24 Ebrill 2024

Darlledwyr yn cael eu rhybuddio i gynnal didueddrwydd dyladwy cyn yr Etholiad Cyffredinol

  • Gwylwyr a gwrandawyr yn dweud eu dweud ar wleidyddion sy'n cyflwyno rhaglenni teledu a radio
  • Adborth gan gynulleidfaoedd yn cefnogi'n fras y rheolau 'didueddrwydd dyladwy' presennol yn y Cod Darlledu
  • Ofcom yn cyhoeddi arweiniad cryfach i'r diwydiant ynghylch y rheol ar wleidyddion fel cyflwynwyr

Mae ymchwil newydd yn tanlinellu’r gwerth sylweddol y mae gwylwyr a gwrandawyr yn ei roi ar ddidueddrwydd dyladwy wrth i Ofcom rybuddio darlledwyr bod yn rhaid iddynt gynnal y safonau golygyddol uchaf cyn yr Etholiad Cyffredinol.

Mae'r ymchwil ansoddol, sy'n cael ei gyhoeddi heddiw, yn archwilio dealltwriaeth cynulleidfaoedd o gynnwys newyddion a materion cyfoes a’u disgwyliadau o ddidueddrwydd dyladwy pan fydd gwleidyddion yn cyflwyno. Bu i ni gomisiynu'r astudiaeth yn sgil cynnydd yn y nifer o raglenni a gyflwynir gan wleidyddion, y diddordeb cyhoeddus brwd yn y mater hwn, ac i adeiladu ein tystiolaeth er mwyn llywio ein gwaith.

Roedd yn cynnwys 29 o grwpiau ffocws gyda 157 o gyfranogwyr o amrywiaeth o gefndiroedd, gan adlewyrchu gwahanol dueddiadau gwleidyddol ac arferion cael gafael ar gyfryngau o bob cwr o'r DU.[1]

Mae’r adroddiad yn cofnodi amrywiaeth eang o farn ond, yn gyffredinol, mae adborth gan gynulleidfaoedd yn cefnogi dyluniad bras y rheolau didueddrwydd dyladwy presennol o dan y Cod Darlledu. Mae'n nodi'r canlynol:

  • Mae gwylwyr a gwrandawyr yn rhoi gwerth mawr ar ddidueddrwydd dyladwy fel gofyniad pwysig, yn enwedig ar gyfer rhaglenni newyddion. Mae pobl yn teimlo y dylid dal newyddion at y safonau uchaf o ddidueddrwydd, ac yn croesawu’r gofynion llymach sydd eisoes yn berthnasol iddo o dan y Cod. Mae cynulleidfaoedd wedi'u cysuro gan y cyfyngiadau presennol sy'n atal gwleidyddion rhag cyflwyno cynnwys newyddion. Teimlant yn gryf fod gan bob gwleidydd safbwynt pleidiol a fyddai’n bwrw amheuaeth ar ddidueddrwydd dyladwy newyddion pe bai’n cael ei gyflwyno ganddynt.
  • Mae cynulleidfaoedd yn cydnabod y gwahanol elfennau golygyddol a all bennu a yw cynnwys yn newyddion neu’n faterion cyfoes, ond maent yn ei chael yn heriol dosbarthu cynnwys fel y naill na’r llall yn ymarferol, yn enwedig os yw rhaglen yn cynnwys y ddau. Mae cyfranogwyr yn gyffredinol yn cysylltu cynnwys newyddion â dulliau adrodd byrrach, sy'n torri, ffeithiol a byw, yn aml gan droi at ohebydd yn y fan a'r lle. Ystyrir cynnwys materion cyfoes i fod yn drafodaeth ffurf hir sy’n cael ei harwain gan farn, a all gynnwys cwestiynau gan westeion neu gynulleidfaoedd. Er i gynulleidfaoedd dderbyn y gall rhaglen gynnwys cymysgedd o newyddion a materion cyfoes, maent yn teimlo y gall y gwahaniaeth fynd yn niwlog weithiau oherwydd y cyflwyniad gweledol a'r ffaith bod pynciau tebyg yn cael sylw. Maent yn teimlo y gall darlledwyr wneud mwy i fynd i'r afael â'r dryswch hwn.
  • Mynegodd pobl amrywiaeth o safbwyntiau am wleidyddion yn cyflwyno rhaglenni materion cyfoes, ond er y bu pryderon, nid oes consensws clir y dylid ei wahardd yn llwyr. Mae barn ar y mater hwn yn gymysg; roedd rhai grwpiau'n anghyfforddus ag ef, roedd rhai'n llai pryderus, ac roedd rhai eraill yn gefnogol. Mae cynulleidfaoedd hefyd yn cydnabod bod yna fanteision ac anfanteision i'r fformat golygyddol hwn. Er enghraifft, ceir pryderon y gallai gwleidyddion hyrwyddo agenda neu gamarwain cynulleidfaoedd nad ydynt efallai’n eu hadnabod fel gwleidydd. Ar y llaw arall, mae pobl yn ystyried bod yr arfer hwn yn darparu llwyfan ar gyfer mwy o atebolrwydd cyhoeddus. Bu i gyfranogwyr gydbwyso pryderon hefyd ynghylch diffyg didueddrwydd dyladwy posibl yn erbyn pwysigrwydd rhyddid mynegiant. Roedd llawer yn glir y dylai fod gan wylwyr a gwrandawyr hawl i dderbyn gwybodaeth a syniadau trwy ystod o wahanol raglenni neu fformatau a ffurfio eu barn eu hunain. Ac er bod ganddynt amheuon ynghylch gwybodaeth a ddarperir gan wleidyddion, oherwydd lefelau isel o ymddiriedaeth, teimlai cyfranogwyr na fu i ddefnyddio gwleidyddion fel cyflwynwyr rhaglenni materion cyfoes erydu eu ffydd gyffredinol mewn cyfryngau darlledu.
  • Mae cynulleidfaoedd yn disgwyl i ddarlledwyr sy’n defnyddio gwleidyddion fel cyflwynwyr fod yn arbennig o ofalus i gynnal didueddrwydd dyladwy ac awgrymu mesurau lliniaru a allai helpu lleddfu pryderon. Mae’r rhain yn cynnwys dweud wrth gynulleidfaoedd pan fydd gwleidydd yn cyflwyno a’r blaid y maent yn perthyn iddi, gwneud y gwahaniaeth rhwng cynnwys newyddion a materion cyfoes yn gliriach, a sicrhau bod gwleidyddion yn cyflwyno safbwyntiau amgen yn gadarn a gyda pharch.

