byst yn hawdd heb orfod mewngofnodi trwy borwr rhyngrwyd.

Mae hyn yn golygu nad oes rhaid i'ch cyfeiriad e-bost eich clymu i'ch darparwr band eang. Yn wir, os yw eich mewnflwch yn llawn e-byst marchnata dieisiau, mae newid eich cyfeiriad e-bost yn gyfle gwych i ddechrau o'r dechrau a gwneud yn siŵr eich bod yn derbyn dim ond yr e-byst rydych eu heisiau.

Cynghorion da i'ch helpu i newid cyfeiriad e-bost os byddwch yn newid darparwr rhyngrwyd

  1. Trefnwch gyfeiriad e-bost newydd am ddim. Yn hytrach na thalu eich darparwr blaenorol, neu sefydlu cyfeiriad e-bost newydd bob tro y byddwch yn newid darparwr, newidiwch i gyfrif e-bost am ddim fel Gmail, Outlook neu Yahoo.
  2. Mewnforiwch eich e-bost a'ch cysylltiadau. Mae gan lawer o wasanaethau e-bost offer i'ch helpu i drosglwyddo eich cysylltiadau a'ch negeseuon. Mae canllawiau ar-lein a all eich helpu i wneud hyn mewn munudau.
  3. Diweddarwch eich e-bost ar eich cyfrifon ar-lein, gan ddechrau gyda'r cyfrifon pwysicaf yn gyntaf, fel bancio ar-lein ac unrhyw wasanaethau tanysgrifio. Rhowch wybod i'ch cysylltiadau hefyd bod gennych gyfeiriad e-bost newydd.
  4. Gwnewch beth gwaith cadw tŷ - dad-danysgrifiwch! Dyma amser gwych i ddiweddaru'ch e-byst gyda dim ond y cwmnïau marchnata rydych eisiau clywed oddi wrthynt.
  5. Sefydlwch anfon ymlaen ac atebion awtomatig. Anfonwch eich e-byst ymlaen at eich cyfrif newydd a rhowch wybod i bawb eich bod wedi newid eich cyfeiriad.

Rhoi barn am y dudalen hon

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?