12 Hydref 2022

Ymchwiliad Ofcom i raglen Mark Steyn ar GB News

Heddiw mae Ofcom wedi agor ymchwiliad i bennod o raglen Mark Steyn a ddarlledwyd ar GB News ar 4 Hydref 2022.

Rydym o'r farn bod sylwadau a wnaed yn ystod cyfweliad gyda'r awdur a'r newyddiadurwr Dr Naomi Wolf ynghylch cyflwyno'r brechlyn Coronafeirws yn codi materion posib o dan ein Cod Darlledu.

Yn benodol, bydd ein hymchwiliad yn ystyried a yw'r rhaglen hon wedi torri ein rheolau sydd wedi'u dylunio i ddiogelu gwylwyr rhag deunydd niweidiol.

Bu i ni dderbyn 411 o gwynion gan wylwyr (PDF, 108.2 KB) am sylwadau Dr Wolf.

Beth sy'n digwydd pan fydd Ofcom yn derbyn cwyn?

Mae Ofcom yn derbyn miloedd o gwynion am raglenni teledu a radio bob blwyddyn, ac mae pob un o'r rhain yn cael ei asesu'n ofalus yn erbyn y Cod Darlledu.

I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sy'n digwydd pan fyddwn yn derbyn un o'r cwynion hyn, bwrw golwg ar ein fideo esboniadol byr.

Related content