Canllawiau newydd cryfach i'r diwydiant ar ddefnyddio gwleidyddion fel cyflwynwyr

Ar wahân - a chan ddilyn cyfres o benderfyniadau am raglenni a gyflwynwyd gan wleidyddion y nodwyd eu bod wedi torri Rheolau 5.1 a 5.3 y Cod - mae nifer o wersi pwysig i ddarlledwyr wedi cael eu hymwreiddio i ganllawiau cryfach ar gyfer diwydiant, sydd hefyd yn cael eu cyhoeddi heddiw.

Er na fu i'r penderfyniadau hyn a’r canllawiau wedi’u diweddaru ystyried canfyddiadau’r ymchwil gynulleidfaoedd, maent yn ymdrin â nifer o themâu cyffredin. Mae'r canllawiau'n atgyfnerthu'r gwaharddiad ar wleidyddion yn cyflwyno newyddion. Mae'n atgoffa darlledwyr, am fod gan wleidyddion rôl gynhenid bleidiol mewn cymdeithas, bod cynnwys newyddion a gyflwynir ganddynt yn debygol o gael ei ystyried gan gynulleidfaoedd yng ngoleuni’r canfyddiad hwnnw o duedd, a fyddai'n peri'r risg o danseilio cyfanrwydd a chredadwyedd newyddion a ddarlledir.

Mae’r canllawiau hefyd yn ei gwneud yn glir bod darlledwyr yn cadw'r rhyddid golygyddol i greu rhaglenni sy’n symud rhwng cynnwys newyddion a materion cyfoes. Ond mae’n rhybuddio, os bydd darlledwr yn dewis defnyddio gwleidydd fel gwesteiwr rhaglen o’r fath, bod yn rhaid iddo sicrhau nad yw’n gweithredu fel darllenydd newyddion, cyfwelydd newyddion na gohebydd newyddion unrhyw bryd yn ystod y rhaglen honno.

Rhybudd i ddarlledwyr sy'n defnyddio gwleidyddion fel cyflwynwyr mewn rhaglenni etholiad

Gydag Etholiad Cyffredinol i’w gynnal cyn 25 Ionawr 2025, rydym hefyd yn rhoi rhybudd i ddarlledwyr i gynnal y lefel fwyaf o ddidueddrwydd dyladwy, yn unol â’n rheolau manylach sy’n berthnasol yn ystod cyfnodau etholiad. Mae unrhyw achosion o dorri rheolau rhaglenni etholiad yn debygol o fod yn ddifrifol ac o olygu y bydd Ofcom yn ystyried gosod sancsiynau statudol.

