13 Gorffennaf 2022

Data cwynion diweddaraf yn dangos bwlch cynyddol rhwng y darparwyr telathrebu a theledu-drwy-dalu gorau a gwaethaf

Heddiw rydym wedi cyhoeddi tablau cynghrair diweddaraf y cwynion rydym wedi'u derbyn ynghylch prif gwmnïau ffôn cartref, band eang, symudol a theledu-drwy-dalu y DU.

Mae'r adroddiad yn datgelu nifer y cwynion a wnaed i Ofcom yn y chwarter cyntaf eleni, rhwng misoedd Ionawr a Mawrth.

Rydym yn cywain y data hwn i wella ein dealltwriaeth o achosion anfodlonrwydd cwsmeriaid. Mae'n galluogi ni i nodi'r rhesymau pam mae pobl yn cwyno, a pha wasanaethau a darparwyr y maent yn cwyno amdanynt.

Rydym yn gwneud hyn bob chwarter, gan gymharu perfformiad darparwyr trwy gyhoeddi'r nifer o gwynion rydym yn eu derbyn amdanynt o'u cymharu â maint eu seiliau cwsmeriaid (h.y. fesul 100,000 o gwsmeriaid).

Band eang sefydlog

Graddau cymharol y darparwyr

Cwynion am fand eang fesul 100,000 o gwsmeriaid. Mae'n dangos y darparwyr sy'n derbyn y nifer isaf o gwynion ar frig y tabl a'r rhai sy'n derbyn y nifer uchaf o gwynion ar waelod y tabl. Mae'r canlyniadau fel a ganlyn: EE 3, Sky 4, BT 7, NOW Broadband 8, cyfartaledd y diwydiant 10, Plusnet 11, Vodafone 13, TalkTalk 14, Virgin Media 18 a Shell Energy 22.

Rhesymau dros gwyno

Rhesymau dros gwyno am wasanaethau band eang. Mae'n dangos y prif ysgogyddion i gwynion ar gyfer cyfartaledd y diwydiant a'r darparwr sy'n perfformio waethaf. Ar gyfer cyfartaledd y diwydiant: diffygion, gwasanaeth a darpariaeth 37%; trin cwynion 31%; a biliau, prisiau a thaliadau 14%. Shell Energy: diffygion, gwasanaeth a darpariaeth 40%; trin cwynion 30%; a biliau, prisiau a thaliadau 23%.

Llinell dir

Graddau cymharol y darparwyr

Cwynion llinell dir fesul 100,000 o danysgrifwyr. Mae'n dangos y darparwyr sy'n derbyn y nifer isaf o gwynion ar frig y tabl a'r rhai sy'n derbyn y nifer uchaf o gwynion ar waelod y tabl. Mae'r canlyniadau fel a ganlyn: EE 1, Sky 2, BT 5, NOW Broadband 5, Plusnet 6, cyfartaledd y diwydiant 6, Vodafone 8, TalkTalk 10, Virgin Media 11 a Shell Energy 20.

Rhesymau dros gwyno

Rhesymau dros gwyno am wasanaethau llinell dir. Mae'n dangos y prif ysgogyddion i gwynion ar gyfer cyfartaledd y diwydiant a'r darparwr sy'n perfformio waethaf. Ar gyfer cyfartaledd y diwydiant: diffygion, gwasanaeth a darpariaeth 31%; trin cwynion 31%; a biliau, prisiau a thaliadau 15%. Shell Energy: diffygion, gwasanaeth a darpariaeth 42%; trin cwynion 35%; a biliau, prisiau a thaliadau 12%.

Symudol talu'n fisol

Graddau cymharol y darparwyr

Cwynion symudol fesul 100,000 o danysgrifwyr. Mae'n dangos y darparwyr sy'n derbyn y nifer isaf o gwynion ar frig y tabl a'r rhai sy'n derbyn y nifer uchaf o gwynion ar waelod y tabl. Mae'r canlyniadau fel a ganlyn: Sky Mobile 1, Tesco Mobile 1, EE 1, cyfartaledd y diwydiant 2, Three 2, Vodafone 2, iD Mobile 3, O2 3, BT Mobile 3 a Virgin Mobile 4.

Rhesymau dros gwyno

Rhesymau dros gwyno am wasanaethau symudol. Mae'n dangos y prif ysgogyddion i gwynion ar gyfer cyfartaledd y diwydiant a'r darparwr sy'n perfformio waethaf. Ar gyfer cyfartaledd y diwydiant: diffygion, gwasanaeth a darpariaeth 24%; trin cwynion 25%; a newid darparwr 19%. Virgin Mobile: newid darparwr 31%; trin cwynion 22%; a biliau, prisiau a thaliadau 18%.

Teledu-drwy-dalu

Graddau cymharol y darparwyr

Cwynion am deledu-drwy-dalu fesul 100,000 o gwsmeriaid. Mae'n dangos y darparwyr sy'n derbyn y nifer isaf o gwynion ar frig y tabl a'r rhai sy'n derbyn y nifer uchaf o gwynion ar waelod y tabl. Mae'r canlyniadau fel a ganlyn: Sky 1, TalkTalk 3, cyfartaledd 4, BT 5 a Virgin Media 10.

