3 Mai 2023

Chwarae ein rhan wrth gefnogi ymwybyddiaeth o'r cyfryngau

Mae un peth yn gyffredin am waith Ofcom – cyfathrebiadau, a’r effaith maen nhw’n ei chael ar fywydau pobl.

Mae'r tîm Gwneud Synnwyr o’r Cyfryngau (MSOM), sydd ag aelodau ar draws ein swyddfeydd yn Belfast, Caeredin, Caerdydd a Llundain, yn canolbwyntio ar helpu pobl i fod yn ymwybodol o’r cyfryngau – ac yn eu tro, byw bywyd mwy diogel ar-lein.

Mae ein gwaith yn ymwneud â helpu pobl i wneud penderfyniadau digidol gwybodus, a rhoi’r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i amddiffyn eu hunain ar-lein, cymryd rhan lawn mewn bywyd ar-lein a chadw mewn cysylltiad. Rydyn ni’n cefnogi mudiadau i wella sgiliau ymwybyddiaeth o’r cyfryngau ymysg y grwpiau a’r cymunedau sydd fwyaf agored i niwed ar-lein, rydyn ni’n gweithio gyda’r llwyfannau i sicrhau bod ganddyn nhw fesurau i helpu pobl i ddeall eu cynnwys ac rydyn ni’n cynhyrchu ymchwil o ansawdd uchel i ddefnydd oedolion a phlant o gyfryngau, ac mae’r pwyslais ar bobl.

Rhan bwysig o’n rôl yw cefnogi’r mudiadau arbenigol hynny yn y DU, yn aml elusennau, sy’n gwneud y gwaith hwn mewn ysgolion, llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol, clybiau ieuenctid a thu hwnt. Rydyn ni’n dod â nhw at ei gilydd drwy ein rhwydwaith Gwneud Synnwyr o’r Cyfryngau ac yn cynnal digwyddiadau rheolaidd lle gellir rhannu syniadau a dysgu.

Drwy ein rhwydwaith, rydyn ni’n gwybod bod y mudiadau hyn yn aml yn gorfod dangos pa mor llwyddiannus oedd eu prosiectau i’r bobl sy’n eu hariannu – gan gynnwys pa mor effeithiol oedden nhw am wella ymwybyddiaeth pobl o’r cyfryngau. Ond mae’r dull adrodd arbenigol hwn – neu’r dull gwerthuso – yn gofyn am arbenigedd ac amser a gall fod yn faich ariannol ychwanegol ar elusennau sydd eisoes dan bwysau.

Pecyn Gwerthuso

Gyda hynny mewn golwg, rydyn ni wedi cyhoeddi ein Pecyn Gwerthuso - canllawiau ymarferol cam wrth gam i symleiddio’r broses hon a thaflu goleuni arni. Daethom â thîm o arbenigwyr at ei gilydd i wneud hyn ac roedden ni’n siarad yn rheolaidd â’r mudiadau rydyn ni’n gobeithio a fydd yn ei ddefnyddio, i wneud yn siŵr ei fod yn gweithio iddyn nhw.

Wedi’i ysgrifennu mewn Saesneg clir, mae’r pecyn cymorth yn gyfres o adrannau gyda lluniau a gellir ei lwytho i lawr oddi ar wefan Ofcom. Mae pob adran yn ymdrin â cham gwahanol o’r broses werthuso ac fe’i cynlluniwyd yn yr un ffordd, gydag iaith arbenigol yn cael ei hegluro mewn blychau testun tynnu allan a rhestr darllen pellach ar ddiwedd pob adran. Fe wnaethom feddwl am fudiad ffuglennol ym maes ymwybyddiaeth o’r cyfryngau o’r enw Digital Sleuth Club a’i ddefnyddio fel enghraifft i egluro rhai pwyntiau.

Un agwedd allweddol ar ein gwaith yw rhannu – gwybodaeth ac ymarfer. Fel cymorth ychwanegol i’r sector, fe wnaethom greu dwy lyfrgell y gellir chwilio drwyddyn nhw, un yn rhestru prosiectau ymwybyddiaeth o’r cyfryngau presennol er mwyn i unrhyw un sy’n meddwl am ddechrau rhaglen newydd allu gweld beth sydd eisoes ar gael, ac un arall yn cynnwys ymchwil diweddar ar ymwybyddiaeth o’r cyfryngau – gan gynnwys adroddiadau Ofcom.

Mae’r pecyn cymorth hefyd yn nodi ‘pam’ yn ogystal â ‘beth’ yw gwerthuso. Mae’n esbonio sut y gall defnyddio proses werthuso effeithiol o ddechrau prosiect helpu mudiadau i ddangos sut mae eu gwaith wedi gwneud gwahaniaeth i sgiliau, gwybodaeth ac ymddygiad pobl, yn ogystal ag addasu a gwella’r gwaith hwnnw ar gyfer y tro nesaf. Gall hyn eu helpu i ddenu cyllid yn y dyfodol, ac os bydd y mudiadau wedyn yn teimlo’n hyderus i rannu eu hadroddiadau gwerthuso, gallwn ddangos sut y bydd y prosiectau hyn, gyda’i gilydd, yn gwneud gwahaniaeth go iawn i sgiliau ymwybyddiaeth o'r cyfryngau pobl.

Wrth gwrs, dydyn ni ddim eisiau i’r pecyn adnoddau eistedd ar silff ddigidol a chasglu llwch. Rydyn ni eisiau iddo fod yn adnodd byw sy’n datblygu ac yn diwallu angen gwirioneddol y mudiadau hynny sy’n gwneud gwaith hanfodol ledled y DU i gefnogi pobl i wneud penderfyniadau digidol mwy gwybodus.

Byddwn yn gwrando a byddwn yn mireinio’r pecyn cymorth ar ôl iddo gael ei brofi ac ar ôl i’r syniadau cychwynnol gael eu bwydo’n ôl i ni: gan ddysgu ar y daith ac addasu ein hallbynnau mewn ymateb i adborth.

Bydd proses werthuso fwy cadarn yn gwneud y prosiectau hyn - boed yn adnoddau, yn weithdai neu’n wersi ar-lein - yn fwy effeithiol ac yn eu galluogi i ffynnu yn y dyfodol.

Ac mae prosiectau sy’n ffynnu yn golygu y bydd mwy o bobl yn y DU yn cael cyfle i ddysgu sut i fyw bywyd mwy diogel ar-lein.

Related content