Cyflwyno offeryn asesu EDI newydd Ofcom

02 Tachwedd 2022

Dyluniwyd ein hofferyn cywain data ansoddol newydd ar y cyd â Radius Networks, a gomisiynwyd gennym i ddatblygu ymagwedd newydd at gywain data gweithlu ansoddol.

Mae sawl nod i'r model:

  • gyrru a monitro gwelliannau i amrywiaeth a chynhwysiad y gweithlu;
  • deall blaenoriaethau newidiol y sector darlledu; a
  • chefnogi dysgu, gwerthuso, a chydweithio o fewn y sector.

Crynodeb o sut mae'r model newydd yn gweithio

Mae'r offeryn newydd ar ffurf model aeddfedrwydd, sy'n asesu effeithiolrwydd darlledwr wrth gyflawni amcan EDI penodol ar draws cyfres o lefelau. Mae'r model yn galluogi darlledwyr i ddeall gradd aeddfedrwydd eu hymagwedd at EDI ac yn rhoi awgrymiadau iddynt helpu datblygu eu hymagwedd ymhellach.

Caiff cwestiynau eu grwpio yn ôl themâu, sy'n mapio drosodd i Arweiniad EDI Ofcom.

Gofynnir cwestiynau i ddarlledwyr o fewn pob thema i asesu a ydynt yn 'dechrau', 'ymrwymo', 'cyflawni' neu'n 'rhagori' ym mhob maes.

Unwaith y bydd darlledwr wedi ateb cwestiwn, byddant yn cael awgrymiadau ar sut y gallent symud ymlaen â'u trefniadau. Bydd darlledwyr yn cael asesiad o sut maen nhw'n perfformio ym mhob maes, yn ogystal ag asesiad a sgôr yn seiliedig ar sut maen nhw'n perfformio'n gyffredinol. Mae hyn yn galluogi nhw i nodi meysydd sydd angen mwy o ffocws.

Gellir gweld holl gwestiynau a themâu'r model yn y ddolen isod.

Os hoffai darlledwr ddarparu rhagor o ddata am unrhyw agwedd ar eu gwaith neu esbonio unrhyw un o'u hatebion ymhellach, mae croeso iddynt gyflwyno'r wybodaeth hon.

Gweithredu'r model

Caiff y model ei anfon at ddarlledwyr i'w gwblhau ochr yn ochr â'r arolwg cywain data amrywiaeth y gweithlu meintiol blynyddol. Bydd yn disodli'r cwestiynau ansoddol blaenorol. Gan y bydd rhai cwestiynau yn y model hwn yn helpu Ofcom i asesu cydymffurfiaeth â'u hamodau trwydded, bydd yn cael ei anfon at bob darlledwr â mwy nag 20 o weithwyr sydd â thrwydded i ddarlledu am fwy na 31 diwrnod y flwyddyn.

Bydd cwestiynau sy'n ymwneud ag amodau'r drwydded yn orfodol i'w hateb; mae'r cwestiynau eraill yn y model yn wirfoddol. Os bydd darlledwr yn dewis peidio ag ateb y cwestiynau gwirfoddol, bydd y model yn cyfrif yr ymateb fel pe bai'r darlledwr ar y lefel isaf o ddatblygiad yn y maes hwnnw. Bydd hyn yn effeithio ar sgôr cyffredinol y darlledwr o'r model. Er nad ydym yn bwriadu cyhoeddi sgorau manwl, bydd Ofcom yn adrodd ar lefelau cwblhau.

Bydd y model yn cael ei ddarparu fel offeryn ar-lein a gaff ei anfon at ddarlledwyr ym mis Ebrill 2023. Byddwn yn trin y flwyddyn gyntaf o gyflwyniadau data gan ddefnyddio'r offeryn hwn fel cam 'beta', sy'n golygu y byddwn yn agored i adborth gan ddefnyddwyr i'n helpu i fireinio'r model, os oes angen, ar gyfer y flwyddyn ganlynol.

Bydd Ofcom yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir i nodi tueddiadau ar draws y diwydiant, ac i gyfeirio sut rydyn ni'n blaenoriaethu ein gwaith yn y dyfodol. Byddwn ni'n cyhoeddi'r tueddiadau hyn, yn ogystal â mewnwelediadau allweddol eraill, yn flynyddol.

Nid ydym yn bwriadu cyhoeddi tabl o sgorau, ond efallai y byddwn yn adrodd am ba gategori o aeddfedrwydd y mae rhai darlledwyr yn cyfateb iddo ar gyfer rhai cwestiynau neu themâu. Os byddwn yn gweld bod rhai darlledwyr penodol yn rhagori, efallai y byddwn yn amlygu eu gwaith ac yn awgrymu eu bod yn cydweithio ar draws diwydiant i rannu eu syniadau neu arferion gorau. Yn yr un modd, os oes gennym bryderon bod darlledwyr penodol yn methu â bodloni ein disgwyliadau, byddwn yn cysylltu â nhw ynglŷn â sut y gallant wella eu hymagwedd at hyrwyddo EDI.

Nid atebion darlledwyr i'r cwestiynau gorfodol fydd ein hunig ddull o asesu cydymffurfiaeth ag amodau eu trwydded, ond bydd yn rhoi dangosydd cychwynnol da i ni a allai fod angen i ni gymryd camau pellach i werthuso a yw darlledwr yn gwneud digon i gyflawni ei rwymedigaethau trwydded i hyrwyddo cyfle cyfartal.

Byddwn ni hefyd yn sicrhau bod y model ar gael yn agored i'w ddefnyddio ar-lein fel y gall sefydliadau ar draws y diwydiannau creadigol a thu hwnt ei ddefnyddio i fesur eu trefniadau EDI eu hunain. Gobeithiwn y bydd y cynnwys a'r cwestiwn a ofynnir yn yr offeryn hwn yn cynnig ysbrydoliaeth ar gyfer sgyrsiau cydweithredol ar draws y diwydiant a sectorau eraill.