13 Rhagfyr 2023

Taclo dryswch defnyddwyr ynghylch technolegau band eang

Heddiw mae Ofcom yn cyhoeddi canllawiau newydd ar gyfer darparwyr band eang i sicrhau bod defnyddwyr yn derbyn gwybodaeth glir am eu gwasanaeth pan fyddant yn ymrwymo i gytundeb newydd.

O dan y canllawiau, rhaid i gwmnïau band eang ddweud wrth ddefnyddwyr am y rhwydwaith sy'n sail i'w gwasanaeth band eang a defnyddio dim ond termau sy'n glir ac yn ddiamwys.

Hyd yma, mae’r term ‘ffeibr’ wedi cael ei ddefnyddio i ddisgrifio rhwydweithiau hen a newydd, ond yn y dyfodol bydd angen i ddarparwyr band eang fod yn glir a yw’r rhwydwaith y maent yn ei ddefnyddio yn rhwydwaith ‘ffeibr llawn’ newydd – gyda ffeibr yr holl ffordd i gartref y cwsmer – neu'n rhwydwaith 'ffeibr rhannol', 'copr' neu 'cebl'.

Rhaid rhoi'r wybodaeth hon i ddefnyddwyr cyn iddynt brynu gwasanaeth band eang, waeth p'un a ydynt yn cofrestru wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu ar-lein.

Dryswch ymysg defnyddwyr

Mae rhwydweithiau ffeibr llawn yn cael eu gosod ar garlam ar hyn o bryd, gan olygu y gall cwsmeriaid ddewis yn gynyddol o ystod o dechnolegau rhwydwaith gwahanol ar gyfer eu gwasanaeth band eang. Fodd bynnag, mae'r term 'ffeibr' yn cael ei ddefnyddio'n anghyson gan y diwydiant telathrebu ac fe'i defnyddir yn aml i ddisgrifio gwahanol fathau o rwydweithiau, gan arwain at ddryswch ymysg cwsmeriaid.  Yn benodol, mae rhai darparwyr yn defnyddio'r term 'ffeibr' sy'n amwys, gan y gallai gyfeirio at nifer o wahanol dechnolegau, yn benodol ffeibr i'r cabinet (FTTC), ffeibr i'r safle (FTTP), neu dechnolegau cebl.

At hynny, datgela ein hymchwil ddiffyg hyder ymysg mwy na chwarter (27%) o gwsmeriaid band eang wrth ddeall yr iaith a'r derminoleg a ddefnyddir gan ddarparwyr. At hynny, dim ond 46% o gwsmeriaid a adroddodd eu bod ar ffeibr llawn oedd yn byw mewn gwirionedd mewn ardaloedd lle mae hynny ar gael.

Canllawiau newydd ar gyfer y diwydiant

I wella dealltwriaeth defnyddwyr, rydym wedi penderfynu cyhoeddi canllawiau newydd ar gyfer y diwydiant. Yn gryno:

  • dylai darparwyr roi disgrifiad byr o dechnoleg rhwydwaith sylfaenol pob cynnyrch band eang gan ddefnyddio un neu ddau derm sy’n glir ac yn ddiamwys, megis ‘cebl’,’ ffeibr llawn', 'copr' neu 'ffeibr rhannol’. Dylid cynnig y disgrifiadau hyn ar y pwynt gwerthu ar y wefan, a chyn y cam prynu terfynol mewn gwybodaeth contract, ac yng nghrynodeb y contract;
  • mae defnyddio'r term 'ffeibr' ar ei ben ei hun yn amwys, felly ni ddylid ei ddefnyddio ar ei ben ei hun i ddisgrifio'r dechnoleg band eang sylfaenol. Byddai hyn yn golygu, er enghraifft, mai dim ond i ddisgrifio rhwydweithiau sy'n defnyddio ceblau ffeibr optig yr holl ffordd o'r gyfnewidfa i'r cartref y defnyddir 'ffeibr llawn' (neu derm tebyg). Yn yr un modd, byddai 'ffeibr rhannol' (neu derm tebyg) yn disgrifio'r gwasanaethau hynny sydd â chysylltiad ffeibr-optig o'r gyfnewidfa leol i'r cabinet stryd ac yna fel arfer gwifren gopr yn cysylltu'r cabinet stryd â chartref y cwsmer; a
  • dylai darparwyr roi esboniad manylach o'r dechnoleg band eang sylfaenol - er enghraifft trwy ddolen - er mwyn i ddefnyddwyr ddeall yn fanylach beth mae'n ei olygu iddyn nhw. Rhaid darparu'r wybodaeth hon ar ffurf hygyrch sy'n hawdd ei deall.

Mae'r wybodaeth hon yn bwysig oherwydd gall y gwahanol dechnolegau rhwydwaith sylfaenol effeithio ar berfformiad. Yn benodol, ar rwydwaith Openreach, gall FTTP ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy na FTTC, gan ei fod yn llai agored i ddiffygion. Bydd y canllawiau newydd yn weithredol o 16 Medi 2024, gan roi naw mis i ddarparwyr band eang roi’r newidiadau angenrheidiol ar waith.

“Mae'r canllawiau heddiw wedi'u dylunio i daclo dryswch ymysg cwsmeriaid ynghylch y gwahanol dechnolegau rhwydwaith sy'n sail i wasanaethau band eang.

Trwy wneud gwybodaeth glir a syml am dechnolegau rhwydwaith yn ofynnol, bydd gan ddefnyddwyr ddealltwriaeth well o nodweddion eu gwasanaeth band eang, er mwyn iddynt gymharu gwasanaethau'n haws a dewis yr un gorau i ddiwallu eu hanghenion.”

Selina Chadha, Cyfarwyddwr Cysylltedd Ofcom

Related content