12 Rhagfyr 2023

Ofcom yn cynnig gwahardd codi prisiau'n unol â chwyddiant yng nghanol contractau

  • Mae Ofcom hefyd yn datgelu bod y nifer sy’n manteisio ar dariffau cymdeithasol wedi mwy na dyblu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ond bod miliynau o gwsmeriaid cymwys dal heb wybod amdanynt

Rhaid i ddarparwyr hysbysu cwsmeriaid telathrebu ymlaen llaw mewn punnoedd a cheiniogau am unrhyw gynnydd yn y pris sydd wedi'i gynnwys yn eu contract, o dan gynlluniau diogelu defnyddwyr newydd a gyhoeddir heddiw gan Ofcom.

Gyda'r rhan fwyaf o gwmnïau ffôn, band eang a theledu-drwy-dalu talu mawr bellach yn cynnwys codi'r pris yng nghanol y contract yn unol â chyfraddau chwyddiant ansicr y dyfodol, mae gennym bryderon nad yw contractau cwsmeriaid yn darparu digon o sicrwydd am y prisiau y byddant yn eu talu.

Felly, rydym yn cynnig cyflwyno mesurau diogelu llymach i gwsmeriaid drwy wahardd yr arfer hwn.

Mae telerau codi prisiau dryslyd yn peri risg o danseilio marchnad gystadleuol

Mae cystadleuaeth yn helpu i gadw prisiau i lawr. Er bod rhai prisiau band eang wedi codi eleni, dros y pum mlynedd diwethaf, mae prisiau cyfartalog gwasanaethau band eang a symudol wedi gostwng mewn termau real, ac mae'r ansawdd wedi gwella. Ar yr un pryd, mae cwmnïau wedi bod yn buddsoddi mewn uwchraddio eu rhwydweithiau, ac mae cyflymder a'r defnydd o ddata wedi cynyddu ar gyfartaledd.[1]

Fodd bynnag, er mwyn i gystadleuaeth weithio, rhaid i ddefnyddwyr fedru siopa o gwmpas yn hyderus.

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae arferion prisio lle mae darparwyr yn pennu cynnydd blynyddol yn unol â chyfradd chwyddiant annarogan y dyfodol, ynghyd â chanran ychwanegol o 3.9% fel arfer, wedi dod yn llawer mwy cyffredin, gan danseilio dealltwriaeth cwsmeriaid o'r hyn y byddant yn ei dalu.

Llinell amser: Cyflwyno telerau amrywio prisiau'n unol â chwyddiant gan gynnwys canran benodol ychwanegol

Ein canfyddiadau

Mae ein dadansoddiad o ddata darparwyr yn dangos, ym mis Ebrill 2023, yr oedd pedwar o bob deg cwsmer band eang (11 miliwn) a thros hanner y cwsmeriaid symudol (36 miliwn) ar gontractau a fu’n destun codi prisiau'n unol â chwyddiant. Rydym yn amcangyfrif y gallai’r niferoedd hyn dyfu ymhellach i tua chwech o bob deg cwsmer band eang a symudol, wrth i Three a Virgin Media gymhwyso telerau codi’r pris yn unol â chwyddiant i fwy o gontractau eu cwsmeriaid yn ystod 2023/24.

Fodd bynnag, mae ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r telerau hyn yn isel iawn. Nid yw dros hanner (55%) o gwsmeriaid band eang a symudol talu'n fisol (58%) yn gwybod beth mae cyfraddau chwyddiant fel CPI ac RPI yn ei fesur. Ac o’r rhai sydd gyda darparwyr sy’n codi'r pris yn unol â chwyddiant, ychydig iawn o gwsmeriaid band eang (16%) a symudol (12%) oedd yn ymwybodol y byddai'r pris yn codi ac a allai nodi ei fod yn gysylltiedig â chwyddiant gyda chanran ychwanegol.[2]

Gwelsom hefyd, hyd yn oed pan fydd pobl yn ystyried y bydd y pris yn codi'n unol â chwyddiant yn y dyfodol wrth ddewis contract, yn aml nid ydynt yn deall hynny'n iawn ac yn ei chael hi'n anodd amcangyfrif beth allai'r effaith fod ar eu taliadau.

Rhwng mis Ionawr a mis Hydref 2023, derbyniodd Ofcom dros 800 o gwynion yn ymwneud â chodi prisiau – bron i ddwbl nifer y cwynion a dderbyniwyd yn ystod yr un cyfnod yn 2021 – ac roedd llawer ohonynt yn amlygu'r ansicrwydd a grëir gan godi prisiau'n unol â chwyddiant.

