11 Rhagfyr 2023

Cyfarparu radio amatur ar gyfer y dyfodol

Cyn bo hir bydd y rhai sy'n frwd dros radio amatur yn mwynhau mwy o ryddid gweithredu o dan y newidiadau arfaethedig i drwyddedau radio amatur a gyhoeddwyd gan Ofcom heddiw.

Mae radio amatur, a elwir weithiau'n radio ham, wedi bod yn rhan bwysig o gyfathrebiadau di-wifr ers dros ganrif. Mae angen i bob defnyddiwr radio amatur yn y DU gael trwydded gan Ofcom, ac mae dros 100,000 o drwyddedau radio amatur wedi'u rhoi yn y DU ar hyn o bryd.

Nododd ein hymgynghoriad ym mis Mehefin 2023, a ddenodd bron i 1,500 o ymatebion, ein cynigion ar gyfer newidiadau i’n trwyddedau a’n polisïau radio amatur, er mwyn sicrhau eu bod yn diwallu anghenion defnyddwyr y presennol a’r dyfodol yn well ac yn adlewyrchu sut mae’r hobi wedi esblygu. Rydym wedi penderfynu symud ymlaen â’n cynigion, gan gynnwys rhai addasiadau yng ngoleuni’r ymatebion.

Trosolwg o newidiadau arfaethedig

Galluogi amaturiaid radio i ymgymryd ag ystod ehangach o weithgareddau rydym yn bwriadu:

  • Diweddaru'r fframwaith trwyddedu cyffredinol. Mae hyn yn cynnwys caniatáu i unrhyw un weithredu offer radio amatur o dan oruchwyliaeth deiliad trwydded a gwneud y broses o gael trwydded a'i defnyddio'n symlach ac yn gliriach.
  • Symleiddio a moderneiddio aseinio arwyddion galw trwy ddiweddaru ein polisïau dyrannu arwyddion galw mewn nifer o feysydd. Er enghraifft, o dan ein cynlluniau byddwn yn ei gwneud hi'n haws i'r gymuned radio amatur ddefnyddio arwyddion galw Digwyddiad Arbennig a chaniatáu i drwyddedeion newid eu harwydd galw ar ôl cyfnod o bum mlynedd. Bydd cynnwys Lleolwyr Eilaidd Rhanbarthol (RSL) yn dod yn ddewisol i'r rhan fwyaf o ddeiliaid trwydded. Fodd bynnag, byddai deiliaid trwydded yn gallu parhau i'w defnyddio os dymunant.
  • Addasu paramedrau technegol. Mae hyn yn cynnwys cynyddu'r uchafswm pŵer y caniateir i amaturiaid radio ei ddefnyddio yn y rhan fwyaf o fandiau amledd; a
  • Darparu rheolau cliriach wedi’u diweddaru, gan gynnwys symleiddio amodau i’w gwneud nhw'n haws eu deall a dileu darpariaethau nad oes eu hangen at ddibenion rheoli sbectrwm.

Mae hyn oll yn rhan o ymdrech ehangach i symleiddio, safoni a, lle bo modd, awtomeiddio elfennau o'n gwaith trwyddedu.

Rydym yn awr yn cymryd camau i gyflwyno’r newidiadau arfaethedig. Ni fydd y rhain yn dod i rym ar unwaith a chânt eu cyflwyno'n raddol dros gyfnod o ddwy flynedd. Er mwyn gweithredu llawer o'n newidiadau arfaethedig, bydd yn rhaid i ni amrywio'r holl drwyddedau radio amatur presennol. Mae hyn yn golygu bod llawer o’n cynlluniau'n amodol ar ganlyniad y prosesau statudol ar gyfer amrywio trwyddedau presennol.

Heddiw, rydym yn wedi cyhoeddi Hysbysiad Cyffredinol sy'n disgrifio'r amrywiadau arfaethedig i'r drwydded. Gall trwyddedeion gyflwyno sylwadau ar y newidiadau arfaethedig hyn erbyn 5:00pm ar 22 Ionawr 2024. Byddwn yn cyhoeddi ein penderfyniad terfynol ar yr amrywiad arfaethedig ym mis Chwefror 2024.

Related content