23 Hydref 2023

Diweddariad ar achosion didueddrwydd GB News

Heddiw mae ymchwiliad Ofcom wedi dod i'r casgliad (PDF, 422.6 KB) bod rhaglen a gyflwynwyd gan Martin Daubney (yn dirprwyo i Laurence Fox), a ddarlledwyd ar GB News ar 16 Mehefin 2023, wedi torri rheolau didueddrwydd dyladwy.

Ar wahân, rydym wedi cyhoeddi ein hasesiad (PDF, 310.0 KB) o bennod o Lee Anderson’s Real World, 29 Medi 2023, lle cafwyd cyfweliad gyda'r Ysgrifennydd Cartref, Suella Braverman AS. Ni fyddwn yn ymchwilio i'r rhaglen hon ac rydym wedi nodi ein rhesymau'n llawn.

Penderfyniad: Laurence Fox, 16 Mehefin 2023

Derbyniodd Ofcom gŵyn am y rhaglen trafod pynciau cyfredol wythnosol hon, a gyflwynwyd y tro hwn gan Martin Daubney, cyn-ASE i'r Blaid Brexit a chyn-ddirprwy arweinydd y Blaid Reclaim.

Yn ystod y rhaglen lleisiodd Martin Daubney ei farn ar fater polisi mewnfudo a lloches, yng nghyd-destun pwnc llosg y cychod bach sy'n croesi'r Sianel. Cyfwelodd hefyd ag arweinydd y Blaid Reform, Richard Tice.

Rheolau didueddrwydd dyladwy a rhyddid mynegiant

Yn unol â’r hawl i ryddid mynegiant, mae Ofcom yn cydnabod bod darlledwyr yn rhydd i benderfynu ar ymagwedd olygyddol eu rhaglenni. Rydym hefyd o'r farn ei bod yn hanfodol i raglenni materion cyfoes ddarparu trafodaeth heriol sy'n cyfleu barn bendant, ac i allu trafod a dadansoddi pynciau cyfredol, a chymryd safbwynt ar y materion hynny. Ond wrth wneud hynny, rhaid i ddarlledwyr lynu wrth y rheolau a nodir yn y Cod Darlledu.

Mae’r Cod yn glir pan fydd rhaglenni’n ymdrin â materion sy’n destun dadl wleidyddol sylweddol a pholisi cyhoeddus cyfredol – gan gynnwys polisi mewnfudo a lloches – bod gofynion didueddrwydd llymach yn berthnasol. Yn benodol, mae Rheolau 5.11 a 5.12 yn ei gwneud yn ofynnol i gynnwys ystod briodol o eang o safbwyntiau arwyddocaol a rhoi pwys dyladwy iddynt mewn rhaglenni o'r fath, neu mewn rhaglenni amserol sydd â chysylltiad clir.

Ymchwiliad a phenderfyniad Ofcom

O ystyried bod y rhaglen hon yn cynnwys trafodaeth fanwl am bolisi mewnfudo a lloches – mater o ddadl wleidyddol sylweddol a pholisi cyhoeddus cyfredol – rydym o’r farn y dylai GB News fod wedi cymryd camau ychwanegol i sicrhau didueddrwydd dyladwy.

Canfu ein hymchwiliad fod Mr Tice wedi cyflwyno ei farn ar bolisi mewnfudo a lloches heb ddigon o her, a bod y safbwyntiau amgen cyfyngedig a gyflwynwyd yn y rhaglen wedi cael eu diystyru. Felly, nid oedd y rhaglen yn cynnwys nac yn rhoi pwys dyladwy i ystod briodol o eang o safbwyntiau arwyddocaol, fel sy’n ofynnol yn ôl y Cod.

Cydnabu GB News nad oedd y cynnwys yn cydymffurfio â'r gofynion didueddrwydd llymach arbennig yn y Cod.

Disgwyliwn i GB News roi ystyriaeth ofalus i'r Penderfyniad hwn o ran cydymffurfiaeth ei raglenni yn y dyfodol.

Cwynion a aseswyd, nas dilynwyd: Lee Anderson’s Real World, 29 Medi 2023

Hefyd heddiw rydym wedi cyhoeddi ein hasesiad o Lee Anderson's Real World, rhaglen drafod wythnosol a ddarlledwyd ar GB News ar 29 Medi, a'r rhesymau dros ein penderfyniad i beidio ag ymchwilio i'r rhaglen hon.

Ymdriniodd y rhaglen hon â phwnc mewnfudo a rheoli ffiniau. Yn ystod y rhaglen, cyfwelodd Dirprwy Gadeirydd y Blaid Geidwadol, Lee Anderson AS, â’r Ysgrifennydd Cartref, Suella Braverman, ac arweiniodd drafodaeth banel ddilynol ar y materion a godwyd.

Caniateir i wleidyddion gyflwyno rhaglenni materion cyfoes o dan ein rheolau, ar yr amod nad ydynt yn sefyll mewn etholiad ac y glynir wrth ddidueddrwydd dyladwy. A ninnau wedi asesu natur a fformat y rhaglen – a oedd yn cynnwys cyfuniad o gyfweliad wedi’i recordio ymlaen llaw, dadansoddiad manwl yn y stiwdio a thrafodaeth banel – roeddem yn fodlon mai rhaglen materion cyfoes oedd hi. Ar adeg y darllediad, nid oedd Lee Anderson na Suella Braverman yn sefyll mewn etholiad oedd yn cael ei gynnal, nac ar fin cael ei gynnal. Daethom i’r casgliad felly nad oedd y rhaglen yn codi materion o dan Reol 5.3 o’r Cod Darlledu, sy’n nodi’r cyfyngiad mewn perthynas â gwleidyddion yn cyflwyno rhaglenni newyddion.

Roeddem o'r farn bod mewnfudo a rheoli ffiniau'n destun dadl wleidyddol sylweddol ac yn fater o bwys o ran polisi cyhoeddus cyfredol. Ac felly, fel yn yr achos uchod, roedd y gofynion didueddrwydd llymach o dan y Cod yn berthnasol.

Yn yr achos hwn, roeddem o’r farn bod y rhaglen hon yn bodloni’r gofynion hyn drwy gynnwys ystod briodol o eang o safbwyntiau arwyddocaol ar fater mewnfudo a rheoli ffiniau, y rhoddwyd pwys dyledus iddynt.

Defnyddiodd GB News amrywiaeth o dechnegau golygyddol i gyflawni hyn. Darllenodd y cyflwynydd a siaradwr arall ddatganiadau gan unigolyn a sefydliadau a oedd yn herio ac wedi'u rhyng-blethu â’r safbwyntiau a fynegwyd gan yr Ysgrifennydd Cartref yn y cyfweliad. Yn ystod y drafodaeth banel, roedd dau banelwr, a oedd yn cynrychioli safbwyntiau gwleidyddol gwahanol i rai Suella Braverman a Lee Anderson, yn gallu herio sylwadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Cartref a mynegi ystod o safbwyntiau amgen.

O ystyried hyn, nid oeddem o'r farn bod y rhaglen wedi codi unrhyw faterion a oedd yn cyfiawnhau ymchwiliad o dan y Cod.

Mae gennym 12 ymchwiliad pellach ar agor i GB News yr ydym yn gweithio i’w cwblhau cyn gynted â phosibl, yn unol â’n gweithdrefnau cyhoeddedig.

Related content