31 Hydref 2023

Agweddau gwylwyr tuag at ryw a thrais ar y teledu

  • Cynulleidfaoedd yn croesawu portreadau teledu ‘mwy goleuedig’ o ryw, gan gynnwys ffocws ar gydsyniad a grymuso menywod
  • Gwylwyr o'r farn bod trais graffig, realistig ar y teledu'n cynyddu'r gwerth dramatig
  • Ystyrir o hyd bod rhybuddion a'r trothwy yn bwysig i amddiffyn plant
  • Pobl yn disgwyl i gynnwys mwy 'eofn' gael ei ddangos ar wasanaethau ffrydio drwy danysgrifiad
  • Mae gwylwyr yn teimlo bod y portread o ryw a pherthnasoedd rhywiol mewn rhaglenni wedi gwella a moderneiddio, yn ôl astudiaeth ddiweddaraf Ofcom i agweddau cynulleidfaoedd tuag at ryw a thrais ar y teledu.

    Yn gyffredinol, ystyriodd y rhai a gymerodd ran yn yr ymchwil fod lefel y cynnwys rhywiol ar y teledu wedi parhau'n uchel ond yn gyson yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ond dywedodd llawer o wylwyr wrthym hefyd eu bod wedi gweld newidiadau yn y ffordd y caiff perthnasoedd rhywiol eu portreadu, gyda rhaglenni teledu bellach yn cael eu hystyried yn llai tebygol o gynnwys ystrydebu ar sail rhyw, gwrthrycholi menywod neu ddarluniau anfeirniadol o berthnasoedd camfanteisiol.

    Mae gwylwyr hefyd yn ystyried bod golygfeydd o agosrwydd personol yn llai tebygol o gael eu portreadu o safbwynt gwrywaidd yn unig fel mater diofyn. Maent hefyd yn cydnabod bod darlledwyr yn rhoi mwy o ffocws ar fater cydsyniad mewn perthnasoedd rhywiol ac ar rymuso rhywiol menywod. Teimlai rhieni yn benodol fod gan deledu rôl bwysig heddiw wrth ddarparu modelau rôl cadarnhaol yn hyn o beth, gan grybwyll y cymeriad Connell yn nrama’r BBC, Normal People, fel enghraifft.

    Cofnodi chwaeth a goddefgarwch cynulleidfaoedd modern

    Mae Ofcom yn cynnal ymchwil o bryd i’w gilydd ymhlith gwylwyr a gwrandawyr i ddeall sut y gall agweddau, chwaeth a goddefgarwch newid dros amser. Gall yr astudiaethau hyn helpu darlledwyr i ddeall disgwyliadau cynulleidfaoedd yn well a pha gamau y gallai fod angen iddynt eu cymryd i’w hamddiffyn. Maent hefyd yn helpu tîm Safonau Darlledu Ofcom i ddeall ac ystyried barn cynulleidfaoedd cyfredol wrth wneud penderfyniadau am gynnwys, tra'n roi ystyriaeth lawn i ryddid mynegiant.

    O ran portreadau o noethni neu gynnwys rhywiol ar y teledu, mae gwylwyr yn ystyried bod rhaglenni bellach yn fwy tebygol o adlewyrchu agweddau cadarnhaol a chynhwysol o ran y corff. Wrth drafod noethni nad yw'n rhywiol, mae cyfranogwyr yn canmol y rôl gadarnhaol y gall teledu ei chwarae, gan godi ymwybyddiaeth o faterion meddygol a gwneud i bobl deimlo'n fwy cyfforddus yn mynd at y meddyg gyda phryderon iechyd sensitif neu a allai achosi embaras.

    Ystyrir mai trais graffig, realistig yw'r 'norm' ar ôl y trothwy bellach

    Mae teimlad cyffredinol ymhlith gwylwyr bod lefelau trais ar y teledu wedi cynyddu a dwysáu.  Ystyrir mai cynnwys graffig, treisgar realistig yw'r ‘norm’ ar ôl y trothwy, tra bod rhai gwylwyr yn nodi bod pynciau a oedd yn flaenorol yn dabŵ, fel ymddygiad sadistaidd a thrais rhywiol, bellach yn fwy cyffredin.

    Teimlai cyfranogwyr fod hyn yn adlewyrchu newidiadau mewn cymdeithas a chwaeth cynulleidfaoedd, tra bod eraill yn amau bod hyn wedi'i ysgogi gan yr angen am gynyddu niferoedd gwylio a chystadlu â chynnwys gwasanaethau ffrydio mwy graffig a anelir at oedolion.

