Safonau darlledu yn ystod pandemig y coronafeirws

06 Gorffennaf 2020

Mae'r dudalen hon yn nodi gwybodaeth am sut mae Ofcom yn gorfodi safonau darlledu yn ystod pandemig y coronafeirws.

Beth yw rôl Ofcom mewn safonau darlledu yn ystod y pandemig?

Mae'n ddyletswydd ar Ofcom i osod a gorfodi safonau darlledu yng nghynnwys rhaglenni teledu a radio. Nodir y safonau hyn yn y Cod Darlledu.

Rydym yn cydnabod y bydd cynulleidfaoedd am dderbyn, a bydd darlledwyr am ddarlledu, cynnwys am pandemig y coronafeirws, a bod cyfathrebu gwybodaeth gywir a chyfredol i gynulleidfaoedd yn hanfodol.

Fodd bynnag, rydym yn disgwyl i ddarlledwyr fod yn effro i'r posibilrwydd o niwed sylweddol sy'n gysylltiedig â'r coronafeirws i gynulleidfaoedd, a allai gynnwys:

  • honiadau iechyd am y feirws a allai fod yn niweidiol;
  • cyngor meddygol a allai fod yn niweidiol; a
  • chywirdeb neu wybodaeth gamarweiniol sylweddol mewn rhaglenni sy’n ymwneud â’r feirws, neu bolisi cyhoeddus ynghylch y feirws.

Yn gyson â'r hawl i ryddid mynegiant, mae gan ddarlledwyr y rhyddid golygyddol i ddadansoddi, trafod a herio materion gysylltiedig â'r coronafeirws. Os yw darlledwyr yn cynnwys deunydd a allai fod yn niweidiol yn eu rhaglennu, mae'n rhaid iddynt sicrhau eu bod yn diogelu cynulleidfaoedd yn ddigonol rhag y fath ddeunydd.

Mae Ofcom wedi cyhoeddi'r nodiadau canlynol i ddarlledwyr ynglŷn â'r coronafeirws sy'n cynnwys arweiniad ar gynnwys darlledu sy'n gysylltiedig â'r coronafeirws.

(Mae'r cynnwys isod yn Saesneg yn unig)

Nodyn i ddarlledwyr Bwletin rhifDyddiad
Coronavirus update to broadcast licensees (PDF, 217.9 KB) 424 12 Ebrill 2021
Coronavirus further update (PDF, 208.0 KB) 414 9 Tachwedd 2020
Coronavirus further update (PDF, 309.0 KB) 403 26 Mai 2020
Coronavirus further update (PDF, 239.9 KB) 401 27 Ebrill 2020
Coronavirus (PDF, 198.6 KB) 399 23 Mawrth 2020

Fel bob amser, rydym yn disgwyl i ddarlledwyr ystyried Cod Darlledu Ofcom a'n harweiniad a gyhoeddwyd yn flaenorol yn ofalus. Yn benodol, gallai ein canllawiau yn Adran Dau: Niwed a Throsedd ac Adran Pump:  Gall Didueddrwydd Dyladwy a Chywirdeb Dyladwy y Cod fod yn arbennig o berthnasol wrth gydymffurfio â chynnwys sy'n gysylltiedig â phandemig y coronafeirws.

Sut mae Ofcom wedi gorfodi safonau darlledu yn ystod pandemig y coronafeirws?

Mae Ofcom wedi ymchwilio i'r rhaglenni canlynol a fu'n cynnwys trafodaeth am bandemig y coronafeirws. Canfuwyd bod pob un o'r rhaglenni hyn yn torri ein rheolau'n ddifrifol, a gosodwyd sancsiynau statudol ar y darlledwyr dan sylw.

RhaglenGwasanaeth Dyddiad trawsyrruMaterCanlyniad Penderfyniad llawn (Saesneg)
Full DisclosureLoveworld Television Network11/12 Chwefror 2021Niwed a chamarwain materolTor Rheol a Chosb

Decision – Loveworld Limited

Further Sanction Decision

Global Day of PrayerLoveworld Television Network1 Rhagfyr 2020Niwed a chywirdeb dyladwyTor Rheol a ChosbDecision
 
Further Sanction Decision
The Family Programme New Style Radio 98.7FM 1 Tachwedd 2020 Niwed Tor Rheol a Chosb Decision
 
Further Sanction Decision 
London Real: Covid-19 London Live 8 Ebrill 2020 Niwed Tor Rheol a Chosb Decision – ESTV Limited
Your Loveworld Loveworld Television Network 7 Ebrill 2020 Niwed Tor Rheol a Chosb Decision – Loveworld Limited
Loveworld News Loveworld Television Network 7 Ebrill 2020 Niwed a chywirdeb dyladwy Tor Rheol a Chosb Decision – Loveworld Limited
Tony Williams Uckfield FM Community Radio 28 Chwefror 2020 Niwed Tor Rheol a Chosb Decision – Uckfield Community Radio Limited

During the pandemic, we have also assessed a large number of complaints relating to coronavirus-related programming, which we considered did not raise issues warranting investigation under our rules. Given the significant public concern about the following programmes, however, Ofcom published its reasons for its assessments.

RhaglenGwasanaeth Dyddiad trawsyrruMaterCanlyniad Penderfyniad llawn (Saesneg)
The Last Leg: Locked Down Under Channel 4 8 Mai 2020 Safonau a dderbynnir yn gyffredinolheb ei ddilynThe Last Leg: Locked Down Under, Channel 4, 8 May 2020
(PDF, 264.6 KB)
This Morning ITV 13 Ebrill 2020 Niwedheb ei ddilyn, rhoddwyd arweiniadThis Morning, ITV, 13 April 2020
(PDF, 285.3 KB)