Rhesymau dros gwyno

Rhesymau dros gwyno am wasanaethau teledu-drwy-dalu. Mae'n dangos y prif ysgogyddion i gwynion ar gyfer cyfartaledd y diwydiant a'r darparwr sy'n perfformio waethaf. Ar gyfer cyfartaledd y diwydiant: diffygion, gwasanaeth a darpariaeth 15%; trin cwynion 44%; a biliau, prisiau a thaliadau 19%. Virgin Media: newid darparwr 13%; trin cwynion 47%; a biliau, prisiau a thaliadau 20%.

I grynhoi, mae ein data diweddaraf yn dangos y canlynol:

  • Rhwng misoedd Ionawr a Mawrth arhosodd cwynion i Ofcom yn fras ar yr un lefelau ag yn ystod y chwarter blaenorol. Bu cynnydd bach mewn cwynion am fand eang sefydlog a theledu-drwy-dalu ac arhosodd cwynion am linell dir a symudol talu'n fisol yr un fath.
  • Shell Energy a gynhyrchodd y nifer fwyaf o gwynion band eang fesul 100,000 o gwsmeriaid, yn bennaf oherwydd diffygion, gwasanaeth a darpariaeth , a denodd EE a Sky y lleiaf o gwynion.
  • Shell Energy oedd y darparwr llinell dir y cwynwyd amdano fwyaf gyda chwynion yn codi'n bennaf oherwydd diffygion, gwasanaeth a darpariaeth , a denodd EE y lleiaf o gwynion am linell dir.
  • Virgin Mobile, BT Mobile ac O2 oedd y gweithredwyr symudol y cwynwyd amdanynt fwyaf. Yn bennaf, roedd cwsmeriaid yn anfodlon ar sut yr ymdriniwyd â'u cwynion. Denodd Sky, Tesco Mobile ac EE y lleiaf o gwynion.
  • Cynhyrchodd Virgin Media y nifer uchaf o gwynion am deledu-drwy-dalu; y prif reswm y cwynodd cwsmeriaid wrth Ofcom oedd y ffordd yr ymdriniwyd â chwynion. Sky oedd y darparwr teledu-drwy-dalu y cwynwyd leiaf amdano hefyd.

Er y bu'r lefel gyffredinol o gwynion yn isel yn gyson dros fisoedd diweddar, mae'r bwlch rhwng y darparwyr gorau a'r rhai gwaethaf yn y sectorau band eang, llinell dir a theledu-drwy-dalu'n ehangu.

Mae'r ffigurau'n amlygu sut mae gan rai cwmnïau lawer o waith i'w wneud i gadw eu cwsmeriaid yn hapus a dal i fyny a'u cystadleuwyr. Os nad ydych yn fodlon ar y gwasanaeth rydych chi'n ei dderbyn, ystyriwch siopa o gwmpas a symud i ddarparwr arall.

Fergal Farragher, Cyfarwyddwr Diogelu Defnyddwyr Ofcom

Pam rydym yn cyhoeddi'r data hwn

Mae ein data am gwynion yn helpu pobl i gymharu darparwyr pan fyddan nhw'n siopa o gwmpas am wasanaeth newydd - ac mae hefyd yn helpu i annog cwmnïau i wella'u perfformiad.

Er na all Ofcom ddatrys cwynion unigol, rydym yn cynnig cyngor i bobl am y gwasanaethau telathrebu a theledu-drwy-dalu y maent yn ei ddefnyddio, ac mae'r wybodaeth a dderbyniwn yn gallu arwain at lansio ymchwiliadau.

Os ydych chi'n profi problemau gyda'ch ffôn cartref, band eang, gwasanaeth symudol neu deledu-drwy-dalu, dylech gwyno wrth eich darparwr yn gyntaf. Os ydych yn anfodlon ar y canlyniad, gallwch fynd â'r gŵyn at ombwdsmon annibynnol, a fydd yn archwilio'r achos ac yn gwneud dyfarniad arno.

Nodiadau i olygyddion

Pan fydd y gwahaniaeth mesuradwy gwirioneddol rhwng nifer o gwynion y darparwyr fesul 100,000 o ddarparwyr yn llai nag 1, rydym yn ystyried bod eu canlyniadau'n gymaradwy. O fewn y sectorau canlynol, credwn fod modd cymharu'r darparwyr a restrir:

Band eang sefydlog

  • EE a Sky;
  • BT a NOW Broadband; a
  • Vodafone a TalkTalk.

Llinell dir

  • BT, Now Broadband a Plusnet; a
  • Plusnet a chyfartaledd y diwydiant.

Symudol talu'n fisol

  • Sky Mobile, Tesco Mobile, EE a chyfartaledd y diwydiant;
  • EE, cyfartaledd y diwydiant, Three a Vodafone;
  • Cyfartaledd y diwydiant, Three, Vodafone, iD Mobile, O2 a BT Mobile; ac
  • O2, BT Mobile a Virgin Mobile.

Related content