14 Medi 2021

Symud cartref? Awgrymiadau gwych ar gyfer cadw mewn cysylltiad yn eich lle newydd

Mae cannoedd ar filoedd o bobl yn symud cartref bob blwyddyn, gyda llawer yn gobeithio cael dechrau newydd mewn ardal newydd. Ond waeth p'un a ydych yn prynu eiddo mwy, am arafu i lawr neu'n cael eich lle cyntaf un, gall ein hawgrymiadau gwych eich helpu i gadw'r cysylltiad yn eich cartref newydd.

Mae aelwydydd yn y DU yn dibynnu ar eu gwasanaethau ffôn a band eang yn fwy nag erioed. Rydym yn defnyddio dros 200% yn fwy o ddata rhyngrwyd y mis nag yr oeddem yn 2016, gyda mwy o bobl yn gweithio gartref a 60% ohonom yn ffrydio teledu a ffilmiau dros y rhyngrwyd.

Felly, mae cael eich ffôn a'ch gwasanaethau band eang yn barod i'w defnyddio'n fuan ar ôl i chi symud i mewn i'ch lle newydd yn rhan bwysig o sicrhau bod y symud mor esmwyth â phosib. Gall ein hawgrymiadau gwych eich helpu i gadw'r cysylltiad ac osgoi brwydro i gael signal yn eich cartref newydd.

Awgrymiadau gwych ar gyfer cadw’r cysylltiad yn eich cartref newydd

  1. Chwiliwch y ddarpariaeth band eang a symudol leol cyn i chi symud

    Mae ein teclyn band eang a symudol (cliciwch ar Cymraeg) yn galluogi chi i wirio'r ddarpariaeth yn eich eiddo newydd. Byddwch yn gallu gweld sut mae'r ddarpariaeth yn cymharu ymhlith y gwahanol ddarparwyr symudol, a gwirio hefyd pa gyflymder band eang a ddarperir gan y rhwydweithiau sydd ar gael.

  2. Ystyriwch newid darparwr fel eich bod gyda'r darparwr gorau ar gyfer eich anghenion

    Efallai y byddwch yn penderfynu ei bod yn bryd newid darparwr. Gall cwsmeriaid symudol bellach newid rhwydweithiau ar ôl anfon neges destun syml. Os ydych chi'n newid darparwr band eang, bydd angen i chi ganslo eich contract presennol a threfnu dyddiad dechrau ar gyfer eich gwasanaeth newydd i gyd-fynd â'ch cyfnod symud. Cofiwch wirio os yw eich rhwydwaith presennol ar gael ble rydych chi'n symud iddo.

  3. Dilynwch ein hawgrymiadau Cadw'r Cysylltiad
  4. Unwaith y byddwch yn eich cartref newydd, gallwch ddilyn ein hawgrymiadau Cadw'r Cysylltiad i wneud yn siŵr eich bod yn cael y gorau o'ch gwasanaethau ffôn a band eang – sy'n hanfodol ar gyfer gweithio gartref, ffrydio eich hoff sioeau a chadw mewn cysylltiad â'r bobl sy'n agosaf atoch.

Mae yna hefyd gamau y gallwch eu cymryd os ydych yn cael problemau gyda'ch ffôn neu gysylltiad rhyngrwyd unwaith y byddwch yn eich cartref newydd. Os oes angen rhagor o help arnoch, cysylltwch â'ch darparwr yn y lle cyntaf.

Rhoi barn am y dudalen hon

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?

See also...