Ein casgliadau

Rydym wedi dod i’r casgliad dros dro y gall telerau codi prisiau'n unol â chwyddiant yng nghanol contractau achosi cryn dipyn o niwed i ddefnyddwyr drwy gymhlethu’r broses o siopa am fargen, cyfyngu ar ymgysylltu â defnyddwyr, a gwneud cystadleuaeth yn llai effeithiol o ganlyniad.

At hynny, mae'r telerau hyn hefyd yn ei gwneud hi'n ofynnol i gwsmeriaid ysgwyddo risg a baich ansicrwydd ariannol chwyddiant, gydag effeithiau gwirioneddol ar eu gallu i reoli costau ar adeg pan fydd costau aelwydydd eisoes wedi'u hymestyn i'r eithaf.

Cryfhau ein rheolau

Er mwyn mynd i'r afael â'r broblem hon, rydym yn cynnig cyflwyno rheol newydd yn mynnu bod angen nodi unrhyw bris sydd wedi'i gynnwys yng nghontract cwsmer mewn punnoedd a cheiniogau, yn amlwg ac yn dryloyw, ar y pwynt gwerthu. Mae hynny'n cynnwys nodi'n glir pryd y bydd unrhyw newidiadau i brisiau'n digwydd.

Byddai hyn hefyd yn atal darparwyr rhag cynnwys telerau codi prisiau'n unol â chwyddiant, neu’n seiliedig ar ganrannau, ymhob contract newydd.

Enghraifft o sut y byddai'r gofyniad £/c yn gweithio

Delwedd yn dangos sut y byddai'r drefn yn newid o'r un presennol ii'r un arfaethedig. Yn yr un arfaethedig, mae'r cwsmer yn gwybod ar ddechrau'r contract faint y bydd y pris yn codi mewn blynyddoedd i ddod.

“Ar adeg pan fydd cyllidebau cartrefi o dan straen difrifol, mae angen i brisiau cwsmeriaid fod yn gwbl glir. Ond mae'r rhan fwyaf o bobl yn cael eu drysu gan y cymhlethdod ac ansicrwydd llwyr sydd ynghlwm wrth y telerau codi prisiau'n unol â chwyddiant yn eu contractau, sy'n tanseilio gallu cwsmeriaid i siopa o gwmpas.

“Byddai ein mesurau diogelu llymach yn gwahardd yr arfer hwn unwaith ac am fyth, gan ddarparu’r eglurder a’r sicrwydd sydd eu hangen ar gwsmeriaid i sicrhau’r fargen orau ar gyfer eu hanghenion a’u cyllideb.”

Y Fonesig Melanie Dawes, Prif Weithredwr Ofcom

Y camau nesaf

Rydym yn ymgynghori ar y gofyniad newydd arfaethedig hwn tan 13 Chwefror 2024, ac yn bwriadu cyhoeddi ein penderfyniad terfynol yng ngwanwyn 2024.

Yn amodol ar ymatebion, bwriadwn i’r rheol newydd ddod i rym bedwar mis ar ôl cyhoeddi ein penderfyniad terfynol. Mae’r cyfnod hwn yn adlewyrchu ein pryder ynghylch graddfa'r niwed i ddefnyddwyr wedi'i gydbwyso yn erbyn yr angen am roi digon o amser i ddarparwyr wneud y newidiadau angenrheidiol i’w prosesau a’u cynlluniau busnes.

Camau gorfodi

Ar wahân, rydym wedi cynnal ymchwiliad i ddarganfod a oedd cwmnïau ffôn a band eang wedi cydymffurfio â’n rheolau blaenorol rhwng mis Mawrth 2021 a mis Mehefin 2022. Rydym wedi gweld nad yw nifer fach o ddarparwyr o bosib wedi rhoi gwybodaeth glir i rai cwsmeriaid am y cynnydd mewn prisiau ar yr adeg gywir, gan greu pryder posibl ynghylch cydymffurfio.

Rydym wedi trafod y pryderon hyn gyda'r darparwyr perthnasol a sicrhau ad-daliadau i rai cwsmeriaid yr effeithiwyd arnynt. Byddwn yn parhau i drafod ein pryderon gweddilliol gyda'r darparwyr hyn, gan uwchgyfeirio i gamau gorfodi ar wahân, wedi'u targedu, os bydd angen.

