21 Ionawr 2020

Ymateb Ofcom i ddiweddariad cwyn lefel uwch yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd

Dywedodd Lindsey Fussell, Cyfarwyddwr Grŵp Defnyddwyr Ofcom: “Rydyn ni’n falch bod yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd wedi tynnu sylw at yr ymrwymiadau rydyn ni wedi’u sicrhau gan gwmnïau symudol a band eang, a fydd yn golygu bod miliynau o gwsmeriaid yn talu llai am eu contractau. Ac o fis nesaf, bydd hi’n ofynnol i bob darparwr anfon rhybuddion i gwsmeriaid i roi gwybod iddynt pan fydd eu contract yn dod i ben a beth yw eu bargeinion gorau. Bydd y mesurau hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i gwsmeriaid – yn enwedig y rhai sy'n agored i niwed – ac rydym yn parhau â'n gwaith i helpu pobl i gael bargeinion tecach. "

Mae ein rhaglen Tegwch i Gwsmeriaid yw gwneud yn siŵr bod cwsmeriaid yn cael eu trin yn deg a’u bod yn gallu dod o hyd i’r bargeinion gorau sy’n cynnwys:

  • Prisiau tecach i gwsmeriaid band eang a symudol. Yn dilyn adolygiadau o brisiau band eangsymudol, mae darparwyr wedi ymrwymo i leihau’r prisiau sy’n cael eu talu gan gwsmeriaid y mae eu contract wedi dod i ben.
  • Hysbysiadau diwedd contract newydd. O fis nesaf ymlaen, rhaid rhoi gwybod i gwsmeriaid band eang, ffôn a theledu pan fydd eu contract cychwynnol ar fin dod i ben, a rhaid dangos y bargeinion gorau sydd ar gael iddynt.
  • Diogelu cwsmeriaid agored i niwed. Rydym wedi cynnig canllawiau newydd i helpu i sicrhau bod cwmnïau’n gwella sut maent yn adnabod ac yn cefnogi cwsmeriaid agored i niwed.
  • Proses newid symlach. Gall pobl nawr newid eu darparwr symudol drwy anfon neges destun syml. Rydym hefyd wedi cynnig rheolau newydd i’w gwneud yn haws newid rhwydweithiau band eang; ac rydym wedi datgelu cynlluniau i’w gwneud hi’n haws newid drwy wahardd ‘cloi’ ffonau symudol i rwydwaith penodol.
  • Herio cwmnïau i roi tegwch yn gyntaf. Rydym yn croesawu’r ffaith bod cwmnïau band eang, ffôn a theledu drwy dalu mwyaf y DU yn ymrwymo i roi tegwch wrth galon eu busnes, drwy ymrwymo i ymrwymiadau Tegwch i Gwsmeriaid Ofcom.
  • Gwybodaeth glir ac onest i siopwyr band eang. Mae pobl sy’n chwilio am fand eang nawr yn gallu cael gwybodaeth well cyn iddyn nhw ymrwymo i gontract, gan gynnwys gwarantau cyflymder.