27 Mehefin 2023

Annibyniaeth Openreach 'yn sefydledig', ond ni ddylai orffwys ar ei fri

Heddiw mae Ofcom wedi cyhoeddi ei hadroddiad monitro diweddaraf ar annibyniaeth Openreach

Ers sefydlu annibyniaeth Openreach yn 2018 – pan aeth yn gwmni penodol gyda'i staff, rheolaeth, diben a strategaeth ei hun o fewn Grŵp BT – rydym wedi bod yn monitro'n agos ei gydymffurfiaeth o fewn y fframwaith hwn.

Mae ein hadroddiad diweddaraf yn nodi bod y trefniadau hyn yn gyffredinol yn sefydledig ac wedi'u hymwreiddio'n dda ar draws BT ac Openreach.

Er hynny, bu enghreifftiau lle mae newidiadau staff a chyflwyno systemau newydd wedi arwain at broblemau o bryd i'w gilydd. Er yr ymdriniwyd â'r rhain yn gyflym, mae'n bwysig bod BT ac Openreach yn cymryd pob cam angenrheidiol i sicrhau nad yw hunanfoddhad yn ymsefydlu.

Mae'r adroddiad heddiw hefyd yn nodi ein barn ynghylch a yw gweithredoedd neu benderfyniadau Openreach yn peri risg o aflunio cystadleuaeth a niweidio'r farchnad.

Mae rhwymedigaethau ehangach BT mewn perthynas â chystadleuaeth yn dibynnu ar ymddygiad cydymffurfio drwy esiampl o'r brig i lawr. Bu sylwadau Prif Weithredwr BT, Philip Jansen, ym mis Chwefror eleni – gan gynnwys adroddiadau a nododd iddo ddweud y bydd ymgyrch ffeibr Openreach yn 'troi'n chwerw' i gystadleuwyr – yn destun pryder sylweddol i Ofcom a'r diwydiant. Byddem yn bryderus iawn o weld sylwadau tebyg yn y dyfodol a byddwn yn parhau i adolygu hyn yn agos.

Mae Ofcom hefyd yn monitro cydymffurfiaeth Openreach â'n rheolau Marchnad Telathrebiadau Sefydlog Cyfanwerthol, sydd wedi'u dylunio i gefnogi cystadleuaeth a buddsoddi mewn rhwydweithiau cyfradd gigabit. O dan y rheolau hyn, mae'n rhaid i Openreach fodloni safonau perfformiad gwasanaeth penodol, er mwyn sicrhau ei fod yn darparu lefel briodol o wasanaeth i'w gwsmeriaid.

Ar wahân i'r adroddiad, fe'n hysbyswyd yn ddiweddar gan Openreach nad oedd wedi cyflawni rhai o'r safonau ansawdd gwasanaeth yn y flwyddyn ariannol 2022/23. O ganlyniad, mae Ofcom wedi agor ymchwiliad i berfformiad Openreach a bydd yn cyhoeddi diweddariadau maes o law.

Related content