    Gan ddyfynnu rhaglenni fel Game of Thrones a Peaky Blinders, dywedodd gwylwyr wrthym hefyd fod golygfeydd mwy realistig o drais – yn hytrach na darluniau ‘gosod’ o’r gorffennol – yn gwneud cynnwys dramatig yn fwy ymdrochol, cyffrous a phwerus. Roeddent hefyd yn teimlo bod portreadau modern yn fwy tebygol o ddangos canlyniadau negyddol gweithredoedd treisgar.

    Rhybuddion a'r trothwy

    Yn gyffredinol, roedd pryderon am drais a chynnwys rhywiol ar y teledu'n canolbwyntio ar yr angen am amddiffyn plant.

    Roedd y rhan fwyaf o’r bobl yn ein hastudiaeth yn gyfarwydd â’r trothwy 9pm, neu o leiaf yn ymwybodol bod cynnwys teledu darlledu mwy heriol yn cael ei amserlennu'n hwyrach yn y nos. Roeddent yn hoffi'r syniad o deledu fel 'lle diogel' i blant, gan deimlo'n dawel eu meddwl y byddai plant yn annhebygol o faglu ar draws cynnwys anaddas yn ystod y dydd neu os yw'r teledu ymlaen yn y cefndir.

    Dywedodd pobl wrthym hefyd eu bod yn dibynnu ar rybuddion i'w helpu i wneud penderfyniadau am beth i'w wylio. Disgrifiodd rhai rhieni edrych ar gynnwys gwylio fel teulu ymlaen llaw. Roeddent yn cydnabod, fodd bynnag, fod gwylio ar-alw wedi lleihau effeithiolrwydd y trothwy fel mesur rheoli i rieni.

    Cadw golwg ar newidiadau mewn agweddau

    Yng nghyd-destun arferion gwylio sy’n newid yn gyflym a thrafodaethau am reoleiddio gwasanaethau ar-alw, mae Ofcom hefyd wedi rhyddhau ail astudiaeth heddiw i ddeall yn well yr hyn y mae cynulleidfaoedd yn ei ddisgwyl o wahanol fathau o gynnwys ar y teledu, ac ar-alw.

    Dywedodd pobl yn yr astudiaeth wrthym eu bod yn gweld gwahaniaeth rhwng teledu darlledu byw a gwasanaethau ar-alw drwy danysgrifiad, fel Amazon Prime Video a Netflix, ond na wnaethant wahanu gwasanaethau ar-alw darlledwyr, megis ITVX ac iPlayer, oddi wrth deledu a ddarlledir yn fyw yn yr un modd.

    Mae ganddynt ddisgwyliadau gwahanol o ran cynnwys gan ddibynnu ar sut maen nhw'n ei wylio. Roedd llawer o'r farn bod gwasanaethau ffrydio drwy danysgrifiad yn cynnig cynnwys mwy 'eofn', fel The Boys ar Amazon Prime Video, The Punisher ar Disney+ a Jimmy Carr: His Dark Materials ar Netflix. Ond barnwyd bod hyn yn dderbyniol ar y cyfan oherwydd bod cynulleidfaoedd yn dewis beth i'w wylio yn hytrach na baglu ar ei draws.

    Bu rhywfaint o ddryswch ynghylch sut mae rheoleiddio'n ymestyn i wahanol wasanaethau, gyda phobl yn cymryd yn ganiataol bod y Cod Darlledu yn cwmpasu holl wasanaethau ar-alw darlledwyr.

    Sut y byddwn yn defnyddio'r canfyddiadau

    Gwyddom fod agweddau cymdeithasol tuag at niwed a throsedd yn newid dros amser ac felly mae'n hanfodol bod ein hymagwedd at reoleiddio hefyd yn esblygu i adlewyrchu pryderon newidiol y cyhoedd. Er mwyn ein helpu i ddeall disgwyliadau ac agweddau gwylwyr a gwrandawyr ac i lywio ein rheoleiddio yn y dyfodol, rydym yn cynnal ymchwil gynulleidfaoedd yn rheolaidd ar amrywiaeth o faterion pwysig.

    Bydd y canfyddiadau a nodir yn yr adroddiadau hyn yn helpu i'n hysbysu am effeithiolrwydd y rheolau presennol sy'n berthnasol i wasanaethau teledu darlledu ac ar-alw. Byddant hefyd yw helpu darlledwyr i ddeall disgwyliadau cynulleidfaoedd yn well wrth iddynt arfer eu rhyddid golygyddol i greu ystod eang o gynnwys.

Research on attitudes to sex and violence

Related content