Y nifer sy'n manteisio ar dariffau cymdeithasol yn dyblu mewn blwyddyn

Mae Ofcom hefyd wedi cyhoeddi ei Adroddiad Tueddiadau Prisio blynyddol heddiw, sydd eleni'n cynnwys y ffigurau diweddaraf ar gyfer manteisio ar dariffau cymdeithasol ac ymwybyddiaeth ohonynt.

Mae tariffau cymdeithasol yn becynnau band eang a ffôn rhatach i bobl sy'n hawlio Credyd Cynhwysol, Credyd Pensiwn a rhai budd-daliadau eraill. Mae rhai darparwyr yn eu galw'n fand eang 'essential' neu 'basic'.

Cododd y nifer sy’n manteisio ar dariffau cymdeithasol i 380,000 ym mis Medi 2023, i fyny o 147,000 flwyddyn ynghynt, sy’n golygu bod mwy o gwsmeriaid yn elwa o'r arbedion y mae’r tariffau’n eu cynnig. Fodd bynnag, mae ymwybyddiaeth ohonynt ymhlith cwsmeriaid cymwys yn parhau i fod yn her. Mae ychydig dros hanner (55%) o aelwydydd cymwys dal heb fod yn ymwybodol o dariffau cymdeithasol; ac er bod y nifer sy'n manteisio arnynt yn gwella, mae'n parhau i fod yn isel fel cyfran o'r holl aelwydydd cymwys (8.3%).

Am y tro cyntaf, rydym wedi cyhoeddi ffigurau'r rhai sy'n manteisio ar dariffau cymdeithasol pob un o'r darparwyr band eang mwyaf.

Manteisio ar dariffau cymdeithasol: Chwefror 2022 i Medi 2023 (000)

Yn dangos y niferoedd sydd wedi manteisio ar draiffau cymdeithasol rhwng Chwefror 2022 a Medi 2023. Bu gynnydd o 53000 i 380000.

BT sydd â’r gyfran fwyaf o gwsmeriaid band eang ar dariff cymdeithasol (72%), wedi'i ddilyn gan Sky (13%), Virgin Media (6%), Vodafone (4%), KCOM (1%) a Shell Energy (0.3%). Mae'r cyfrannau hyn yn rhannol yn adlewyrchu faint o amser y mae gwahanol gynhyrchion tariff cymdeithasol wedi bod ar gael. TalkTalk yw’r unig ddarparwr band eang mawr nad yw’n cynnig tariff cymdeithasol.

Nodiadau i olygyddion

  1. Mae band eang ffeibr llawn bellach ar gael i dros hanner cartrefi’r DU, o gymharu â phum mlynedd yn ôl, pan mai dim ond 6% oedd â mynediad iddo. Mae band eang gigabit-alluog ar gael i 75% o gartrefi'r DU. Roedd darpariaeth 5G ar gael yn yr awyr agored i 85% o adeiladau ym mis Ebrill 2023, i fyny o 69% ym mis Mai 2022. Rhwng Tachwedd 2019 a Mawrth 2023, cynyddodd cyflymder lawrlwytho cyfartalog o 42.1 Mbit/e i 69.4 Mbit/e. Rhwng 2018 a 2022, cynyddodd y defnydd o ddata band eang cartref bob mis ar gyfartaledd o 240 GB i 482 GB.
  2. Prisiau misol termau real cyfartalog ar gyfer bwndeli llinell dir a band eang preswyl, prisiau 2023

    Delwedd yn dangos sut y byddai'r drefn yn newid o'r un presennol ii'r un arfaethedig. Yn yr un arfaethedig, mae'r cwsmer yn gwybod ar ddechrau'r contract faint y bydd y pris yn codi mewn blynyddoedd i ddod.

    Mae diffiniadau i'w gweld ar dudalennau 58-60 o'n hadroddiad Tueddiadau Prisio

    Prisiau misol cyfartalog wedi'u pwysoli ar gyfer defnydd symudol cyfartalog, heb gynnwys cost set llaw (£/mis), prisiau 2023

    Prisiau misol cyfartalog wedi'u pwysoli ar gyfer defnydd symudol cyfartalog, heb gynnwys cost set llaw (£/mis), prisiau 2023

    Mae'r fethodoleg i'w gweld ar dudalennau 22-23 o'n hadroddiad Tueddiadau Prisio

  3. Arolygwyd samplau cynrychioliadol cenedlaethol o oedolion 16 oed yn y DU ym mis Ionawr 2023 (4,213) ac ym mis Hydref 2023 (4,232).

Related content