19 Mai 2021

Cynigion newydd i helpu pobl i chwyddo signalau symudol dan do

Bydd pobl sy'n ei chael yn anodd derbyn signal symudol dan do'n gallu prynu ystod ehangach o ddyfeisiau i helpu gwella hynny, o dan gynigion newydd a gyhoeddwyd gan Ofcom heddiw.

Troswyr symudol dan do - sydd weithiau yn cael eu galw'n 'chwyddwyr signal' - yw dyfeisiau a ddefnyddir i chwyddo signal symudol a all gael eu defnyddio mewn eiddo preswyl.

Yn 2018 gwnaethom awdurdodi'r defnydd o droswyr symudol, ar yr amod eu bod yn bodloni rhai gofynion technegol.

Rydym yn awr yn bwriadu diwygio'r gofynion hynny, i estyn yr ystod o ddyfeisiau y byddai modd i bobl eu prynu a'u defnyddio'n gyfreithlon. Yn ogystal â rhoi mwy o ddewis i bobl sy'n dymuno chwyddo eu signal symudol dan do, gallai hyn o bosib ostwng pris y dyfeisiau.

Rydym hefyd yn ymgynghori ar gynigion i'w gwneud yn haws i bobl weld pa ddyfeisiau sy'n bodloni'r gofynion technegol gan olygu felly eu bod yn gyfreithlon i'w prynu. Byddai hyn yn helpu atal pobl rhag prynu dyfeisiau anghyfreithlon a all achosi ymyriad niweidiol i gyfarpar diwifr arall.

Daw'r ymgynghoriad i ben am 5pm ar 28 Gorffennaf 2021.

Yn y cyfamser, os ydych chi eisiau darganfod sut i wella'ch darpariaeth symudol dan do, gallai ein canllaw fod o gymorth i chi.

See also...