21 Chwefror 2024

Radio amatur: mwy o ryddid i arloesi

O heddiw ymlaen, bydd y rhai sy'n frwd dros radio amatur yn mwynhau mwy o ryddid gweithredu o dan newidiadau i drwyddedau radio amatur a gyhoeddwyd gan Ofcom heddiw.

Mae radio amatur, a elwir weithiau'n radio ham, wedi bod yn rhan bwysig o gyfathrebiadau di-wifr ers dros ganrif. O bryd i’w gilydd, mae Ofcom yn adolygu ein hamodau trwydded i adlewyrchu newidiadau mewn technoleg a sut mae’r hobi wedi esblygu.

Y llynedd, fe wnaethom nodi sut yr oeddem yn bwriadu newid trwyddedau a pholisïau radio amatur, fel eu bod yn diwallu anghenion yr hobi'n well, nawr ac yn y dyfodol. Derbyniwyd dros 1,400 o ymatebion, a hoffem ddiolch i bawb a roddodd eu mewnbwn fel rhan o’r broses hon. Yn dilyn hyn, cyhoeddwyd ein Hysbysiad Cyffredinol o Gynigion i amrywio pob trwydded radio amatur yn unol â’r telerau ac amodau newydd arfaethedig.

A ninnau wedi ystyried yn ofalus y sylwadau a wnaed mewn ymateb i'n cynigion ym mis Rhagfyr, rydym wedi penderfynu bwrw ymlaen â diwygio'r drwydded, gyda rhai addasiadau yng ngoleuni'r sylwadau a ddaeth i law.

Mae tua 100,000 o drwyddedau radio amatur yn cael eu rhoi gan Ofcom yn y DU ar hyn o bryd. Mae'r rhain i gyd wedi'u hamrywio i bob pwrpas o heddiw ymlaen - sy'n golygu y gall selogion radio amatur nawr weithredu o dan y rheolau newydd. Mae’r newidiadau rydym yn eu gwneud i’r trwyddedau yn cynnwys:

  • Diweddaru'r fframwaith trwyddedu'n gyffredinol. Mae hyn yn cynnwys caniatáu i unrhyw un weithredu offer radio amatur o dan oruchwyliaeth deiliad trwydded a gwneud y broses o gael trwydded a'i defnyddio'n symlach ac yn gliriach.
  • Symleiddio a moderneiddio aseinio arwyddion galw. Mae hyn yn cynnwys gwneud y defnydd o Leolwyr Eilaidd Rhanbarthol (RSL) yn ddewisol, cyflwyno'r RSL 'E' at ddefnydd dewisol gan amaturiaid radio sy'n gweithredu yn Lloegr, a symleiddio telerau'r drwydded ar y defnydd o ôl-ddodiaid arwyddion galw.
  • Addasu paramedrau technegol. Mae hyn yn cynnwys cynyddu'r uchafswm pŵer y caniateir i amaturiaid radio ei ddefnyddio yn y rhan fwyaf o fandiau amledd.
  • Darparu rheolau cliriach wedi'u diweddaru. Mae hyn yn cynnwys symleiddio amodau i’w gwneud nhw'n haws eu deall a dileu darpariaethau nad oes eu hangen at ddibenion rheoli sbectrwm.

Er bod y rheolau newydd yn berthnasol o heddiw ymlaen, bydd angen i ni ailgyhoeddi'r holl drwyddedau a byddwn yn ceisio cwblhau'r broses hon erbyn hydref 2024. Cyn bo hir byddwn yn dechrau ysgrifennu at ddeiliaid trwydded i roi dogfen drwydded newydd i bob un. Byddwn yn cysylltu â thrwyddedeion dros e-bost neu drwy'r post gan ddibynnu ar eu dull cyfathrebu dewisol. Yn y cyfamser, gall trwyddedeion gyrchu'r Llyfryn Amodau Trwydded Cyffredinol Radio Amatur o'n gwefan neu gysylltu â ni i ofyn amdano mewn fformat arall.

Bydd rhai elfennau o’n penderfyniadau polisi ym mis Rhagfyr 2023 yn cael eu gweithredu'n ddiweddarach. Byddwn yn diweddaru ein harweiniad pan ddaw'r newidiadau hyn i rym.

Related content