Yn benodol, atgoffir darlledwyr bod Rheol 6.6 y Cod yn gwahardd ymgeiswyr yn etholiadau’r DU rhag gweithredu fel cyflwynwyr neu gyfwelwyr newyddion neu fel cyflwynwyr unrhyw fath o raglen yn ystod cyfnod etholiad. Gall gwleidyddion nad ydynt yn sefyll fel ymgeiswyr mewn etholiad yn y DU gyflwyno rhaglenni nad ydynt yn newyddion - gan gynnwys materion cyfoes - yn ystod cyfnodau etholiad, ar yr amod bod y rhaglen honno'n cydymffurfio â holl reolau perthnasol y Cod.

Rydym yn disgwyl i bob darlledwr sy’n defnyddio gwleidyddion fel cyflwynwyr roi sylw penodol i ganfyddiadau ein hymchwil gynulleidfaoedd newydd, ein canllawiau wedi’u diweddaru a phenderfyniadau safonau diweddar i lywio eu penderfyniadau golygyddol a helpu sicrhau bod eu rhaglenni’n cydymffurfio. Yng ngoleuni’r cyhoeddiadau hyn, rydym yn debygol o weld bod achosion o dorri’r rheolau didueddrwydd dyladwy mewn rhaglenni etholiadol a gyflwynir gan wleidyddion nad ydynt yn sefyll fel ymgeiswyr yn rhai difrifol, a gallwn ystyried gosod sancsiynau statudol.

Fel bob amser, bydd Pwyllgor Etholiadau Ofcom yn cyflymu'r gwaith o asesu ac ymchwilio i unrhyw raglenni etholiadol sy'n denu cwynion, neu y byddwn yn nodi ein hunain fel rhai a allai beri problemau. Mae unrhyw achosion o dorri rheolau rhaglenni etholiad yn debygol o fod yn ddifrifol ac o olygu y bydd Ofcom yn ystyried gosod sancsiynau statudol.

Dywedodd Cristina Nicolotti Squires, Cyfarwyddwr Grŵp Darlledu a Chyfryngau Ofcom: “Mae gwylwyr a gwrandawyr wrth wraidd popeth a wnawn. Dyna pam yr oedd mor bwysig rhoi cyfle i gynulleidfaoedd o bob cefndir, bob rhan o'r wlad a phob perswâd gwleidyddol gael dweud eu dweud yn fanwl ar y pwnc llosg o wleidyddion yn cyflwyno rhaglenni.

“Tra bod gwylwyr a gwrandawyr wedi mynegi amrywiaeth o safbwyntiau, mae’r adborth yn gyffredinol yn cefnogi hanfodion y rheolau darlledu cadarn sydd gennym eisoes. Mae pobl yn glir eu bod yn disgwyl i ddarlledwyr gynnal y safonau uchaf o ddidueddrwydd dyladwy. Gan hynny, o ystyried safbwynt rhannol gwleidyddion, nid yw cynulleidfaoedd eisiau gweld na gwrando ar wleidyddion yn cyflwyno newyddion – ar unrhyw gyfrif. Ond er bod llawer yn reddfol anghyfforddus gyda gwleidyddion yn cyflwyno materion cyfoes, ni fu consensws clir i'w wahardd yn llwyr.

“Mae yna nifer o wersi pwysig yma i ddarlledwyr. Disgwyliwn iddynt roi sylw manwl i’r hyn y mae eu gwylwyr a’u gwrandawyr yn ei ddweud wrthynt drwy’r ymchwil, ein penderfyniadau cyhoeddedig mewn perthynas â gwleidyddion fel cyflwynwyr, ac i’n canllawiau cryfach ar sut yr ydym yn disgwyl i’r rheolau gael eu cymhwyso'n ymarferol.

“Wrth i ni nesáu at yr etholiadau lleol a gydag Etholiad Cyffredinol ar y gorwel, rydym hefyd yn anfon rhybudd clir i ddarlledwyr - ac yn enwedig y rhai sy'n defnyddio gwleidyddion fel cyflwynwyr - na fydd dim byd llai na'r safonau uchaf o gydymffurfiaeth â'r rheolau didueddrwydd uwch manylach yn dderbyniol yn ystod y cyfnod hwn. Os bydd unrhyw ddarlledwr yn methu â chyrraedd y nod, byddwn yn gweithredu'n gyflym i orfodi’r rheolau hynny.”

Nodiadau i olygyddion

  1. O'r 29 o grwpiau ffocws, roedd hyn yn cynnwys 11 gyda chynulleidfaoedd sianeli lle mae gwleidyddion wedi bod yn cyflwyno rhaglenni materion cyfoes yn fwy rheolaidd. Defnyddiwyd dull ansoddol fel ffordd o ddeall y gwahaniaethau bach mewn safbwyntiau, y rhesymau dros farn cyfranogwyr unigol ac o gofnodi'r cyfaddawdau dan sylw, yn hytrach nag ymchwil feintiol sy’n canolbwyntio ar “faint”. Cynhaliwyd y gwaith maes rhwng 16 Awst a 11 Hydref 2023.

Related content