18 Rhagfyr 2020

Mesurau diogelu newydd i bobl sy’n cymryd rhan mewn rhaglenni teledu a radio

Mae’n rhaid i bobl sy'n cymryd rhan mewn rhaglenni teledu a radio dderbyn gofal priodol gan ddarlledwyr, o dan reolau newydd a gyflwynir gan Ofcom.

Lansiodd Ofcom adolygiad o fesurau diogelu cyfranogwyr mewn rhaglenni i gydnabod naws agored cymdeithas am iechyd meddwl a lles a’r pryderon amdanynt. Rydym hefyd wedi gweld cynnydd cyson mewn cwynion am les pobl sy'n cymryd rhan mewn rhaglenni yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Heddiw, rydym yn cyhoeddi mesurau diogelu newydd a mwy cryf o dan ein Cod Darlledu. Mae hyn yn dilyn ymgynghori â darlledwyr, cynhyrchwyr rhaglenni, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, a chyn-gyfranogwyr mewn rhaglenni a'u cynrychiolwyr.

Mesurau diogelu newydd

Ehangu ein rheolau tegwch yn Adran Saith y Cod Darlledu.

Rydym yn cyflwyno gofyniad newydd i ddarlledwyr fod â gofal dyladwy dros les pobl a allai fod mewn perygl o niwed sylweddol o ganlyniad i gymryd rhan mewn rhaglen.

Anelir y mesurau at warchod pobl sy'n agored i niwed ac eraill nad ydynt wedi arfer bod yn llygad y cyhoedd. Bydd angen i ddarlledwyr gymryd gofal dyladwy lle, er enghraifft, mae rhaglen yn debygol o ddenu lefel uchel o ddiddordeb yn y cyfryngau neu gyfryngau cymdeithasol; mae'r rhaglen yn cynnwys gwrthdaro neu sefyllfaoedd emosiynol heriol; neu mae'n ei gwneud yn ofynnol i berson ddatgelu agweddau ar eu bywydau a allai fod yn breifat neu’n drawsnewidiol.

Nid yw'r mesurau'n berthnasol pan fo'r pwnc yn ddibwys, neu os yw cyfranogiad person yn fach - neu pan fo'r darlledwr yn gweithredu er budd y cyhoedd, fel sy'n debygol o fod yn wir am y rhan fwyaf o raglennu newyddion a materion cyfoes.

O dan y darpariaethau tegwch newydd hyn, rhaid rhoi gwybod i bobl sy'n cymryd rhan mewn rhaglenni hefyd am unrhyw risgiau lles posibl y gellid disgwyl iddynt godi o'u cyfranogiad, ac unrhyw gamau y mae'r darlledwr neu wneuthurwr rhaglenni yn bwriadu eu cymryd i liniaru'r rhain.

Cryfhau ein rheol tramgwydd o dan Adran Dau y Cod Darlledu

Rydym yn cryfhau geiriad ein rheol 'Safonau a Dderbynnir yn Gyffredinol'. Mae hyn yn nodi bod yn rhaid i ddeunydd a allai beri tramgwydd i wylwyr a gwrandawyr gael ei gyfiawnhau gan y cyd-destun.

Mae trin pobl yr ymddengys eu bod mewn perygl o niwed sylweddol o ganlyniad i gymryd rhan mewn rhaglen bellach wedi'i gynnwys fel enghraifft echblyg o ddeunydd a allai beri tramgwydd i gynulleidfaoedd.

Cyflwyno canllawiau newydd i ddarlledwyr

Byddwn yn cyhoeddi canllawiau newydd i helpu darlledwyr i gydymffurfio â'r gofynion newydd hyn. Bydd hyn yn cynnwys enghraifft o 'fatrics risg' i gynorthwyo darlledwyr wrth ystyried pa lefel o ofal i'w ddarparu i gyfranogwyr mewn gwahanol sefyllfaoedd golygyddol.

Dywedodd Adam Baxter, Cyfarwyddwr Safonau a Gwarchod Cynulleidfaoedd Ofcom: “Mae pobl sy'n cymryd rhan mewn rhaglenni teledu a radio yn haeddu cael gofal priodol. Mae ein mesurau diogelu newydd yn gosod safon glir o ofal i ddarlledwyr ei bodloni – gan daro cydbwysedd gofalus rhwng rhyddid creadigol darlledwyr a lles y bobl y maent yn eu cynnwys.”

Y camau nesaf

Bydd y mesurau newydd yn berthnasol i raglenni sy'n dechrau cynhyrchu ar neu ar ôl dydd Llun 5 Ebrill 2021. Cyn y dyddiad hwnnw, byddwn yn cyhoeddi ein canllawiau cysylltiedig ar gyfer darlledwyr.

See also...