Mynediad i gynnwys teledu: rheolau cystadleuaeth ac adolygiad o ddeinameg y farchnad

30 Tachwedd 2020

Mae cyfeiryddion rhaglen electronig (EPGs) yn galluogi gwylwyr i ganfod a dewis rhaglenni teledu ar deledu a ddarlledir neu linol. Yn 2004 fe wnaethom gyhoeddi rheolau i ddarparwyr EPG eu dilyn mewn Cod penodedig, y Cod EPG.

Cyflwynodd y Ddeddf Economi Ddigidol 2017 ddyletswydd ar Ofcom i adolygu’r Cod hwn cyn 1 Rhagfyr 2020. Rydym yn adolygu’r gofynion sydd ar ddarparwyr EPG i sicrhau triniaeth deg, rhesymol ac anwahaniaethol o ddarparwyr sianeli, yn sgil adolygu rhannau amlygrwydd a hygyrchedd y Cod EPG yn ddiweddar.

Bu newidiadau enfawr yn y ffordd yr ydym yn dod o hyd i raglenni teledu a’u gwylio ers i’r rheolau gael eu pennu yn 2004. Mae pobl yn mynd ar-lein yn gynyddol i gyrchu amrywiaeth o gynnwys, ac yn creu eu cynnwys eu hunain. Serch hynny, mae teledu llinol yn cael ei wylio’n helaeth o hyd ac mae EPGs yn parhau’n ffordd bwysig o ddod o hyd i raglenni teledu. Mae ein hadolygiad yn ystyried p’un a oes angen rheolau cystadleuaeth o hyd i gefnogi cystadleuaeth deg ac effeithiol.

Ochr yn ochr â’r adolygiad hwn, rydym hefyd yn edrych ar sut y gallai perchnogaeth gynyddol ar setiau teledu clyfar, band eang gwell a mwy o wasanaethau ar-alw fod yn newid deinamig y farchnad. Gwnaethom gomisiynu adroddiad gan Mediatique ar hyn o beth. Nid ymgynghoriad ffurfiol mo hwn ac nid yw’n rhan o’n hadolygiad o’r Cod EPG ychwaith, ond byddem yn croesawu barn rhanddeiliaid i gyfeirio ein dealltwriaeth o sut mae marchnadoedd yn esblygu.

Rydym wedi dod i’r casgliad bod angen cael rheolau yn eu lle ar gyfer darparwyr EPG trwyddedig fel eu bod yn ymgysylltu â darparwyr sianeli ar delerau teg, rhesymol ac anwahaniaethol. Mae’r rheolau presennol yn gweithio’n dda, a chan ddilyn yr ymgynghoriad rydym wedi dod i’r casgliad mai dim ond mân ddiwygiadau sydd eu hangen. Yn benodol, rydym yn awr yn mynnu’n ychwanegol bod ymgynghoriadau gan ddarparwyr EPG yn dilyn proses dryloyw a’u bod yn caniatáu graddfeydd amser rhesymol er mwyn i ddarparwyr sianeli roi sylwadau ac i unrhyw newidiadau i restriadau gael eu gweithredu. Daw’r diwygiadau i’r Cod EPG (PDF, 203.6 KB) i rym ar unwaith.